Mae’n ofynnol i’r holl ymgeiswyr lenwi ffurflen cyfeiriad cartref gyda’r ffurflen enwebu, erbyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau.1
Rhaid defnyddio’r ffurflen ar y ffurf ragnodedig (neu ffurf debyg).2
Rhaid i’r ymgeisydd nodi ei enw llawn a’i gyfeiriad cartref yn llawn ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os yw ymgeisydd yn cynnwys enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei ffurflen enwebu, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd gynnwys yr enw a ddefnyddir yn gyffredin.3
Cyfeiriad cartref yr ymgeisydd:
• rhaid ei nodi’n llawn • ni chaiff gynnwys talfyriadau • rhaid iddo fod yn gyfeiriad cartref presennol • ni chaiff fod yn gyfeiriad busnes (oni bai bod yr ymgeisydd yn rhedeg busnes o’i gartref)
Os oes unrhyw fanylion am y cyfeiriad cartref yn anghywir neu wedi’u gadael allan, nid yw’r enwebiad yn annilys yn awtomatig os yw’r disgrifiad o’r lle yn un a gaiff ei ddeall yn gyffredin.
Ymgeiswyr nad ydynt am i’w cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi
Gall ymgeisydd rhestr plaid ddewis peidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref ar y datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd.4
Yn yr achos hwn, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:5
datganiad, wedi’i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy’n datgan na ddylid gwneud ei gyfeiriad cartref yn gyhoeddus
enw llawn ac enw a ddefnyddir yn gyffredin (os yn berthnasol) a chyfeiriad cartref yr ymgeisydd
os yw cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y DU, yr ardal berthnasol
os yw ei gyfeiriad cartref yng Nghymru, yr ardal berthnasol yn etholaeth y Senedd y mae ei gyfeiriad cartref wedi lleoli ynddi,
os yw ei gyfeiriad cartref y tu allan i Gymru, yr ardal berthnasol yw etholaeth Seneddol y DU y mae ei gyfeiriad cartref wedi lleoli ynddi
os yw ei gyfeiriad cartref y tu allan i’r DU, enw’r wlad y mae ei gyfeiriad cartref wedi'i leoli ynddi