Os bydd dau ymgeisydd neu fwy wedi cael yr un nifer o bleidleisiau yn yr ardal bleidleisio, nid yw'n ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau Lleol dynnu ar hap. Dylech esbonio i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid y bydd y cyfansymiau ar gyfer yr ardal bleidleisio yn cael eu trosglwyddo i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu er mwyn eu cynnwys yn y broses o gyfrifo'r canlyniad ar gyfer ardal yr heddlu.