Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Diwedd y broses gyfrif

Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ddiwedd y broses gyfrif (gan gynnwys unrhyw broses ailgyfrif), rhaid i chi baratoi datganiad.1  

Rhaid i'r datganiad hwn gynnwys cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd, cyfanswm nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd.2

Rhaid i chi roi'r datganiad i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu.

Cyn gynted ag y bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu wedi derbyn y cyfansymiau lleol o bob rhan o ardal yr heddlu, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu gyfrifo cyfanswm y pleidleisiau a roddwyd yn ardal yr heddlu i bob ymgeisydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023