Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd argraffedig er mwyn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei lunio. 1
Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy.
Mae ein taflen ffeithiau ar argraffnodau ymgeisydd yn esbonio'r rheolau y mae'n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn ymgyrchydd yn y math hwn o etholiad.
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau hefyd ar ddeunydd digidol penodol. Ar gyfer y gofynion argraffnod ar ddeunydd digidol, gweler ein canllawiau ar argraffnodau digidol.
1. Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, a.143 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a.110↩ Back to content at footnote 1