Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cyfansymiau lleol dros dro ac ailgyfrif

Yn ystod y cam cynllunio, bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi rhoi gwybod i chi am y prosesau sydd ar waith ar gyfer ystyried y cyfanswm lleol dros dro a delio â cheisiadau am ailgyfrif.

Cyfansymiau lleol dros dro

Pan fyddwch yn fodlon bod nifer y pleidleisiau dros bob ymgeisydd yn gywir, gallwch fynd ati i baratoi'r canlyniad lleol dros dro a rhoi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu.  Pan fydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi'ch awdurdodi, rhaid i chi rannu'r cyfansymiau lleol â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol 1 a gofyn am eu cytundeb. 

Dylech egluro bod gan yr ymgeiswyr, yr asiantiaid etholiad neu'r asiant cyfrif dynodedig yr hawl i ofyn am i'r cyfansymiau lleol gael eu hailgyfrif.

Pan fyddwch yn fodlon na fyddwch yn cael cais am ailgyfrif, rhaid i chi baratoi'r datganiad ynghylch diwedd y broses gyfrif.
 

Gweithdrefnau ailgyfrif

Rhaid i chi roi digon o amser i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ystyried y cyfansymiau lleol dros dro cyn bwrw ymlaen â cham nesaf y broses.2 Ar yr adeg hon, gall ymgeiswyr ac asiantiaid wneud cais am i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif neu, ar ôl eu hailgyfrif, eu hailgyfrif eto.3  

Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu eich cyfarwyddo i ailgyfrif y pleidleisiau ar ôl cael gwybod y cyfansymiau lleol dros dro os oes ganddo/ganddi reswm dros amau nad yw'r pleidleisiau yn eich ardal wedi cael eu cyfrif yn gywir. Os rhoddwyd cyfarwyddyd i ailgyfrif, pan fydd y broses ailgyfrif honno wedi'i chwblhau, dylai proses y cyfanswm lleol dros dro ddechrau eto. 

Rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif ond, yn ôl y gyfraith, cewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.4 Fodd bynnag, gallwch ystyried cynnig cyfle i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid archwilio'r bwndeli o bapurau pleidleisio fel ffordd o gael sicrwydd bod y cyfanswm lleol yn gywir.

Os byddwch yn cytuno i ailgyfrif y cyfanswm lleol,5 dylech roi gwybod i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol yn y cyfrif cyn i'r broses ailgyfrif ddechrau a'u briffio ar y prosesau rydych yn bwriadu eu dilyn. Fel yn achos y broses gyfrif wreiddiol, dylech gynnal unrhyw broses ailgyfrif yng ngolwg y rhai sy'n bresennol. Mae gennych hawl i ailystyried pa bapurau pleidleisio y dylid eu gwrthod yn ystod y broses ailgyfrif (neu unrhyw broses ailgyfrif arall).6

Rhaid i chi ymgynghori ynglŷn â'r canlyniad lleol dros dro diwygiedig yn yr un modd ag yr ymgynghorwyd ynglŷn â'r cyfansymiau dros dro ar ôl i'r broses gyfrif wreiddiol ddod i ben. 

Mae modd cynnal mwy nag un broses ailgyfrif. Unwaith eto, rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif a chewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.7  

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023