Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion
Ar ôl etholiad, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hysbysu pleidleiswyr drwy'r post os gwrthodwyd eu pleidlais bost am iddi fethu gwiriadau dynodyddion personol a'u hysbysu am y rheswm penodol dros ei gwrthod.1
Rhaid i chi gadw cofnod o'r categorïau a ddefnyddir gennych i wrthod datganiadau pleidleisio drwy'r post unigol.
Rhaid rhoi cyfrif am bob datganiad pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd. Rhaid i chi gadw rhestr o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol.
Rhaid i'r rhestr hon gynnwys, ar gyfer pob pleidlais bost o'r fath a wrthodwyd:2
enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
rhif yr etholwr ar y gofrestr etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
y rheswm neu'r rhesymau penodol dros wrthod y datganiad pleidleisio drwy'r post
unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r gwrthodiad sy'n briodol yn eich barn chi, ond nid rhif y papur pleidleisio
Y rhesymau penodol dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post yw:3
nid yw'r llofnod yn cyfateb i'r enghraifft a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
nid yw'r dyddiad geni yn cyfateb i'r un a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
mae'r blwch llofnod yn wag
mae'r blwch dyddiad geni yn wag
Os bydd pleidleisiwr drwy'r post yn ymddangos ar y rhestr o bleidleisiau post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r pleidleisiwr drwy'r post am y gwrthodiad o fewn tri mis i ddyddiad yr etholiad.4
Nid oes rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol anfon hysbysiad os byddwch yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni mewn perthynas â phleidlais bost benodol.5
Felly, dylech gadw cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni a'u hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, fel ei fod yn gwybod ym mha achosion na ddylai anfon hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost. Dylech wneud hyn pan fyddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiadol eraill at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Lle yr amheuir twyll, dylech roi cynnwys y pecyn pleidleisio drwy'r post mewn pecyn ar wahân a hysbysu eich Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu lleol. Dylech drafod y pecyn pleidleisio drwy'r post cyn lleied â phosibl a, lle bo modd, wneud nodyn o bawb sydd wedi ei drafod.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canlllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr ar anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidlais bost.
1. Para 59A Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1