| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa fathau o weithgarwch all gael eu rheoleiddio?

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o’r gweithgareddau canlynol yn cael ei reoleiddio os yw’r gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben:1

  • llunio neu gyhoeddi deunydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
  • canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
  • cynadleddau i’r wasg a digwyddiadau i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
  • trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch
  • ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill

Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y gweithgareddau uchod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025