Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Datgan y cyfansymiau lleol

Bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn dweud wrthych pryd y gallwch roi gwybod i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol am y cyfansymiau cyfrif lleol a'r datganiad ynghylch papurau pleidleisio a wrthodwyd. 

Bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu hefyd yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddatgan y canlyniadau lleol. 

Wrth gynllunio ar gyfer datgan y canlyniadau lleol, dylech wneud y canlynol:

  • penderfynu ar yr union fan yn y lleoliad lle y bydd cyhoeddiadau a datganiadau cyhoeddus yn cael eu gwneud a phwy fydd ar y llwyfan ar yr adegau hyn
  • sicrhau y gall y rhai y mae angen iddynt gyrraedd y llwyfan wneud hynny'n hawdd
  • ystyried a allech ddefnyddio byrddau arddangos i gynnig cefndir addas i gyhoeddi'r cyfansymiau lleol
  • gwirio unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoeddiad cyn i'r gweithrediadau ddechrau
  • gwirio ddwywaith fod y cyfanswm lleol yn gywir, a'i fod wedi'i ysgrifennu ar ffurf geiriau ar gyfer rhoi'r canlyniad ar lafar er mwyn osgoi unrhyw wallau – efallai y bydd angen i chi ailadrodd y datganiad fel y gall y rhai sy'n bresennol glywed y manylion yn glir, yn enwedig os bydd y rhai sy'n bresennol yn swnllyd
  • ystyried sut y byddwch yn rhoi copi ysgrifenedig o'r cyfansymiau lleol i gynrychiolwyr y cyfryngau sy'n bresennol ar yr adeg y gwneir y cyhoeddiad oherwydd bydd hyn yn eu helpu i sicrhau eu bod yn trosglwyddo'r ffigurau yn gywir
  • gwneud yn siŵr eich bod yn dilyn y gofyniad i baratoi datganiad terfynol a datgan y cyfansymiau lleol a manylion y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd


Datgan canlyniadau Ardal yr Heddlu 

Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ddatgan y canlyniadau a hysbysu'r cyhoedd ynghylch:

  • y person a etholwyd a'r disgrifiad awdurdodedig, os oes un
  • cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd
  • nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd fel y mae'n ymddangos yn y datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd.  

Hefyd, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu rannu copi o'r hysbysiad o'r canlyniad a ddatganwyd â chi. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i chi gael yr hysbysiad hwn, rhaid i chi hysbysu'r cyhoedd ohono yn eich ardal bleidleisio. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023