Pa adnoddau sydd eu hangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni eu rôl?
Pa adnoddau sydd eu hangen ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gyflawni eu rôl?
Mae'n bwysig eich bod yn cael eich cefnogi i gyflawni eich rôl, o ystyried yr ystod o ddyletswyddau statudol, a difrifoldeb unrhyw doriadau.1
Rhaid i'r awdurdod lleol a'ch penododd ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni eich swyddogaethau statudol. Rhaid i'r awdurdod lleol a'ch penododd dalu unrhyw gostau yr aethoch iddynt wrth gyflawni eich swyddogaethau.2
Penodi Dirprwy
Dylech sicrhau bod eich cyngor yn cymeradwyo penodi un neu fwy o Ddirprwy EROs a all gyflawni dyletswyddau a phwerau'r ERO os na allwch weithredu'n bersonol.
Dylai fod gan unrhyw ddirprwyon a benodir y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni'r swyddogaethau sydd wedi'u neilltuo iddynt. Dylid gwneud penodiadau yn ysgrifenedig a chynnwys manylion clir y pwerau cyflawn neu benodol y mae gan y dirprwy awdurdod i'w cyflawni ar eich rhan. Yn benodol, gallai fod yn ddefnyddiol benodi dirprwyon i ymgymryd â gweithdrefnau lled-gyfreithiol, megis gwrandawiadau ceisiadau cofrestru, gwrthodiadau ac adolygiadau. Dylid derbyn unrhyw benodiad o'r fath yn ysgrifenedig hefyd.
Yn wahanol i Swyddogion Canlyniadau, ni all y Swyddog Cofrestru Etholiadol benodi dirprwy ar ei liwt ei hun, heblaw bod yr awdurdod i wneud hynny wedi'i ddirprwyo iddo gan y cyngor.3
Yng Nghymru a Lloegr, os yw swydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn wag, neu os nad yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gallu gweithredu, gellir cyflawni dyletswyddau a phwerau'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gan y swyddog priodol yn y cyngor.4
Y tîm cofrestru etholiadol
Mae'n rhaid i'r cyngor a'ch penododd ddarparu swyddogion i'ch cynorthwyo i gyflawni eich swyddogaethau statudol.5
Dylech ystyried sut y gall y cyngor ddarparu'r gefnogaeth sy'n ofynnol i'ch cynlluniau cofrestru gael eu cyflawni. Yn benodol, dylech sicrhau bod gennych chi ddigon o staff gyda'r sgiliau cywir yn eich tîm. Am arweiniad ar gynllunio, hyfforddi a recriwtio staff, gweler Cynllunio ar gyfer cofrestru trwy gydol y flwyddyn.