Cyn i chi greu tudalen cyllido torfol, dylech wirio nodweddion y platfform cyllido torfol. Dylech wneud yn siŵr y bydd gennych yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn y gyfraith ar roddion.
Dylech gasglu digon o wybodaeth gan bob rhoddwr i sicrhau eich bod yn gallu:
Gwirio’n iawn fod pob rhodd dros £50 yn dod o ffynhonnell a ganiateir
Nodi a yw rhoddion lluosog wedi dod o'r un ffynhonnell
Cofnodi’n gywir y rhoddion a gawsoch yn eich ffurflen gwariant a rhoddion
Dylech ddewis platfform cyllido torfol sy’n eich galluogi i ddychwelyd rhoddion nas caniateir.
Rhoddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw
Yn y canllawiau hyn, byddwn yn cyfeirio at roddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw. Diffinnir y termau hyn yn y tabl isod:
Term
Ystyr
Rhodd cyllido torfol preifat
Nid yw manylion y rhoddwr i’w gweld ar dudalen cyllido torfol cyhoeddus, ond darperir rhywfaint o wybodaeth i’r person a greodd y dudalen.
Er enghraifft, ni fyddai rhywun sy’n edrych ar dudalen cyllido torfol yn gallu dweud pwy wnaeth gyfraniad preifat o £75, ond efallai y bydd yr unigolyn sy’n codi arian yn derbyn enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr.
Rhodd ddienw
Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am y rhoddwr i'r person neu'r sefydliad sydd wedi derbyn y rhodd.
Dylech wirio y byddwch, fel yr un sy’n codi arian, yn cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr.
Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wneir yn ddienw, neu os na allwch nodi pwy yw'r rhoddwr.
Gallwch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych y manylion angenrheidiol i wirio eu bod y math a ganiateir.
Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried a ydych am ganiatáu rhoddion cyllido torfol preifat ar gyfer eich ymgyrch.
Cael mynediad at yr arian a godwyd
Mae yna wahanol ffyrdd y gall platfformau cyllido torfol drosglwyddo arian i’r rhai sy’n codi arian. Mae'n bosibl y bydd rhai platfformau'n caniatáu i chi dynnu arian o’r cyfrif tra bod eich ymgyrch yn dal i gael ei chynnal, tra bydd eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i'ch ymgyrch ddod i ben.
Gall yr amser y mae'n ei gymryd i dderbyn arian ar ôl y dyddiad cau amrywio hefyd yn dibynnu ar ba blatfform cyllido torfol rydych chi'n ei ddefnyddio.
Mae'n bwysig eich bod yn deall pryd y gallwch gael mynediad at arian. Unwaith y bydd arian wedi'i dderbyn, rhaid i chi gynnal gwiriadau o ran y rhoddion perthnasol a ganiateir a chadw cofnod o'ch gwariant a'ch ffurflen rhoddion. Rydym yn argymell cynllunio eich ymgyrch cyllido torfol fel y byddwch yn derbyn eich rhoddion gyda digon o amser i gwblhau'r gwiriadau gofynnol cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'ch ffurflen.