Yn eich ffurflen gwariant, mae'n rhaid i chi gynnwys:
manylion unrhyw wariant yr aethoch iddo ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £2001
rhestr o bob etholaeth lle gwnaethoch wario dros £14,0422
rhestr fanwl o'r treuliau yr aed iddynt yn yr etholaethau hynny3
manylion unrhyw wariant tybiannol (nid oes angen anfonebau na derbynebau)
manylion unrhyw hawliadau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch4
Ar gyfer pob eitem o wariant, rhaid i chi adrodd ar y canlynol:
ar gyfer beth roedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
enw a chyfeiriad y cyflenwr
swm neu werth y gwariant yr aed iddo
ar ba ddyddiad y gwnaethoch wario'r arian
y dyddiad y cyflwynwyd yr hawliad am daliad (os yw'n gymwys)
y dyddiad y gwnaed y taliad (os yw'n gymwys)
Gallwch gyflwyno eich ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.
Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod ac anfon y ffurflen wedi'u cwblhau atom drwy e-bost i [email protected] neu gallwch eu hanfon atom drwy'r post.
Os byddwch wedi gwario dros £250,000 yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar eich gweithgarwch a reoleiddir, bydd angen i chi hefyd anfon adroddiad ar eich ffurflen gwariant gan archwilydd cymwys.5