Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Sut y gall unigolion gofrestru i bleidleisio?
Gall unigolion wneud cais i gofrestru i bleidleisio mewn sawl ffordd:1
- ar-lein drwy wefan y llywodraeth ganolog – www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
- drwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig (e.e. ar ffurflen bapur)
- dros y ffôn i'ch staff (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
- yn bersonol yn eich swyddfa (os ydych yn cynnig y gwasanaeth)
Mae'n rhaid i chi anfon gwahoddiad i gofrestru at ddarpar etholwyr o fewn 28 diwrnod i'r adeg y byddwch yn dod yn ymwybodol ohonynt. Fodd bynnag, os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer darpar etholwr gallech, yn y lle cyntaf, ei ddefnyddio i'w annog i gyflwyno cais ar-lein neu roi gwahoddiad i gofrestru yn electronig.
Ni fydd y wefan cofrestru i bleidleisio yn caniatáu i unigolyn gyflwyno ffurflen ar-lein oni bai ei fod yn darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen neu'n rhoi rheswm pam na ellir darparu'r wybodaeth honno. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn cael ceisiadau ar bapur nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i'w prosesu. Mewn achosion o'r fath, byddwch yn gallu cael y wybodaeth goll drwy sianeli gwahanol, ni waeth sut y cafodd y cais gwreiddiol ei wneud.
Er bod proses benodol i'w dilyn os na all rhywun ddarparu ei ddyddiad geni, ei rif Yswiriant Gwladol neu ei genedligrwydd, gallwch gasglu gwybodaeth goll dros y ffôn, yn bersonol neu drwy e-bost. Er enghraifft, efallai na fydd yn glir ar gais papur a yw Rhif Yswiriant Gwladol ar goll oherwydd esgeulustod ar ran y darpar etholwr neu am nad oedd modd ei ddarparu. Os bydd gennych rif ffôn neu gyfeiriad e-bost yr etholwr hwnnw, gallwch gael y wybodaeth goll drwy'r sianeli hynny.
Nid yw'n ofynnol i ymgeisydd o dan 16 oed ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol na rheswm pam na all wneud hynny.2
Hyrwyddo'r sianeli y gellir eu defnyddio i wneud cais
Dylech sicrhau bod darpar etholwyr yn gwybod sut i wneud cais i gofrestru. Dylech sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
- darparu dolen i'r ffurflen gofrestru ar-lein ar unrhyw dudalennau perthnasol o'ch gwefan (a gwefan y cyngor, os yw ar wahân)
- darparu dolen i'r ffurflen gofrestru ar-lein ble bynnag y gall cofrestru etholiadol fod yn berthnasol, er enghraifft, ar unrhyw system ar-lein ar gyfer trefnu cyfrifon treth gyngor newydd ac ar wefannau sefydliadau partner
- nodi sianeli cofrestru amgen ar gyfer y rhai na allant wneud cais ar-lein neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny
- cydweithio â phleidiau ac ymgeiswyr lleol i rannu gwybodaeth ar sut i gofrestru ar-lein neu gael ffurflenni cofrestru
- cydweithio â phartneriaid lleol eraill i hyrwyddo'r broses gofrestru mewn unrhyw ddeunyddiau a ddosberthir ganddynt i breswylwyr neu a ddefnyddir ganddynt i gyfathrebu â phreswylwyr
- darparu dolen glir i'r ffurflen gais ar-lein ar ddiwedd unrhyw broses a roddir ar waith er mwyn ymateb i ohebiaeth ganfasio
Dylech nodi'n glir y sianeli gwahanol ar gyfer gwneud cais fel bod etholwyr yn gallu gwneud dewis sy'n diwallu eu hanghenion ac yn bodloni eu dymuniadau orau. Dylai hyrwyddo'r ffyrdd gwahanol o gofrestru sicrhau bod y broses gwneud cais mor hygyrch â phosibl.
Beth y gall rhywun ei wneud i helpu rhywun arall i gofrestru i bleidleisio?
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau ar gyfer cartrefi gofal y gallwch ei haddasu er mwyn adlewyrchu eich amgylchiadau penodol. Mae'r daflen ffeithiau yn seiliedig ar ein canllawiau ar geisiadau gyda chymorth sy'n nodi'r hyn y gall rhywun ei wneud i helpu rhywun arall i gofrestru.
Gwybodaeth a ddarperir fel rhan o gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw
Ni chewch ddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir fel rhan o gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, megis rhif Yswiriant Gwladol, at unrhyw ddiben heblaw am brosesu’r cais hwnnw.3 Mae hyn yn golygu na chewch ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir fel rhan o gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw i gwblhau cais i gofrestru ar gyfer yr un etholwr os nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio. Mae’r broses gofrestru’n rhagnodedig ac mae’n rhaid i’r etholwr ddarparu datganiad bod yr wybodaeth ar y cais yn wir.4
Yn ogystal, ni ellir defnyddio gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, i gwblhau ceisiadau i gofrestru os yw’r cais i gofrestru’n anghyflawn neu os nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd gyda’r cais i gofrestru wedi paru gyda chofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ceir rhagor o wybodaeth am ffynonellau data dichonadwy y gellir eu defnyddio ar gyfer paru data lleol yn ein canllawiau.
Fodd bynnag, lle rydych wedi cael cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw gan etholwr nad ydyw eisoes ar y gofrestr etholiadol, byddem yn cynghori y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i’w gwahodd i gofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth am ffynonellau dichonadwy data i gofrestru etholwyr yn ein canllawiau.
- 1. Rheoliadau 26(8) a (9), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 16 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) sy'n mewnosod (9A) yn Rheoliad 26 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 14 Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 26 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 4