| Argraffu'r canllawiau llawn

Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau

Mae yna hefyd derfynau amser o ran erbyn pryd y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ymgyrchu.

Derbyn anfonebau gan gyflenwyr

Mae’n rhaid i chi gael eich holl anfonebau ar gyfer eich gwariant ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod o’r etholiad.1

Os na chewch anfoneb o fewn 30 diwrnod, ni ddylech ei thalu ar ôl yr amser hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech roi gwybod i’ch cyflenwyr am hyn.

Rhaid i chi gofnodi manylion anfonebau nad ydynt wedi dod i law erbyn y dyddiad cau hwn yn eich ffurflen dreth.2

Talu anfonebau gan gyflenwyr

Mae’n rhaid i chi dalu’ch holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod o’r etholiad.3

Yn yr un modd, os na fyddwch yn talu anfoneb a dderbyniwyd ar amser o fewn 60 diwrnod, rhaid i chi beidio â’i thalu ar ôl yr amser hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech roi gwybod i’ch cyflenwyr am hyn.

Rhaid i chi gofnodi manylion eitemau nad ydynt wedi’u talu erbyn y dyddiad cau hwn yn eich ffurflen wariant.4

Sylwer, os yw’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o’r uchod yn disgyn ar benwythnos neu wyliau cyhoeddus, bydd y dyddiad cau yn symud i’r diwrnod gwaith nesaf.5  Mae hyn wedi’i gynnwys yn y cyfrifiadau dyddiad cau canlynol.

Dyddiad diweddaraf i
Derbyn eich anfonebauTalu eich anfonebau
6 Mehefin 20266 Gorffennaf 2026

Caniatâd i dalu

Gelwir cael gorchymyn llys i dalu anfonebau a dderbynnir yn hwyr neu sy’n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau yn ganiatâd i dalu. Mae’n drosedd gwneud taliad am yr hawliadau hyn heb gael caniatâd i dalu.6

Gallwch chi neu’r cyflenwr cael caniatâd i dalu drwy wneud cais i’r llys perthnasol i gael dyfarniad llys neu orchymyn talu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025