Er mwyn i unigolyn fod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yng Nghymru mae rhaid iddo fodloni'r meini prawf cymhwyso ar y dyddiad perthnasol. Mae tair agwedd ar fod yn gymwys i gael eich cofrestru:1
rhaid i'r cais gael ei gyflwyno gan unigolyn sy'n cyfateb, yn ôl pob golwg, i'r unigolyn a enwir ar y cais
rhaid bodloni unrhyw ofynion statudol mewn perthynas â'r cais, gan gynnwys sut y gellir ei gyflwyno a'r wybodaeth a ddylai fod ynddo
rhaid i'r unigolyn a enwir ar y cais fod yn rhywun sydd, yn ôl pob golwg, yn bodloni'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cofrestru, yn nhyb y Swyddog Cofrestru Etholiadol, a rhaid sicrhau nad yw wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru