Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Gwariant etholiad ymgeiswyr a phleidiau
Mae gofyn, yn ôl y gyfraith, i ni fonitro cydymffurfiaeth â rhoddion a gwariant etholiad ymgeisydd, a rheoleiddio gwariant a chodi arian gan bleidiau.
Mae terfynau cyfreithiol ar wariant ymgeiswyr a phleidiau yn etholiad y Senedd. Mae ymgeiswyr unigol yn cyfrifo am eu gwariant a rhoddion etholiadol eu hunain, lle mae'r blaid yn cyfrifo am wariant i hyrwyddo ymgeiswyr rhestr plaid a'r blaid yn gyffredinol.
Rhaid i ymgeiswyr unigol adrodd ar eu gwariant etholiad a rhoddion i chi. Yn ychwanegol, rhaid i ymgeiswyr rhestr plaid gyflwyno datganiad o'u gwariant personol i chi. Rhaid i bleidiau adrodd ar eu gwariant etholiad yn uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol.
Ymgeiswyr unigol
Rhaid i asiantiaid etholiad ar gyfer ymgeiswyr unigol yn yr etholiad gyflwyno ffurflen gwariant ymgeisydd i chi, ynghyd ag anfonebau a derbynebau perthnasol, cyn pen 35 diwrnod calendr o ddatgan canlyniad yr etholiad.1
Rhaid i ymgeiswyr unigol a'u hasiantiaid etholiad gyflwyno datganiad sy'n gwarantu ffurflen gwariant etholiad yr ymgeisydd i chi. Rhaid cyflwyno datganiad yr asiant etholiad ar yr un pryd â'r ffurflen.2 Rhaid cyflwyno datganiadau ymgeiswyr unigol cyn pen 7 diwrnod gwaith o'r dyddiad y cyflwynwyd y ffurflen gan yr asiant etholiad.3
Os nad yw'r ymgeisydd yn y DU pan gaiff y ffurflen ei chyflwyno i chi, mae modd iddo wneud datganiad cyn pen 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r DU a'i chyflwyno i chi cyn gynted â phosibl.4
Ymgyrchwyr di-blaid lleol
Gall unigolion a sefydliadau (a adnabyddir fel ymgyrchwyr di-blaid lleol) wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.5 Gall ymgeiswyr a'u hasiantiaid etholiad awdurdodi ymgyrchwyr di-blaid lleol yn ysgrifenedig i wario mwy na'r swm hwn ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.
Rhaid i ymgyrchwyr di-blaid lleol gyflwyno ffurflen wariant a datganiad i chi o fewn 21 diwrnod o ddatgan canlyniad yr etholiad, ynghyd â chopi o'r awdurdodiad ysgrifenedig gan yr ymgeisydd neu'r asiant etholiad.6
Ymgeiswyr rhestr plaid
Rhaid i ymgeiswyr rhestr plaid gyflwyno datganiad o'u gwariant personol i chi o fewn 35 diwrnod calendr o ddatgan canlyniad yr etholiad.7
Os nad yw'r ymgeisydd yn y DU pan gaiff y ffurflen ei chyflwyno i chi, mae modd iddo wneud datganiad cyn pen 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r DU a'i chyflwyno i chi cyn gynted â phosibl.8
- 1. Erthygl 54(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 55(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 55(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 55(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 47, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 47(6), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 56(1), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 56(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8