Ffilmio a thynnu lluniau mewn gorsafoedd pleidleisio
Ein cyngor ni yw na ddylech ganiatáu i luniau gael eu tynnu na ffilmio tu mewn i orsafoedd pleidleisio.
Mae’r gyfraith o ran caffael gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio a datgelu gwybodaeth o’r fath yn gymhleth ac mae risg bod rhywun sy’n tynnu llun neu ffilmio tu mewn i orsaf bleidleisio yn torri’r gyfraith, boed yn fwriadol ai peidio. Fodd bynnag, dylai staff fod yn ymwybodol y gallai rhai pleidleiswyr fod angen defnyddio apiau ar eu ffonau symudol neu ddyfeisiau eraill i'w helpu i ddarllen dogfennau, a dylent ganiatáu iddynt wneud hynny.
Os bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gweld etholwyr neu unrhyw un arall yn yr orsaf bleidleisio yn ffilmio neu'n tynnu lluniau, dylent roi gwybod i'r Swyddog Llywyddu (PO). Gall y PO wedyn drafod y mater gyda'r unigolyn yn uniongyrchol a gofyn iddo roi'r gorau iddi.
Gallech benderfynu ar arddangos hysbysiad tu mewn i orsafoedd pleidleisio i nodi’n glir na chaniateir unrhyw fath o ffotograffiaeth na ffilmio (gan gynnwys lluniau a dynnir ar ffonau symudol neu ffilmio a dynnir gan ddefnyddio ddyfeisiau clyfar y gellir eu gwisgo, megis sbectol clyfar).