Cadw cofnodion o becynnau pleidleisio drwy'r post a gaiff eu derbyn a'u hagor
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r mesurau Ymdrin â Phleidleisiau Post o'r Ddeddf Etholiadau unwaith y bydd yr is-ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gosod a'r prosesau wedi'u cwblhau. Byddwn yn cadarnhau pryd y caiff hwn ei gyhoeddi drwy'r Bwletin GE.
Mae cadw cofnodion o bleidleisiau post a gaiff eu derbyn a'u hagor yn allweddol er mwyn cynnal trywydd archwilio clir.
Mae'n ofynnol i chi gwblhau datganiad mewn perthynas â'r papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth1
a bydd y cofnodion a gedwir gennych yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn gywir.
Dylech sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen ar gyfer y datganiad wedi'u cofnodi'n gywir wrth dderbyn, agor a chadarnhau pleidleisiau post. Dylech wneud y canlynol:
cynnal trywydd archwilio clir ar gyfer derbyn ac agor pecynnau pleidleisio drwy'r post
cofnodi cyfanswm nifer yr amlenni a gaiff eu derbyn
cofnodi nifer yr amlenni a gaiff eu cyfrif
sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r datganiad mewn perthynas â phapurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cofnodi'n gywir
cadw cofnod o gyfanswm nifer yr amlenni a dderbyniwyd yn eich swyddfa ac a roddwyd mewn blwch pleidleisio i bleidleiswyr post at ddibenion archwilio er mwyn cymharu â nifer yr amlenni a gyfrifwyd fel rhan o'r broses agor
cwblhau cyfrif papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pob blwch pleidleisio drwy'r post – mae templed ar gael yma
paratoi rhestr yn cofnodi'r canlynol:
cyfanswm nifer y pleidleisiau post a roddir ym mhob blwch
cyfanswm nifer y blychau pleidleisio i bleidleiswyr post
trefnu papurau pleidleisio mewn sypiau er mwyn sicrhau y gallwch gasglu a chanslo papur pleidleisio penodol os bydd angen – er enghraifft, os bu'n rhaid ailanfon yn dilyn gwall gweithdrefnol
I gael gwybodaeth am gadw cofnod o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a wrthodwyd, gweler ein canllawiau ar fwrw golwg dros y dynodyddion personol.
1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 91, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 91↩ Back to content at footnote 1