Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Cyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiad
Rhaid i chi selio'r dogfennau etholiad a restrir isod ac ar ôl gorffen cyfrif y papurau pleidleisio rhaid i chi anfon y rhain at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol.1
Os nad chi hefyd yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sicrhau bod ganddo ddull ar waith o gofnodi dyddiad derbyn y dogfennau fel ei fod yn gwybod pryd y dylid eu dinistrio.
Mae'r rhestrau canlynol yn cynnwys y dogfennau y mae'n rhaid i chi eu anfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Dogfennau o orsafoedd pleidleisio:2
- y pecynnau'n cynnwys:
- rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gafodd gymorth gan gymdeithion
- datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
- rhestr o bleidleisiau a nodwyd gan y Swyddog Llywyddu
- datganiadau'n ymwneud â phleidleisiau a nodwyd gan y Swyddog Llywyddu
- rhestr o unigolion y danfonir y papurau pleidleisio atynt ar ôl cywiro gwall clerigol neu o ganlyniad i benderfyniad ar apêl llys
- copïau o'r gofrestr etholwyr wedi'u marcio, rhestr o ddirprwyon wedi'i marcio ac unrhyw gopi wedi'i farcio o hysbysiadau a gyhoeddwyd o ganlyniad i'r cywiriad gwall clerigol neu benderfyniad ar apêl llys
- y pecynnau'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol gorsaf bleidleisio a gwblhawyd
- tystysgrifau cyflogaeth ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Dogfennau o'r sesiynau cyflwyno ac agor pleidleisiau post:3
- copïau o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy wedi'u marcio
- y pecynnau'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol pleidlais bost a gwblhawyd
- y pecynnau o ddatganiadau pleidlais bost a dderbyniwyd fel rhai dilys
- y pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd
- y pecynnau o amlenni papur pleidlais bost a wrthodwyd
- y rhestrau o bapurau pleidlais bost a gafodd eu canslo, eu colli neu eu difetha
- y pecyn o bapurau pleidlais bost a ddifethwyd ynghyd â dogfennau cysylltiedig
- y pecyn o bapurau pleidlais bost a gollwyd sy'n cynnwys unrhyw ran o'r pecyn pleidlais bost nas collwyd ac a ddychwelyd atoch chi cyn i chi roi un newydd
- y pecyn o bapurau, datganiadau ac amlenni pleidlais bost a gafodd eu canslo
- y pecynnau o bapurau pleidlais bost nas defnyddiwyd
- y pecynnau pleidlais bost nas agorwyd a dderbyniwyd ar ôl y cau'r bleidlais neu a ddychwelwyd fel rhai nas danfonwyd (gellir anfon y rhain ar ddyddiad diweddarach)
Mae'n rhaid i chi anfon y canlynol at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol:
- y datganiad ynghylch papurau pleidlais bost
- rhannau perthnasol y rhestr o bleidleisiau post a fethodd wiriadau'r dynodwr4
Etholaethau trawsffiniol
Pan mae'r etholaeth yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol, mae'n rhaid i chi anfon y fath ddetholiadau o'r rhestr sy'n berthnasol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer pob un o'r awdurdodau lleol hynny. Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w alluogi i anfon hysbysiadau pleidleisiau post a wrthodwyd gan y dynodwr i'r etholwyr hynny.
Dylech anfon y rhain ar yr un pryd â'ch cofnod o unrhyw ddigwyddiadau lle rydych yn amau bod posibilrwydd o drosedd wedi'i chyflawni, fel bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gwybod ym mha achosion y dylai beidio ag anfon hysbysiad pleidlais bost a wrthodwyd gan y dynodwr.
Cewch ragor o wybodaeth am y broses hon yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Dogfennau o'r cyfrif:5
- storio'r holl bapurau pleidleisio ar wahân fel:
- papurau pleidleisio a gyfrifwyd
- papurau pleidleisio a wrthodwyd
- papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (rhai cyffredin a'r rhai a gyflwynwyd) a phapurau pleidleisio a ddifethwyd (a roddwyd gyda'i gilydd)
- papurau pleidleisio a gyflwynwyd nas defnyddiwyd
- cyfrifon y papurau pleidleisio, y canlyniad o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio a'r datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd
- 1. Atodlen 5, Rheol 67(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 5, Rheol 67, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, paragraff 30, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 34, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 5, Rheol 67, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5