Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Bwrw golwg dros y dynodyddion personol

Rhaid i chi wirio'r dynodyddion ar yr holl ddatganiadau pleidleisiau post a ddychwelwyd1 .

Etholaethau trawsffiniol

Os mai chi yw Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol bydd angen i chi ystyried effaith hyn ar eich prosesau ar gyfer gwirio dynodyddion personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd, a ph'un a oes angen i chi ddirprwyo rhai o'ch swyddogaethau i uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill. Bydd angen i chi benderfynu sut y cewch y data gan yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill yn ogystal ag ystyried cyfran yr etholaeth a gynhwysir yn yr ardal(oedd) awdurdod lleol arall/eraill. Dylech gydweithio'n agos â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol a staff gwasanaethau etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill perthnasol ar gam cynnar yn y broses cynllunio etholiad er mwyn nodi unrhyw faterion posibl a sut yr ymdrinnir â'r rhain.  

Bwrw golwg dros y dynodyddion personol

Os byddwch wedi dirprwyo awdurdod i berson arall wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post wrth ddilysu dynodyddion pleidleisio drwy'r post, dylech roi copi o Ganllawiau'r Comisiwn a'r Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion  i'r unigolyn a rhoi cyfarwyddyd iddo i'w dilyn.

Yn y tabl isod ceir canllaw ar wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid derbyn neu wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.

When to accept a returned postal vote statement:

Wedi darparu Ilofnod? Wedi darparu dyddiad geni? Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu?
Gwag Do Do
Do Wedi'i ddarparu ond mewn fformat gwahanol e.e. diwrnod a mis yn y drefn groes Dd/G

When to reject a returned postal vote statement:

Wedi darparu Ilofnod? Wedi darparu dyddiad geni? Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu?
Gwag Do Naddo
Gwag Gwag Naddo
Do Gwag Naddo
Do Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post Naddo
Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post Do Naddo
Do Dyddiad y cwblhawyd y bleidlais bost wedi'i ddarparu drwy gamgymeriad  Dd/G

Nid oes rhaid i'ch penderfyniad ynghylch datganiad pleidleisio drwy'r post fod yn seiliedig ar y wybodaeth ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a'r cofnod dynodyddion personol yn unig.  

Pan fyddwch yn penderfynu, gallwch gyfeirio at ffynonellau eraill, er enghraifft, y llofnod a ddarparwyd ar ffurflen gofrestru, neu ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych. Er enghraifft, efallai y bydd etholwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod wedi torri ei fraich ers rhoi ei ddynodyddion i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ac na all lofnodi ei enw yn ôl yr arfer. 

Gallech benderfynu derbyn ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post fel un dilys os byddwch yn fodlon ar hyn, hyd yn oed os yw'r llofnod yn edrych yn wahanol i'r un ar y cofnod dynodyddion personol. 

Dylai pob penderfyniad ar ddatganiad pleidleisio drwy'r post fod ar sail unigol. 

Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post wrthwynebu datganiad pleidleisio drwy'r post. Os byddant yn gwrthwynebu gwrthodiad, rhaid nodi ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’1   ar y datganiad pleidleisio drwy'r post cyn ei atodi i amlen y papur pleidleisio a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
 
Nid oes gan arsylwyr na chynrychiolwyr achrededig yr hawl i wrthwynebu achos o wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023