Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Pa ddisgrifiadau gellir eu defnyddio yn etholiad y Senedd?
Ymgeiswyr unigol sy’n sefyll mewn etholiad
Gall ymgeiswyr unigol ddefnyddio’r disgrifiad ‘Annibynnol’ a/neu ‘Independent’ yn unig, neu adael y blwch disgrifiad yn wag.1
Ymgeiswyr rhestr plaid
Rhaid i bob ffurflen enwebu plaid gynnwys naill ai:2
- enw’r blaid gofrestredig (neu enwau) o blaid wleidyddol gofrestredig - os ydynt eisiau defnyddio enw plaid gofrestredig nad yw’n cynnwys ‘Wales’, ‘Welsh’, ‘Cymru’ neu ‘Cymreig’ yna gellir ychwanegu ‘Wales’, ‘Welsh’, ‘Cymru’ neu ‘Cymreig’ at enw’r blaid gofrestredig yn y blwch disgrifiad ar y papur enwebu3
- un o’r disgrifiadau y mae’r blaid wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn.
Defnyddio enwau pleidiau a disgrifiadau pleidiau
I gynnig rhestr plaid ar gyfer etholiad, mae’n rhaid i blaid wleidyddol fod yn blaid wleidyddol gymwys.4
Plaid wleidyddol gymwys yw un sydd wedi’i chofrestru ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk ac mae wedi’i rhestru fel un sydd â chaniatâd i gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru.5
Bydd angen i’r blaid gyflwyno tystysgrif awdurdodi, sy’n awdurdodi defnyddio enw’r blaid gofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio.6
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at 12 disgrifiad a chyfieithiadau Cymraeg o’r disgrifiadau hynny.
Rhaid ichi wirio bod enw neu ddisgrifiad y blaid fel y’i nodir ar y ffurflen enwebu wedi’i gofrestru ar gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn a’i fod yn cyfateb yn union (heb gynnwys unrhyw ragddodiad Welsh/Cymraeg na’r ôl-ddodiad Wales/Cymru.) Os nad ydyw, rhaid i chi wrthod yr enwebiad hwnnw.7
Hyd yn oed os yw plaid gofrestredig yn adnabyddus, mae’n hanfodol gwirio’r gofrestr o bleidiau gwleidyddol am union fanylion y blaid fel y’i cofrestrwyd gyda’r Comisiwn.
Gall ymgeisydd ddefnyddio naill ai’r fersiwn Saesneg, y fersiwn Gymraeg neu’r ddau fersiwn o naill ai enw’r blaid neu ddisgrifiad ar yr amod eu bod wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn.
Os nad yw enw’r blaid gofrestredig eisoes yn cynnwys ‘Wales / Welsh / Cymru / Cymreig’ yna gall yr ymgeisydd ddewis ychwanegu ‘Wales / Welsh / Cymru / Cymreig’8
i enw’r blaid gofrestredig fel y mae’n ymddangos ar y dystysgrif.
Rhestrir cyfieithiadau o enwau pleidiau ar y wefan dan ‘enw arall’ ac mae cyfieithiadau o ddisgrifiadau wedi eu rhestru i’r dde o’r disgrifiad dan ‘cyfieithiad(au)’. Os nad yw cyfieithiad o enw plaid wedi’i restru, neu os nad yw cyfieithiad wedi’i gofnodi ar gyfer disgrifiad, yna nid yw cyfieithiad wedi’i gofrestru ac ni ellir ei ddefnyddio.
At ddibenion cynnal trywydd archwilio clir ac yn achos unrhyw heriau yn y dyfodol, dylech argraffu copi o’r rhan berthnasol o gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn sy’n dangos y disgrifiadau ac enw’r blaid adeg eich dyfarniad.
Tystysgrif awdurdodi
Os yw plaid yn defnyddio enw neu ddangosiad plaid, rhoddwyd tystysgrif awdurdodi. Mae’r tystysgrif awdurdodi wedi’i ragnodi a rhaid ei chyfuno â ffurflen enwebu'r blaid.9
Rhaid i’r disgrifiad gael ei awdurdodi gan Swyddog Enwebu’r blaid10
(neu rywun a benodwyd yn ysgrifenedig gan y Swyddog Enwebu).
Gallwch wirio pwy yw’r Swyddog Enwebu ar gyfer plaid drwy droi at gofrestr pleidiau gwleidyddol y Comisiwn.
- 1. Rheol 5(4)(b), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 7(1) a 7(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 7(3), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 6(1)(a), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 76, Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheol 7(1), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheol 15(3)(b), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheol 7(2), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheol 7(5), Atodlen 5, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Ffurflen 11, Atodlen 10, Gorchymyn Senedd Cymru 2025 ↩ Back to content at footnote 10