| Argraffu'r canllawiau llawn

Enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin

Os ydych:

  • yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf yn gyffredin sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i gyfenw neu enw cyntaf sydd gennych
  • yn defnyddio un neu ragor o enwau cyntaf neu gyfenw mewn ffordd wahanol i'r ffordd y cânt eu nodi ar eich ffurflen enwebu

gallwch nodi eich enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin ar eich ffurflen enwebu, ynghyd â’ch enwau llawn.1

Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael eich adnabod wrth eich enw cryno ‘Andy’, yn hytrach na’ch enw cyntaf llawn ‘Andrew’. Yn yr achos hwnnw, gallwch nodi’r enw ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu, os byddai’n well gennych i’r enw hwnnw ymddangos ar y papur pleidleisio. 

Gallwch ddatgan eich bod yn defnyddio enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, neu’r ddau.

Gallwch hefyd ddefnyddio blaenlythrennau fel rhan o’ch enw a ddefnyddir yn gyffredin os ydych chi’n cael eich adnabod yn gyffredin ganddyn nhw.

Byddai’r enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn cael eu cynnwys:

  • ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd a'r hysbysiad o etholiad
  • ar y papur pleidleisio
  • ar yr hysbysiad asiant etholiad

Penderfyniadau ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin
 

Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy’n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus.2  Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau yn ysgrifennu atoch yn nodi’r rheswm dros wrthod.3 Yn yr achosion hynny, bydd eich enw go iawn yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny.

Os yw naill ai’r blwch enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn cael ei adael yn wag, yna bydd eich enw cyntaf neu gyfenw go iawn yn cael ei ddefnyddio, yn dibynnu ar ba flwch enw a ddefnyddir yn gyffredin sydd wedi'i adael yn wag.

Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar eich ffurflen enwebu.4 Felly, os byddwch yn dewis rhoi enw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i chi sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu gyfenw a ddefnyddiwch yn gyffredin.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026