Rheoli problemau gyda chynhyrchu neu ddosbarthau pleidleisiau post
Er y bydd rhoi mesurau sicrhau ansawdd cadarn ar waith yn eich helpu i sicrhau y bydd cyflenwyr yn darparu gwasanaethau yn gywir, mae'n bwysig bod yn barod i reoli unrhyw wallau neu broblemau a all godi. Cyn gynted ag y cewch wybod am broblem, naill ai drwy uwchgyfeirio gan eich cyflenwr neu drwy fod mewn cysylltiad ag etholwyr, mae'n bwysig siarad â'ch cyflenwr er mwyn ceisio deall maint a chwmpas y broblem ac ystyried y cynlluniau wrth gefn sydd gennych yn barod fel y bo'n briodol, gan y bydd hyn yn effeithio ar y penderfyniadau a wnewch ynghylch sut i ddatrys y broblem.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch pa gamau i'w cymryd, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni fel y gallwn drafod y broblem â chi a rhoi cyngor a chymorth wedi'u teilwra i chi ynglŷn â sut i'w rheoli.
Pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol gennych a phan fyddwch wedi ystyried y cyngor priodol ac wedi penderfynu pa gamau i'w cymryd, dylech gytuno ar gynlluniau â'ch cyflenwr yn unol â hynny a chadw mewn cysylltiad agos ag ef wrth i'r cynlluniau wrth gefn hyn gael eu rhoi ar waith. Gall hyn olygu y bydd angen ailwirio a chymeradwyo proflenni neu ffigurau data ar frys – ond mae'n bwysig eich bod yn dal i sicrhau y caiff gwiriadau sicrhau ansawdd eu cynnal er mwyn osgoi unrhyw wallau pellach.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau ar sicrhau ansawdd.
Bydd hefyd angen i chi ystyried pa negeseuon ychwanegol y gall fod angen eu hanfon at etholwyr neu ymgeiswyr ac asiantiaid o ganlyniad i'r broblem; unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gall unigolion cyswllt yn y Comisiwn eich helpu i'w ystyried felly mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni i drafod y mater cyn gynted â phosibl.
I gael gwybod sut i gysylltu â'ch tîm Comisiwn lleol, gweler ein tudalen Cysylltu â ni.
Yn dibynnu ar y penderfyniad y byddwch yn ei wneud o ganlyniad i unrhyw broblem, mae'n bosibl y bydd angen i chi ddarllen ein canllawiau ar ailanfon o ganlyniad i wall gweithdrefnol.