| Argraffu'r canllawiau llawn

Delio â phapurau pleidleisio wedi torri neu rwygo

Weithiau, mae'n bosibl y bydd etholwyr wedi torri neu rwygo eu papurau pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd. Bydd angen i chi benderfynu a yw'r darn a ddychwelwyd yn bapur pleidleisio dilys.  

Gall fod sawl senario dan sylw:

Senario Derbyn ar y cam dilysu pleidleisiau post? Derbyn yn y cyfrif?
Mae'r darn yn cynnwys rhif y papur pleidleisio a'r marc swyddogol Bydd y ‘papur pleidleisio’ yn mynd drwy'r broses dilysu pleidleisiau post (am ei fod yn cynnwys rhif y papur pleidleisio) ac yn cael ei gyfrif.  Gellid ei dderbyn yn bleidlais ddilys adeg y cyfrif, ar yr amod bod bwriad y pleidleisiwr yn glir.
Mae'r darn ond yn cynnwys rhif y papur pleidleisio a dim marc swyddogol Bydd y ‘papur pleidleisio’ yn mynd drwy'r broses dilysu pleidleisiau post ac yn cael ei gyfrif. Rhaid ei wrthod adeg y cyfrif am nad yw'n cynnwys y marc swyddogol.
Mae'r darn ond yn cynnwys y marc swyddogol a dim rhif papur pleidleisio Rhaid gwrthod y ‘papur pleidleisio’ ar y cam dilysu pleidleisiau post oherwydd ni chaiff ei baru wrth agor amlen ‘A’ nac yn erbyn y datganiad pleidleisio drwy'r post. Dd/G
Nid yw'r darn yn cynnwys y marc swyddogol na rhif y papur pleidleisio Rhaid gwrthod y ‘papur pleidleisio’ ar y cam dilysu pleidleisiau post oherwydd, unwaith eto, ni chaiff ei baru wrth agor amlen ‘A’ nac yn erbyn y datganiad pleidleisio drwy'r post. Dd/G
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023