Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Newidiadau i’r gofrestr o bleidiau gwleidyddol
Mae ein cofrestr o bleidiau gwleiyddol yn cynnwys gwybodaeth gyfredol am bleidiau gwleidyddol, disgrifiadau ac arwyddluniau cofrestredig, ac mae’n dangos pa enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd ar gyfer pob plaid.
Newidiadau hyd at gyhoeddi’r hysbysiad etholiad
Mae’n bosibl tynnu neu amnewid unrhyw ddisgrifiadau cofrestredig hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad swyddogol i gyhoeddi’r hysbysiad etholiad ar gyfer unrhyw etholiad penodol.
Mae’n bwysig nodi nad yw hwn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad, ond y dyddiad swyddogol i gyhoeddi.1
Ar ôl i’r hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi, nid yw unrhyw newidiadau neu ddileadau i unrhyw ddisgrifiad plaid yn berthnasol i’r etholiad hwnnw.2
Er enghraifft, os byddwch yn penderfynu cyhoeddi eich hysbysiad etholiad cyn y diwrnod olaf y mae’n rhaid i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi'n ôl cyfraith, mae’n bosibl y gellir cyflwyno enwebiad sy’n dwyn disgrifiad plaid gofrestredig nad yw bellach yn ymddangos ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Os yw dileu’r disgrifiad wedi dod i rym ar ôl i chi gyhoeddi eich hysbysiad etholiad ond cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad, nid yw’r dileu’n berthnasol i’ch etholiad ac mae’r hen ddisgrifiad yn parhau i fod yn ddilys. Mewn unrhyw amgylchiadau o’r fath, gallwch wirio gyda thîm cofrestru plaid y Comisiwn a yw’r disgrifiad plaid cyflwynedig yn berthnasol i’ch etholiad chi.3
Newidiadau hyd at ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Dylech hefyd nodi y gall pleidiau gwleidyddol newid eu henw a’u harwyddluniau sy’n gofrestredig ar gyfer eu plaid, ac ychwanegu unrhyw ddisgrifiad newydd os oeddent wedi cofrestru llai na 12 disgrifiad yn flaenorol, ar unrhyw adeg hyd at ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno enwebiadau ar gyfer yr etholiad hwnnw.4
Rhaid i bleidiau newydd hefyd gael eu cofrestru dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno enwebiadau ar gyfer yr etholiad hwnnw, er mwyn defnyddio enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau yn y bleidlais honno.
Mae’r tabl isod yn nodi’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud newidiadau i’r gofrestr o bleidiau gwleidyddol yn y cyfnod cyn pleidlais. Ar ôl yr adeg honno, nid yw unrhyw newidiadau neu ddileadau i unrhyw ddisgrifiadau plaid yn berthnasol i’r etholiad hwnnw.5
| Beth mae’r blaid am ei wneud i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol? | Pryd gellir gwneud hyn? |
|---|---|
| Cofrestru pleidiau newydd | Dim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno enwebiadau yn yr etholiad hwnnw |
| Ychwanegu unrhyw ddisgrifiadau newydd lle mae llai na 12 wedi'u cofrestru | Dim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno enwebiadau yn yr etholiad hwnnw6 |
| Newid enwau a/neu arwyddluniau’r blaid | Dim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno enwebiadau yn yr etholiad hwnnw7 |
| Dileu neu amnewid unrhyw ddisgrifiad ar y gofrestr | Hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad swyddogol ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad8 |
Disgrifiad o’r blaid - heb gofrestru eto
Pan fydd plaid yn ceisio cyflwyno ffurflen enwebu gyda disgrifiad sydd heb ei gofrestru eto, dylech gynghori’r ymgeisydd neu’r blaid (fel sy’n briodol) i beidio â’i chyflwyno’r ffurflen yn ffurfiol, ond i’w chymryd yn ôl a’i chyflwyno ar ôl i’r disgrifiad gael ei gofrestru’n llwyddiannus.
Os bydd ymgeisydd neu blaid (fel sy’n briodol) yn cyflwyno ei ffurflen enwebu yn ffurfiol gyda disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru eto, rhaid i chi benderfynu bod yr enwebiad yn annilys ar y sail, pan wneir y penderfyniad, nad yw'r disgrifiad a ddarparwyd yn cyfateb i unrhyw un a gofrestrwyd gyda'r Comisiwn.9
Efallai yr hoffech gysylltu â thîm cofrestru pleidiau y Comisiwn i gadarnhau nad yw disgrifiad wedi’i gofrestru hyd yma cyn ichi wneud eich penderfyniad.
- 1. Adran 30(6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 30 (6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 30, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 30, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 30 (6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 30, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 30, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 30(6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheol 6A, Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9