Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cysoni cyfansymiau cyfrif

Ar ôl i'r holl bapurau pleidleisio gael eu didoli ac ar ôl i ddyfarniadau ynglŷn ag unrhyw bleidleisiau amheus gael eu gwneud, gall y dasg allweddol o gysoni ddechrau.

Dylai'r holl brosesau gael eu cynnal o fewn fframwaith mor agored a thryloyw â phosibl sy'n cael ei weithredu drwy amrywiol gamau'r broses gyfrif fel y gall pob ymgeisydd ac asiant ymddiried yn y prosesau a'r cyfanswm lleol dros dro a roddwyd  

Rhaid i chi gyfrif yr holl fwndeli a bwndeli rhannol o bapurau pleidleisio sy'n dangos pleidlais ddilys pob ymgeisydd.1  

Yna rhaid i chi adio'r cyfanswm ar gyfer pob ymgeisydd at gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd. Dylai'r ffigur hwn gyfateb yn union i'r ffigur sy'n rhoi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio a gafwyd ar ddiwedd y broses ddilysu. 

Os bydd y ddau ffigur yn gyson, dylech fwrw ymlaen â'r broses o ymgynghori â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ynglŷn â'r cyfanswm  lleol dros dro2 , yn ogystal â hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol. 
  

Gweithdrefn ar gyfer canlyniadau anghyson

Dylech fod yn fodlon bod y canlyniad neu'r cyfansymiau (fel y bo'n briodol) yn adlewyrchu'r papurau pleidleisio a gafwyd. Os nad yw'r ffigurau yn gyson, dylech gymryd camau i nodi'r anghysondeb a datrys y broblem, er enghraifft drwy:

  • edrych yn y man storio a sicrhau bod yr holl flychau pleidleisio wedi cael eu hagor a'u bod yn wag
  • edrych ar y lloriau a'r arwynebau rhag ofn bod papurau pleidleisio wedi cael eu gollwng yn lleoliad y cyfrif
  • edrych eto ar y ffigurau dilysu a'r ymarfer cysoni rhag ofn eu bod yn cynnwys camgymeriadau cyfrifo
  • sicrhau eich bod wedi cyfrif am bob papur pleidleisio a wrthodwyd
  • sicrhau bod yr holl fwndeli a bwndeli rhannol wedi cael eu cyfrif
  • ystyried ailgyfrif y papurau pleidleisio yn y bwndeli

Dylech hefyd wneud unrhyw wiriadau eraill sy'n angenrheidiol, yn eich barn chi. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023