Darperir ar gyfer y prosesau ar gyfer agor pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn deddfwriaeth:
Cam 1: agor y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post1
cyfrif a chofnodi nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd (h.y., nifer yr amlenni ‘B’ yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post)
agor prif amlen ‘B’ a thynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlen papur pleidleisio allan
cadarnhau bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen ‘A’)
rhoi marc yn y rhestr pleidleiswyr post, neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y bo'n briodol i ddangos bod datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd
sicrhau bod yr etholwr wedi llofnodi'r datganiad ac wedi rhoi dyddiad geni
cadarnhau bod y llofnod a'r dyddiad geni ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r hyn a geir ar y cofnod dynodyddion personol
os gwrthodwch ddatganiad pleidleisio drwy'r post, rhaid i chi nodi ‘gwrthodwyd’ ar y datganiad, ei atodi i amlen y papur pleidleisio (os nad oes amlen o'r fath rhaid i chi ei atodi i'r papur pleidleisio) a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd. Cyn ei roi yn y blwch, rhaid i chi ei ddangos i'r asiantiaid ac, os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu eich penderfyniad, rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”. Dylech hefyd gofnodi'r rheswm dros ei wrthod
agor yr amlen papur pleidleisio (amlen 'A') a thynnu'r papur pleidleisio, gan sicrhau bod y papur pleidleisio yn cael ei gadw wyneb i lawr drwy'r amser
cadarnhau bod y rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) yn cyfateb i'r rhif ar gefn y papur pleidleisio
rhoi'r papur(au) pleidleisio yn y blwch neu'r blychau pleidleisio drwy'r post)
Dylech wirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd i sicrhau y gellir paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, gan alluogi'r pleidleisiau post hynny i gael eu hailgyflwyno i'r broses.
1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 84, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 84↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 85A, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 85A↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 86, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 86↩ Back to content at footnote 3
4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 89, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 89↩ Back to content at footnote 4