Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Egwyddorion allweddol ymgyrchu ar y cyd
Rhaid bod yna fwy nag un ymgyrchydd di-blaid
Ni fydd sefydliad ymbarél presennol sy’n gwneud penderfyniadau am ei weithgaredd ymgyrchu yn annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd oni bai ei fod yn ymuno â chynllun neu drefniant gydag ymgyrchwyr di-blaid eraill lle maen nhw i gyd yn bwriadu achosi gwariant a reolir, p'un a fwriedir i'r gwariant hwnnw gael ei achosi gan, neu ar ran, pob ymgyrchydd di-blaid.
Nid ymgyrchu ar y cyd yw ffurfio sefydliad newydd sy’n cynnwys grŵp o sefydliadau eraill ac yna yn gwario arian.
Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn y bydd gwariant a reolir yn cael ei achosi er mwyn cyflawni’r diben cyffredin
Os nad oes bwriad i achosi gwariant, does dim ymgyrchu ar y cyd. Er enghraifft, os cytunir y bydd yr holl weithgaredd yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ni fydd unrhyw wariant yn cael ei achosi ac ni fydd yna ymgyrchu ar y cyd.
Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn ynghylch rhychwant a diben yr ymgyrch
Nid ymgyrchwyr ar y cyd yw ymgyrchwyr di-blaid sy’n digwydd ymgyrchu ar faterion tebyg neu berthynol.
Rhaid bod yna ddealltwriaeth gytûn rhwng yr ymgyrchwyr di-blaid y bydd pob un ohonynt yn achosi gwariant a reolir er mwyn cyflawni’r diben cyffredin, p'un a fwriedir i'r gwariant hwnnw gael ei achosi gan, neu ar ran, yr ymgyrchydd di-blaid dan sylw.
Bydd yr holl wariant a reolir a achosir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant yn dod o fewn y rheolau ymgyrchu ar y cyd.
Mae ymgyrchu ar y cyd yn fwy na
- throsglwyddo neu fenthyg eitemau i ymgyrchydd arall, neu
- ddarparu arian i ymgyrchydd arall
Rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol neu rodd a’i drin yn unol â’r rheolau priodol.
Hyd yn oed os nad yw un o’r ymgyrchwyr di-blaid sy’n rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn achosi eu cyfran nhw o’r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a achoswyd yn dal yn ymgyrchu ar y cyd ac mae’n rhaid iddo gael ei adrodd gan bob ymgyrchydd di-blaid.
Nid yw unrhyw wariant a reolir sy’n cael ei achosi gan ymgyrchydd di-blaid sy’n mynd y tu hwnt i’r cynllun neu’r trefniant y cytunwyd arno neu a achosir y tu allan iddynt, yn rhan o’r ymgyrch ar y cyd ond fe fydd yn dal i gyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd di-blaid sy’n achosi’r gwariant.
Dim ond gwariant y cytunwyd arno fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd sy’n cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr eraill nad oedden nhw’n rhan o’r cynllun ar y cyd.
Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd
Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd
Gweithgareddau sy’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr di-blaid sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw’n gynhwysfawr, yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- ymgyrch hysbysebu ar y cyd, boed yn ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill, sy’n cynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd
- ymgyrch gydlynol; er enghraifft pan gytunir pa ardaloedd i’w cynnwys, pa faterion i’w codi neu ba bleidleiswyr i’w targedu
- gweithio ar y cyd pan fo un blaid yn cael rhoi feto neu’n gorfod rhoi cymeradwyaeth i ddeunydd plaid arall.
Enghraifft
Enghraifft
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar dargedu pleidleiswyr gogwydd mewn etholaethau ymylol ac mae'r ail ymgyrch yn ceisio annog y cyhoedd i gefnogi ymgeiswyr a phleidiau sydd o blaid mabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau'r DU yn unig.
Yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol i Senedd y DU, mae'r ddau ymgyrchydd yn penderfynu lansio ymgyrch gyda'i gilydd gyda'r nod o hyrwyddo pleidiau sydd o blaid cynrychiolaeth gyfrannol. At ddiben yr enghraifft hon, mae'r ymgyrch arfaethedig yn cynnwys gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Mae'r ddau yn codi £1,000 gyda'r bwriad o wario'r arian hwn gyda'i gilydd ar yr ymgyrch.
Maent yn cynllunio'r ymgyrch drwy gytuno ar bum nod allweddol ac amserlen ar gyfer yr ymgyrch, sy'n cynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ar lwyfan y ddau a digwyddiadau wyneb yn wyneb y maent yn eu cynnal gyda'i gilydd. Mae'r timau y tu ôl i'r ymgyrchoedd yn cytuno ar gynnwys y deunydd cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd
Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd
Gweithgareddau nad ydynt yn ymgyrchu ar y cyd
Nid yw ymgyrchwyr di-blaid sy’n mynd ati i wneud pethau yn y rhestr o weithgareddau a ganlyn, nad yw’n gynhwysfawr, yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i’ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb unrhyw ymrwymiad ariannol neu ymwneud pellach
- ychwanegu’ch llofnod i lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr di-blaid eraill heb unrhyw ymrwymiad ariannol
- siarad am ddim mewn digwyddiad a drefnir gan ymgyrchydd di-blaid arall heb unrhyw ymrwymiad ariannol
- cynnal trafodaethau am feysydd sydd o ddiddordeb cyffredin heb gydlynu gweithgaredd ymgyrchu
- nid ymgyrchu ar y cyd yw rhoi rhodd i ymgyrchydd di-blaid arall. Gweler yr adrannau ar wariant tybiannol a rhoddion.
Enghreifftiau
Enghraifft A
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Nod y ddau sefydliad yw annog pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol.
Mae'r sefydliad cyntaf yn creu deiseb lle mae'n gofyn i bobl ychwanegu eu henw er mwyn galw ar Senedd y DU i fabwysiadu cynrychiolaeth gyfrannol. Mae'n gofyn i'r ail sefydliad lofnodi'r ddeiseb a'i rhannu â'i gefnogwyr. Ar ôl i'r ddeiseb gau, mae hefyd yn gofyn i'r ail sefydliad ychwanegu ei enw at lythyr agored y bydd yn ei roi mewn papurau newydd sy’n galw ar bleidleiswyr i gefnogi pleidiau o blaid systemau pleidleisio amgen yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod.
Yn y sefyllfa hon, er bod y llythyr agored yn weithgaredd a reoleiddir, nid yw'r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant gyda'i gilydd ac nid oes bwriad i’r ddau ymgyrchydd fynd i wariant. Felly, nid yw hyn yn ymgyrchu ar y cyd.
Enghraifft B
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrch debyg yn galw am gynrychiolaeth gyfrannol yn Senedd y DU. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar dargedu pleidleiswyr gogwydd mewn etholaethau ymylol ac mae'r ail ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fanteision cynrychiolaeth gyfrannol.
Ar ôl i is-etholiad gael ei alw mewn etholaeth ymylol, mae'r sefydliad cyntaf yn trefnu digwyddiadau yn yr etholaeth er mwyn cyrraedd pleidleiswyr. Mae'n gofyn i'r ail sefydliad siarad yn un o'r digwyddiadau a hyrwyddo'r digwyddiadau ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Nid oes ymrwymiad ariannol rhwng y sefydliadau nac unrhyw wariant cydgysylltiedig. Nid ymgyrchu ar y cyd yw hyn.
Enghraifft C
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu polisïau penodol ar newid hinsawdd. Mae’r sefydliad cyntaf yn galw ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi ymrwymo i’r materion a nodwyd ganddynt, ac mae’r sefydliad yn gofyn i’r ail sefydliad rannu ei ddeunydd a hyrwyddo ei ymgyrch ar X/Twitter a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae’r ail sefydliad yn cytuno i gyhoeddi gwaith y sefydliad cyntaf ond nid yw’n mynd i unrhyw wariant cydgysylltiedig nac yn cynnal unrhyw ymgyrchu a reoleiddir.
Yn y sefyllfa hon, mae'r sefydliad cyntaf yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Rhaid i'r ail sefydliad asesu a ydynt wedi gwario unrhyw arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Er bod yr ail sefydliad wedi rhannu deunydd etholiadol y sefydliad cyntaf â’u dilynwyr, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun neu drefniant i fynd i wariant ar ymgyrchu a reoleiddir gyda’i gilydd. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Enghraifft D
Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch sy'n annog pleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi addo cyflwyno deddfau i amddiffyn tenantiaid. Mae’n nodi ymgyrchwyr ac elusen sydd â nodau cyffredin ac yn hyrwyddo'r sefydliadau hyn i'w gefnogwyr ac yn gyhoeddus ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd yn rhoi rhodd i un o'r ymgyrchwyr eraill sy'n cefnogi tenantiaid.
Yn y sefyllfa hon, mae'r sefydliad yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Hyd yn oed os yw'r sefydliadau eraill y maent wedi'u hyrwyddo hefyd yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes unrhyw ymrwymiad ariannol na gwariant cydgysylltiedig rhwng unrhyw un o'r ymgyrchwyr.
Yn ogystal, nid yw rhodd yn golygu bod ymgyrchwyr yn gweithio (neu'n gwario arian) gyda'i gilydd. Byddai'n ofynnol i bob sefydliad asesu'n unigol a ydynt yn gwario arian ar unrhyw weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.