Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Rhoi gwybod am roddion cyllido torfol
Cyn i chi gwblhau a chyflwyno eich ffurflen gwariant a’ch ffurflen rhoddion, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd dros £50.
Yn eich ffurflen, rhaid i chi gofnodi'n unigol yr holl roddion yr ydych wedi'u derbyn dros £50 a'r holl roddion nas caniateir yr ydych wedi'u dychwelyd.
Rhoddion yr ydych wedi eu derbyn
Os byddwch yn derbyn rhodd dros £50, rhaid i chi gofnodi:
y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr (gweler y dudalen berthnasol ynghylch mathau o roddwyr)1
y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)2
y dyddiad y cawsoch y rhodd
y dyddiad y derbyniwyd y rhodd3
Rhoddion yr ydych wedi eu dychwelyd
Os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir, rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:
y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)4
enw a chyfeiriad y rhoddwr (oni bai bod y rhodd wedi’i rhoi’n ddienw)5
os rhoddwyd y rhodd yn ddienw, manylion am sut y gwnaed y rhodd6
y dyddiad y cawsoch y rhodd7
y dyddiad y dychweloch y rhodd8
y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)9
Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad y term ‘rhodd ddienw’, yn Dewis platfform cyllido torfol.
Ffioedd platfform cyllido torfol
Gall platfformau cyllido torfol godi ffioedd am drafodion rhoddion, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu platfform. Mae'r ffioedd hyn yn cyfrif fel traul etholiad, ac mae'n rhaid i chi eu hadrodd yn eich ffurflen o dan y categori costau gweinyddol a llety.
Gall y ffioedd hyn fod yn ganran o'r rhoddion a gewch. Rhaid i chi adrodd am werth llawn y rhoddion a dderbyniwyd10 a rhoi gwybod am y ffioedd ar wahân fel gwariant etholiad. Mae'n dderbyniol i'r ffioedd hyn gael eu cydgrynhoi a'u hadrodd fel un llinell o wariant yn eich ffurflen.
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei chyflwyno, yn Cwblhau eich ffurflen.
Os nad ydych yn siŵr pa ofynion adrodd sy'n berthnasol, gallwch gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 11(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2A, paragraff 11(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 2A, paragraff 11(b) , Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 2A, paragraff 12(2)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 2A, paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2A, paragraff 12(3)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, paragraff 12(2)(c) a (3)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2A, paragraff 12(2)(c) a (3)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 2A, paragraff 12(2)(c) a (3)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 2A, paragraff 11(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 10