| Argraffu'r canllawiau llawn

Cludo'r blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn ddiogel

Ar y cyd â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr Heddlu, dylech benderfynu sut y byddwch yn sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn cael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu a chyfrif. 

Fel rhan o hyn, bydd angen i chi asesu a oes gennych unrhyw ardaloedd uchel eu risg a allai olygu bod angen defnyddio gosgordd yr heddlu, fan ddiogelwch neu swyddogion ychwanegol, er enghraifft, er mwyn trosglwyddo'r blychau pleidleisio o'r orsaf bleidleisio i'r lleoliad dilysu/man casglu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.  

Diogelwch wrth gludo

Dylech sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn ymwybodol o'r rheolau a'r prosesau y dylid eu dilyn ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys mewn perthynas â selio'r blychau pleidleisio. Ceir canllawiau ar hyn yn llawlyfr y Comisiwn ar gyfer gorsafoedd pleidleisio. Dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu na ddylent byth adael y blychau pleidleisio na deunyddiau eraill heb neb i ofalu amdanynt ac os mai nhw eu hunain fydd yn cludo'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau i fan casglu neu'r lleoliad dilysu, dylent gymryd camau i sicrhau eu bod yn ddiogel drwy gydol y daith, er enghraifft, drwy gloi drysau'r car a dilyn unrhyw gyngor penodol gan yr heddlu.

Os bydd y broses gyfrif ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn digwydd mewn lleoliad gwahanol i'r broses ddilysu, rhaid i chi roi'r holl bapurau pleidleisio wedi'u dilysu mewn pecynnau diogel, megis blychau pleidleisio, i'w cludo i leoliad y cyfrif.1 Rhaid i chi roi enw eich ardal bleidleisio ac enw ardal yr heddlu ar y pecynnau hyn.2

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu i drafod trefniadau penodol ar gyfer cludo'r papurau pleidleisio wedi'u dilysu i leoliad y cyfrif. 

Hefyd, rhaid i chi lunio cofnod o gynnwys pob un o'r pecynnau o bapurau pleidleisio wedi'u dilysu rydych yn eu cludo i leoliad cyfrif yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.3 Rhaid i chi anfon y cofnod hwn, y cyfrifon papurau pleidleisio a'r datganiad terfynol o ganlyniad y broses ddilysu i leoliad cyfrif yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ynghyd â'r pecynnau o bapurau pleidleisio wedi'u dilysu.4

Dylech drafod y trefniadau ar gyfer cludo'r pecynnau ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys enwau'r personél dan sylw, â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, a chytuno arnynt. Ar ôl i'r pecynnau o bapurau pleidleisio wedi'u dilysu gyrraedd lleoliad y cyfrif, mae'n bosibl y bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn gofyn i chi ddilysu cynnwys pob pecyn cyn i'r pleidleisiau hyn gael eu cyfrif.

Yn lleoliad y cyfrif, dylai fod gennych drefniadau cadarn i gofnodi'r holl ddeunyddiau a gwaith papur a fydd yn cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth ar goll.

Diogelwch yn y lleoliad dilysu

Dylech wneud trefniadau ar gyfer sut y caiff y papurau pleidleisio a deunyddiau eraill eu cadw'n ddiogel ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad(au) dilysu a chyfrif, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydynt byth yn cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.

Dylai'r cynlluniau hyn hefyd gynnwys diogelwch y deunyddiau hynny y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl (fel y rhestr rhifau cyfatebol), naill ai drwy drefnu bod staff yn cadw llygad ar y deunyddiau neu drwy eu cadw mewn ystafell dan glo.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Chwefror 2025