Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Gwirio’r dynodyddion personol
Rhaid i chi wirio’r dynodyddion ar bob datganiad pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd.
Rhaid i chi fod yn fodlon bod y datganiad pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau’n briodol. Rhaid i chi gymharu’r dyddiad geni a’r llofnod ar y datganiad pleidleisio drwy’r post yn erbyn y dyddiad geni a’r llofnod a gynhwysir yn y cofnod dynodyddion personol sy’n gysylltiedig â’r person y cyfeiriwyd y papur pleidleisio drwy'r post ato.1
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, bydd angen ichi ystyried sut y byddwch yn casglu’r data gan unrhyw awdurdod lleol arall, yn ogystal ag ystyried cyfran yr etholaeth sydd wedi’i chynnwys yn ardal(oedd) yr awdurdod lleol.
Dylech gysylltu’n gynnar yn y broses cynllunio etholiadol ag unrhyw Swyddogion Cofrestru Etholiadol eraill a staff etholiadol mewn unrhyw awdurdod lleol arall i nodi unrhyw faterion posibl a sut yr ymdrinnir â hwy.
Os byddwch yn penderfynu agor pleidleisiau post mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth, bydd angen ichi benodi dirprwyon o awdurdodau lleol eraill, fel sy’n briodol, sydd â phwerau penodol i allu dyfarnu dynodwyr pleidleisiau post.
parhad
Os ydych wedi dirprwyo awdurdod i berson arall wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisio drwy’r post wrth ddilysu dynodwyr pleidleisiau post, dylech roi copi o’r canlynol iddo ar ganllawiau gwirio llofnodion y Comisiwn a’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig, a’i gyfarwyddo i’w dilyn.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
Nid oes rhaid i’ch penderfyniad ar ddatganiad pleidleisio drwy’r post fod yn seiliedig ar y wybodaeth ar y datganiad pleidleisio drwy’r post a’r cofnod dynodyddion personol yn unig.
Wrth wneud eich penderfyniad, gallwch gyfeirio at ffynonellau eraill, er enghraifft, y llofnod a ddarperir ar ffurflen gofrestru, neu ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych. Enghraifft arall yw bod etholwr wedi cysylltu â chi i ddweud ei fod wedi torri ei fraich ers cyflwyno ei ddynodyddion i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol ac nad yw’n gallu atgynhyrchu ei lofnod arferol.
Efallai y byddwch yn penderfynu derbyn bod ei ddatganiad pleidleisio drwy’r post yn ddilys os ydych chi’n fodlon bod hyn yn wir, hyd yn oed os oes ganddo lofnod sy’n edrych yn wahanol i’r un ar y cofnod dynodyddion personol.
Dylid gwneud pob penderfyniad ar ddatganiad pleidleisio drwy’r post fesul achos unigol.
Rhaid i ddiffyg llofnod neu ddyddiad geni’n llwyr (pan nad yw’r etholwr wedi cael hepgoriad) arwain at wrthod bob tro.2
Wrth bennu dilysrwydd y datganiad pleidleisio drwy’r post, o ran y llofnod a’r dyddiad geni, nid oes un yn bwysicach na’r llall - rhaid rhoi’r ddau (oni bai nad yw’r llofnod wedi’i roi ac mae’r etholwr wedi cael hepgoriad), ac mae’n rhaid i’r ddau gyfateb.3
Caiff ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post wrthwynebu gwrthod datganiad pleidleisio drwy'r post. Os ydynt yn gwrthwynebu gwrthodiad, rhaid i’r datganiad pleidleisio drwy’r post gael ei farcio â ‘gwrthwynebwyd y gwrthodiad’/ ‘rejection objected to’ cyn ei atodi i’r amlen papur pleidleisio a’i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.4
Nid oes gan arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn unrhyw hawl i wrthwynebu gwrthod datganiad pleidleisio drwy’r post.
- 1. Atodlen 2, paragraff 23(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, Paragraff 23(3), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2, Paragraff 23(2), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2, paragraff 23(5), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4