Nid yw ymgeisydd unigol wedi'i enwebu'n ddilys oni bai bod £500 wedi’i roi i chi erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.1
Nid yw plaid wleidyddol gofrestredig nac unrhyw un o’r ymgeiswyr rhestr plaid y mae wedi eu cyflwyno wedi'u henwebu'n ddilys oni bai bod yr ernes wedi’i rhoi ichi erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.2
Yr ernes ofynnol ar gyfer rhestr plaid yw:
£500 ar gyfer yr ymgeisydd rhestr plaid cyntaf sy'n ymddangos yn gyntaf ar y rhestr.3
£200 ar gyfer pob un o’r pum ymgeisydd nesaf sy’n ymddangos ar y rhestr plaid.4
Pan mae person yn gwneud yr ernes ar ran ymgeisydd unigol neu swyddog enwebu cofrestredig plaid, rhaid iddo, ar adeg ei gwneud, roi ei enw a’i gyfeiriad i chi oni bai ei fod wedi’u rhoi yn flaenorol fel rhan o hysbysiad ei benodiad fel asiant etholiad.5
• siec cymdeithas adeiladu, • cerdyn debyd neu gredyd • trosglwyddiad electronig o gronfeydd
Dylech hefyd dderbyn taliadau bancwr sy’n orchmynion a gyhoeddir gan fanc, yn addo taliad i’r derbynnydd. Os byddwch yn penderfynu dewis unrhyw un o’r dulliau hyn, dylech eu rhestru ar hysbysiad yr etholiad a nodi yn glir unrhyw ofynion sydd gennych yn y pecyn enwebu.
Os oes ffi ynghlwm â’r dull talu, gallwch drosglwyddo’r ffi hon i’r ymgeisydd. Os felly, dylech nodi hyn yn glir ar hysbysiad yr etholiad a’r pecyn enwebu.