Sicrhau bod papurau pleidleisio yn ddiogel yn ystod toriadau yn y gweithrediadau
Os bydd toriad yn ystod y gweithrediadau, bydd angen i chi roi papurau pleidleisio mewn blwch pleidleisio neu gynhwysydd addas arall, ei selio a'i storio'n ddiogel yn ystod y toriad.
Ar ôl cwblhau'r broses ddilysu, rhaid i chi roi'r papurau pleidleisio ar gyfer unrhyw etholiadau nad ydynt yn cael eu cyfrif yn syth ar ôl eu dilysu mewn blychau pleidleisio ac yna eu selio. Rhaid i chi ganiatáu i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol atodi eu seliau.1
Er mwyn sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio, gallech ystyried y canlynol:
eu storio mewn blychau pleidleisio wedi'u selio mewn ystafell dan glo, gan sicrhau mai chi sy'n gyfrifol am yr holl allweddi i'r cyfleuster hwnnw
trefnu bod staff diogelwch yn ‘gwarchod’ y blychau pleidleisio bob amser nes bod y cam dilysu/cyfrif yn ailddechrau
Dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu wrth benderfynu ar y dull storio diogel mwyaf priodol.
Ar ôl i'r cam dilysu/cyfrif ailddechrau, dylech agor y blychau pleidleisio wedi'u selio o flaen unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n bresennol, er mwyn iddynt allu bod yn fodlon nad oes neb wedi ymyrryd â'r papurau pleidleisio na'r blychau pleidleisio.