Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio a ganslwyd

Rhaid i chi gofnodi manylion pob papur pleidleisio drwy'r post a ganslwyd ar un rhestr. Rhaid i chi hefyd greu rhestrau ar wahân ar gyfer papurau a ddifethwyd, a gollwyd neu a ganslwyd yn cynnwys y manylion a amlinellir o dan y penawdau isod. 

Rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd

Rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd gynnwys:1

  • enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr etholwyr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol)
  • os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y difethwyd ei bapur pleidleisio, enw a chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post 
  • rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd

Rhestr o bapurau pleidleisio a gollwyd

Rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio a gollwyd gynnwys:2

  • enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol) 
  • os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y collwyd ei bapur pleidleisio, enw a chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post 
  • rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd 

Rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd o ganlyniad i unrhyw newid i drefniadau pleidleisio absennol ar ôl i bleidlais bost gael ei hanfon

Rhaid i'r rhestr hon o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd gynnwys:3  

  • enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol) 
  • os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y canslwyd ei bapur pleidleisio, enw a  chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post 
  • rhif y papurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd
  • rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd

Rhaid i gynnwys unrhyw becyn pleidleisio drwy'r post a ganslwyd, gan gynnwys unrhyw amlenni, gael eu gwneud yn becyn a'u selio. Dim ond er mwyn cynnwys dogfennau ychwanegol a ganslwyd yn y pecyn yr agorir y sêl.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023