| Argraffu'r canllawiau llawn

Termau allweddol a ddefnyddiwn yn y canllawiau hyn

Rhodd

O dan Ddeddf Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000, rhodd yw arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid. 

  • heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol
  • at ddiben bodloni gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
  • gyda gwerth o dros £500.1

Rhai enghreifftiau o roddion:

  • rhodd o arian neu eiddo
  • nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
  • tanysgrifiad neu daliadau tadogaeth
  • defnydd o swyddfa am ddim neu am gost ostyngedig

Gweler Beth yw rhodd? am ragor o wybodaeth.

Caniatâd talu

Rhaid i chi dderbyn a thalu anfonebau am wariant ymgyrchu a reoleiddir o fewn terfynau amser penodol. Os bydd anfonebau’n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau, rhaid i chi, neu’r cyflenwr, gael gorchymyn llys neu farn sy’n eich galluogi i’w talu.2  Caniatâd i dalu yw’r enw ar yr awdurdodiad hwn.

Gweler Terfynau amser ar gyfer cael a thalu anfonebau am ragor o wybodaeth.

Gwerth marchnadol

Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai’r eitem ar werth yn y farchnad agored.3

Trothwy cofrestru

Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gofrestru gyda’r Comisiwn.4  Ar ôl cofrestru, byddant yn ymddangos ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Caniataol

Rydym yn defnyddio’r term caniataol i gyfeirio at roddion y caniateir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau eu derbyn o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Cyfranogwyr/manylion perthnasol

O dan y gyfraith, mae’n rhaid i rai sefydliadau roi enwau’r bobl sydd ar eu cyrff neu bwyllgorau llywodraethu pan fyddant yn cofrestru gyda’r Comisiwn. Yn ôl y gyfraith, gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad.5

Gweler Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol am ragor o wybodaeth.

Y person cyfrifol

Yr unigolyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid yn dilyn y gyfraith ar wariant, rhoddion ac adrodd sydd wedi’i nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.6

Gweler Person cyfrifol am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025