Dogfennau etholiad nad ydynt ar gael i'w harchwilio
Nid yw'r ddogfennaeth ganlynol ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd, ac eithrio drwy orchymyn llys:1
papurau pleidleisio
rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
tystysgrifau cyflogaeth ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Ni ellir cael mynediad at y dogfennau hyn oni bai bod yr Uchel Lys neu lys sirol yn fodlon drwy dystiolaeth ar lw bod angen mynediad ar gyfer un o'r rhesymau canlynol:2
ar gyfer dechrau neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio
at ddibenion deiseb etholiadol
Mae modd apelio unrhyw benderfyniad ar fynediad a wneir gan lys sirol i'r Uchel Lys.3
Nid oes gofyn i geisiadau gael eu gwneud mewn llys agored; gellir eu gwneud gan farnwr o'r llys perthnasol naill ai mewn llys agored neu fel arall.
Byddwch yn cadw'r papurau enwebu a'r ffurflenni cyfeiriad cartref ac ni fyddwch yn anfon y rhain at y Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ôl yr etholiad. Ni fydd y dogfennau hyn yn agored i'w harchwilio ar ôl yr etholiad.4