Diweddariadau i'n canllawiau
| Dyddiad y diweddariad | Disgrifiad o'r newid |
|---|---|
| Awst 2025 | Ers etholiad diwethaf y Senedd, mae’r canllawiau wedi’u hailysgrifennu i HTML. Fel rhan o'r ailysgrifennu, gwnaethom y diweddariadau nodedig canlynol:
Mae diweddariadau hefyd sy’n adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol, gan gynnwys:
|
Ynglŷn â’r canllawiau hyn
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae deddfau gwariant, rhoddion ac adrodd sy’n berthnasol yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei wario mewn etholiad y Senedd, gan ddechrau ar wariant uwchlaw £700. Mae’r gyfraith yn nodi faint y gall unigolion a sefydliadau penodol ei wario, a’r gofynion cofrestru ac adrodd a fydd yn berthnasol.
Rydym yn galw unigolion a sefydliadau sy’n meddwl am ymgyrchu cyn etholiad ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol nac ymgeisydd yn ‘ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau’. Mae pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn hanfodol i ddemocratiaeth iach. Rydym yn annog cyfranogiad gan ymgyrchwyr ac yn anelu at gefnogi ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith wrth iddynt gymryd rhan.
Mae gan ymgyrchwyr hawl i gynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Fodd bynnag, lle bo gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir, mae deddfau sy’n rhaid eu dilyn i sicrhau bod hyn yn dryloyw. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu manylion at ddeunydd etholiad i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gyhoeddi (a elwir yn ‘argraffnodau‘), cydymffurfio â therfynau ar wariant, gofynion ynghylch rhoddion, ac adrodd ar ôl yr etholiad.
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi manylion am y deddfau hyn a sut y byddant yn berthnasol i chi os ydych chi’n gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Os ydych chi hefyd yn ymgyrchu yn etholiad Senedd yr Alban yn 2026, byddwch yn ymwybodol bod deddfau tebyg yn berthnasol yn yr Alban. Gweler ein canllawiau i’r rhai nad ydynt yn bleidiau ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban.
Cefndir
Cyflwynodd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 ddyletswydd newydd ar y Comisiwn Etholiadol i gynhyrchu Cod Ymarfer ar y deddfau sy’n ymwneud â gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae’r Cod hwn yn wahanol i fathau eraill o ganllawiau rydym yn eu cyhoeddi oherwydd ei fod wedi’i gymeradwyo gan y Senedd. Mae’r Cod hwn yn berthnasol ar gyfer etholiadau i’r Senedd.
Mae’n rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r Cod wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae’r rhan hon yn nodi’r deddfau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau. Mae’n amddiffyniad statudol i ymgyrchydd nad yw’n blaid ddangos ei fod wedi cydymffurfio â’r Cod wrth benderfynu a oedd ei weithgarwch ymgyrchu yn cael ei reoleiddio.
Mae’r canllawiau anstatudol hyn ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn etholiadau’r Senedd yn seiliedig ar eiriad y Cod ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor ac enghreifftiau ychwanegol i’ch helpu i ddeall y gyfraith. Rydym hefyd wedi darparu astudiaethau achos o ymgyrchoedd go iawn i’ch tywys wrth benderfynu pa derfynau neu pa fath o adrodd sy’n berthnasol i weithgareddau eich ymgyrch.
Dylai hyn eich cefnogi i ddeall eich rhwymedigaethau ac i ymgyrchu’n hyderus. Caiff y termau allweddol eu hesbonio a’u rhoi fel rhestr yn nhrefn yr wyddor ar ddiwedd y canllawiau.
Ar gyfer pwy y mae’r canllawiau hyn?
Mae’r canllawiau hyn i unigolion a sefydliadau sy’n meddwl am ymgyrchu cyn etholiad y Senedd ond nad ydynt yn sefyll fel plaid wleidyddol nac ymgeisydd.
Termau ac ymadroddion a ddefnyddiwn
Yn y canllawiau hyn rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol. Rydym yn defnyddio ‘dylech/dylid’ ar gyfer eitemau yr ystyriwn i fod yn arfer da, ond nad ydynt yn ofynion cyfreithiol.
Rydym yn defnyddio ‘chi’ pan fyddwn yn cyfeirio at yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwario neu’n bwriadu gwario arian ar ymgyrchu cyn etholiad.
Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn
Mae ein canllawiau wedi’u rhannu’n adrannau, gyda phob un yn ymdrin â phwnc gwahanol o fewn y rheolaethau ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr llywio ar y dde, bydd yn datgelu’r dolenni i’r gwahanol feysydd canllaw ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio’r ddolen ar waelod yr ochr dde i symud i’r dudalen nesaf o ganllawiau.
Os hoffech ddarllen trosolwg o sut mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol yn etholiadau’r Senedd, dylech ddarllen:
Os ydych chi’n gwario arian yn etholiad y Senedd, dylech ddarllen yr adrannau canlynol i ddeall sut y bydd y deddfau’n berthnasol i chi:
| Adran | Beth mae’n ei gynnwys: |
|---|---|
| Pryd mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol? |
|
| Sut ydych chi’n gwybod a yw gwariant yn cael ei reoleiddio? |
|
| Rhoi’r prawf diben ar waith |
|
| Pa fathau o weithgarwch all gael eu rheoleiddio? |
|
| Gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio |
|
| Faint gallwch ei wario? |
|
| Gwariant tybiannol |
|
| Ymgyrchu ar y cyd |
|
Os ydych chi’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn etholiad y Senedd, dylech hefyd ddarllen yr adrannau canlynol sy’n berthnasol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau:
| Adran | Beth mae’n ei gynnwys: |
|---|---|
| Cofrestru |
|
| Awdurdodi a thalu gwariant ymgyrchu |
|
| Rhoddion |
|
| Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau |
|
| Cwblhau eich ffurflen |
|
Ein dull gorfodi
Rydym yn bwriadu rheoleiddio arian a gwariant gwleidyddol mewn ffordd sy'n effeithiol, yn gymesur ac yn deg. Rydym yn ymrwymedig i roi dealltwriaeth glir i'r rheini a reoleiddiwn o'u rhwymedigaethau cyfreithiol drwy ein dogfennau canllaw a'n gwasanaeth cynghori. Os nad ydych yn siŵr sut mae'r gyfraith yn gymwys i chi, cysylltwch â ni i gael cyngor. Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni.
Rydym yn defnyddio cyngor a chanllawiau yn rhagweithiol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Ac rydym yn cymryd camau gorfodi, gan ddefnyddio ein pwerau ymchwiliol a chosbau, lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn cyflawni ein nodau a'n hamcanion gorfodi.
Os nad ydych yn cydymffurfio â'r gyfraith, gallech chi neu eich sefydliad wynebu cosbau sifil neu droseddol. Mae mwy o wybodaeth am ein dull gorfodi yn Gorfodi | Electoral Commission
Beth yw ymgyrchydd nad yw’n blaid?
Mae rhai unigolion a sefydliadau, nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol cofrestredig, yn ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr, neu ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, heb fod ag ymgeiswyr yn sefyll eu hunain.
Mewn cyfraith etholiadol, diffinnir yr unigolion a’r sefydliadau hyn fel trydydd partïon. Rydym yn galw’r rhain yn ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae deddfau y mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu dilyn ar wariant, rhoddion ac adrodd ynghylch ymgyrchu.
| Ymgyrchoedd lleol | Ymgyrchoedd cyffredinol |
|---|---|
Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
| Ymgyrchoedd dros neu yn erbyn:
|
Ymgyrchoedd lleol
Yn etholiadau’r Senedd, mae ymgyrchoedd lleol wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. O dan y gyfraith, mae ymgyrchoedd lleol yn destun terfyn gwariant. Y terfyn hwn yw £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu fwy o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.3 Mae terfynau gwariant gwahanol ar gyfer ymgyrchoedd lleol ym mhob math o etholiad.
Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol ac nid yw’r canllawiau hyn yn ymdrin â’r rheoliadau ymgyrchu lleol yn fanwl.
Gweler ein canllawiau i ymgyrchwyr lleol am ragor o wybodaeth am yr ymgyrchoedd hyn.
Dylid gwneud cwynion am dorri’r deddfau sy’n berthnasol i ymgyrchoedd lleol i’r heddlu.
Ymgyrchoedd cyffredinol
Mae’r deddfau ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol wedi’i nodi o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Mae’r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio’r ymgyrchoedd hyn.
Os ydych chi’n ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr rhestr plaid, neu gategorïau o ymgeiswyr, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda ni a dilyn y deddfau ar wariant ymgyrchu, rhoddion ac adrodd.
Mae’r rhain wedi’u nodi yn canllawiau hyn.
Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu lleol a chyffredinol, gall y rheolaethau sy'n berthnasol yn y senarios hyn fod yn gymhleth. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i gael cyngor sydd wedi'i deilwra.
- 1. Erthygl 47 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 85(2) a (4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erth. 47 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
Trosolwg o'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Os ydych chi’n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r deddfau y mae’n rhaid i chi eu dilyn, sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn. Bydd eich gofynion a’ch cyfrifoldebau adrodd yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod hwn.
Mae eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys:
- gwariant a delir gennych chi, gan gynnwys gwariant ar eitemau neu wasanaethau a brynir cyn bod y cyfnod a reoleiddir yn cychwyn, ac a ddefnyddir yn ystod y cyfnod hwnnw1
- gwerth rhywbeth a ddarperir i chi rydych chi’n ei ddefnyddio yn yr ymgyrch (gwariant tybiannol)
- gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd pan fyddwch chi’n ymgyrchu ynghyd ag eraill mewn trefniadau penodol (ymgyrchu ar y cyd)
- gwariant ar weithgarwch a reoleiddir sy’n ymwneud ag etholiadau eraill yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir, megis gwariant mewn unrhyw etholiadau lleol neu isetholiadau.
Ni ddylech gynnwys gwariant sy’n dod o fewn rheolaethau gwariant yr ymgeisydd neu’r blaid wleidyddol, na gwariant ar weithgareddau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio. Mae’r gweithgarwch a fydd a’r gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio wedi’u manylu yn y canllawiau hyn.
Y terfyn gwariant isaf y mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ymgyrchu yn etholiadau’r Senedd yw £700. Gall unrhyw un wario hyd at £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, ond dim ond rhai unigolion a sefydliadau yn y DU all wario mwy na hyn.2 Dyma unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru gyda ni. Mae’r rhestr lawn o unigolion a sefydliadau cymwys i’w gweld yn Pwy all gofrestru?
Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch chi wario hyd at £10,000 yng Nghymru.3 Gall ymgyrchwyr sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 gofrestru gyda ni i gael eu cynnwys ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Rydym yn galw’r rhain yn ‘ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau’.
Gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau wario uchafswm o £30,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru a rhaid iddynt adrodd ar eu gwariant a’u rhoddion i ni ar ôl yr etholiad.4
Ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi hefyd ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol. Mae’r rhain yn berthnasol pryd bynnag y cynhyrchir deunydd etholiadol penodol, waeth faint rydych chi’n ei wario neu a ydych chi wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.
Mae’r tabl canlynol yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ôl y swm y maent yn bwriadu ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
| Faint ydych chi'n bwriadu ei wario ar ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir? | Ydych chi'n gymwys i wario'r swm hwn? | A oes rhaid i chi gofrestru cyn gwario’r swm hwn? | Gofynion adrodd |
|---|---|---|---|
| Hyd at £700 yng Nghymru | Gall unrhyw un wario hyd at £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir | Nac ydy | Dim. Rhaid i chi barhau i ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol |
| Rhwng £700 a £10,000 yng Nghymru | Dim ond os ydych chi’n gymwys i gofrestru Gweler Pwy all gofrestru? am y rhestr o unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru | Nac ydy | Dim. Rhaid i chi barhau i ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol |
| Mwy na £10,000 yng Nghymru | Dim ond os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid Gweler Pwy all gofrestru? am y rhestr o unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru os ydych chi’n bwriadu gwario mwy na £10,000 yn yr Alban. Gweler ein canllawiau i’r rhai nad ydynt yn bleidiau ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban | Ydy Os ydych chi wedi’ch cofrestru gallwch wario hyd at £30,000 yng Nghymru | Mae’n rhaid i chi gyflwyno adroddiad gwariant a rhoddion ar ôl yr etholiad Rhaid i chi hefyd ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol |
- 1. Adran 94(8) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.89B(1) (Cymru) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.94(3)(a)(i) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 10, paragraff 6 ac adran 96(1) ac (1A) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Pryd mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol?
Y cyfnod a reoleiddir
Bydd gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar weithgareddau sy’n cael eu rheoleiddio yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’.
Mae’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd 2026 yn cychwyn ar 7 Ionawr 2026, ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 7 Mai 2026.1
Bydd unrhyw wariant rydych chi wedi’i ysgwyddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Mae’n cynnwys:
- gwariant ar eitemau neu wasanaethau a brynir cyn bod y cyfnod a reoleiddir yn cychwyn, ond a ddefnyddir yn ystod y cyfnod hwnnw2
- gwerth yr eitemau neu’r gwasanaethau a roddir i chi am ddim, neu ar ddisgownt anfasnachol o fwy na 10%, ac yna a ddefnyddir yn eich ymgyrch (gweler ‘Gwariant tybiannol’)3
- gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd pan fyddwch chi’n ymgyrchu ynghyd ag eraill mewn trefniadau penodol (ymgyrchu ar y cyd)
- gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir sy’n ymwneud ag etholiadau eraill yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir, megis gwariant mewn unrhyw etholiadau lleol neu isetholiadau.
- 1. Atodlen 10, paragraff 6(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 94(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.86 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Sut ydych chi’n gwybod a yw gwariant yn cael ei reoleiddio?
Mae’r deddfau ymgyrchu y rhai nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol i wariant ar beth a elwir gennym yn ‘weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae’r gyfraith etholiadol yn nodi’r gweithgarwch a fydd ac na fydd yn cael eu rheoleiddio ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Rhaid i bob ymgyrchydd nad yw’n blaid gadw cofnodion o’u gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’w terfyn gwariant. Os ydych chi’n cofrestru gyda ni, bydd angen i chi hefyd restru a rhoi gwybod i ni am eich gwariant ar y gweithgareddau hyn ar ôl yr etholiad.
Y gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio yw:1
- llunio neu gyhoeddi deunydd sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- cynadleddau i’r wasg a digwyddiadau i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
- trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch
- ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Gelwir y treuliau hyn yn ‘wariant a reoleiddir’ o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
I asesu a yw’r gwariant ar un o’r gweithgareddau ymgyrchu hyn yn cael ei reoleiddio, rydym yn edrych ar ddau ffactor:
- Y ‘prawf diben’
- a yw’r gweithgaredd wedi’i anelu at y cyhoedd neu’n cynnwys y cyhoedd
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Beth yw’r prawf diben?
Ni chaiff gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar un o’r gweithgarwch uchod ei reoleiddio oni bai y gellir yn rhesymol ystyried ei fod wedi’i fwriadu i hyrwyddo neu gaffael llwyddiant etholiadol:
- un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
- un neu fwy o ymgeiswyr rhestr pleidiau
- pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi neu ddim yn cefnogi polisïau penodol neu
- categori arbennig arall o ymgeiswyr
drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad sydd ar ddod i bleidleisio mewn ffordd benodol2
Mae p’un a ellir yn rhesymol ystyried bod gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn cael ei adnabod yn gyffredin fel y ‘prawf diben’. Dim ond os yw’r gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben y bydd gwariant ar unrhyw un o weithgareddau’r ymgyrch yn cael ei reoleiddio.
Ystyr ‘y cyhoedd’
Dim ond y prawf diben sydd angen i rai gweithgareddau eu bodloni er mwyn cael eu rheoleiddio, tra bydd gweithgareddau eraill ond yn cael eu rheoleiddio os ydynt hefyd wedi’u hanelu at y cyhoedd, neu’n cynnwys y cyhoedd. Dyma restr ohonynt:
- llunio neu gyhoeddi deunydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Nid yw’r term ‘y cyhoedd’ yn cael ei ddiffinio yn y gyfraith etholiadol ac felly mae angen ei ystyried yn ei ystyr arferol. Bydd angen i chi ystyried cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer pob un o’r gweithgareddau hyn. Mae canllawiau ar ystyr ‘y cyhoedd’ wedi’u cynnwys yn y tudalennau gweithgarwch ymgyrchu.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 1 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 85(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Rhoi’r prawf diben ar waith
Rhaid cymhwyso’r prawf diben ar yr adeg y caiff y gwariant ar y gweithgarwch ei ysgwyddo. Os ysgwyddwyd y gwariant cyn y cyfnod a reoleiddir ond bod y gweithgarwch yn digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid cymhwyso’r prawf diben ar yr adeg mae’r gweithgarwch yn digwydd.
Er nad yw’r rhain wedi’u nodi yn y gyfraith, mae nifer o ffactorau a all helpu i benderfynu a ellir ystyried yn rhesymol bod gweithgarwch ymgyrchu wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod. Dyma restr ohonynt:
- Galwad i weithredu
- Tôn
- Cyd-destun ac amseru
- Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Ni fydd un ffactor unigol ar ei ben ei hun yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu penodol yn bodloni’r prawf diben ai peidio. Yn hytrach, yr holl ffactorau perthnasol gyda’i gilydd fydd yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
Mae’r Comisiwn yn defnyddio’r ffactorau hyn wrth ystyried a yw gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben.
1. Galwad i weithredu
Mae ymgyrch sy’n cynnwys galwad ar bleidleiswyr i weithredu drwy bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy’n hyrwyddo llwyddiant etholiadol ar gyfer plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni’r prawf diben. Gall yr alwad i weithredu fod yn alwad uniongyrchol, neu gall fod yn ymhlyg.
Mae ymgyrch sy’n hyrwyddo pleidiau neu ymgeiswyr penodol yn uniongyrchol, neu sy’n hyrwyddo rhai pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr dros rai eraill, yn debygol o fodloni’r prawf diben.
Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch gyhoeddus heb alwad uniongyrchol neu ymhlyg i bleidleiswyr weithredu yn bodloni’r prawf diben.
2. Tôn
Mae ymgyrch sy’n gadarnhaol neu’n negyddol tuag at blaid neu bleidiau gwleidyddol, categori o ymgeiswyr neu bolisi sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy’n gwneud i bleidleisiwr feddwl am blaid wleidyddol benodol neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried fel un y bwriedir iddi ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni’r prawf diben.
3. Cyd-destun ac amseru
Mae ymgyrch ar fater neu bolisi sy’n fater amlwg ar yr adeg y cynhelir y gweithgarwch ymgyrchu, sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy’n hyrwyddo llwyddiant etholiadol plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy’n dechrau’n agos at ddyddiad etholiad ac sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn fwy tebygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch barhaus yn cael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.
4. Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Dim ond os bydd person rhesymol yn ystyried bod y gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd i ddod y bydd gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y ffactorau y dylech eu hystyried wrth asesu a yw eich ymgyrchu’n bodloni’r prawf diben.
Bwriad
Efallai nad bwriad eich ymgyrch yw dylanwadu ar bleidleiswyr. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n cynnal ymgyrch gydag un neu fwy o’r bwriadau canlynol:
- codi ymwybyddiaeth o broblem
- dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi yn eu maniffestos
- ymgyrchu dros neu yn erbyn deddfwriaeth y llywodraeth
- darparu gwybodaeth i bleidleiswyr
- annog pobl i gofrestru i bleidleisio
- annog pobl i bleidleisio, ond nid dros unrhyw un yn benodol
Mae’n bwysig ystyried sut y byddai person rhesymol yn gweld eich gweithgarwch ac a fyddent yn meddwl mai pwrpas eich ymgyrch yw dylanwadu ar bobl i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod. Beth bynnag yw nodau neu fwriadau eich ymgyrch, efallai y byddai person rhesymol yn ei gweld fel un sydd â bwriad gwahanol, neu fwriad pellach.
Hyd yn oed os yw eich bwriad yn rhywbeth arall, bydd eich ymgyrch yn dal i fodloni’r prawf diben os gellir ei hystyried yn rhesymol fel un a fwriadwyd i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn plaid wleidyddol, un neu fwy o ymgeiswyr rhestr plaid, neu gategori o ymgeiswyr.
Er enghraifft, efallai mai eich bwriad yw dylanwadu ar bleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisi. Os ewch ati i wneud hyn drwy nodi a hyrwyddo pleidiau ac ymgeiswyr sydd eisoes wedi mabwysiadu’r polisi, yna bydd hyn yn bodloni’r prawf diben.
Ymgyrchu ar fater
Ymgyrchoedd sy’n sôn am bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr
Ym mron pob achos, bydd gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben os yw’n:
- yn hyrwyddo pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi amcanion eich ymgyrch yn benodol
- yn hyrwyddo rhai pleidiau neu ymgeiswyr yn benodol dros eraill, er enghraifft drwy nodi neu gymharu rhinweddau safbwyntiau pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr ar bolisi
Ymgyrchoedd nad ydynt yn sôn am bleidiau gwleidyddol nac ymgeiswyr
Os nad yw eich ymgyrch yn sôn am ymgeiswyr, pleidiau nac etholiadau, yna mae’n llai tebygol y bydd eich gwariant yn cael ei reoleiddio. Mae hyn oherwydd, ar ôl cydbwyso’r ffactorau - yn benodol ‘galwad i bleidleiswyr weithredu’ a ‘thôn’ - mae’n llai tebygol y bydd eich gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben.
Er mwyn i weithgaredd fodloni’r prawf, mae angen i’r pleidleisiwr wybod pa ffordd y mae’n cael ei berswadio i bleidleisio.
Fodd bynnag, efallai y bydd eich ymgyrch yn nodi plaid wleidyddol, pleidiau gwleidyddol, neu grŵp o ymgeiswyr yn ymhlyg, heb eu henwi. Gallai hyn ddigwydd os yw polisi neu fater mor gysylltiedig â phlaid, pleidiau neu gategori o ymgeiswyr fel ei fod yn ffordd fer o’u defnyddio yn eich ymgyrch.
Yn yr achos hwn, bydd eich ymgyrch yn bodloni’r prawf diben os, ar ôl asesu’r holl ffactorau, mae’n rhesymol ystyried bod eich gweithgarwch ymgyrchu ar y polisi wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros neu yn erbyn y pleidiau gwleidyddol neu’r ymgeiswyr hynny.
Mae hyn oherwydd y gallai polisïau penodol fod yn fwy tebygol na materion mwy cyffredinol o fod yn gysylltiedig yn agos â phleidiau neu ymgeiswyr.
Enghraifft: ‘Gofal cymdeithasol’ a ‘treth dementia’ yn etholiad cyffredinol Senedd y DU 2017
Roedd ‘gofal cymdeithasol’ yn fater amlwg ar y pryd, ond roedd gan y rhan fwyaf o’r prif bleidiau amrywiaeth o bolisïau a safbwyntiau arno. Nid oedd y mater cyffredinol yn gysylltiedig yn agos ac yn gyhoeddus ag unrhyw blaid neu gategori o ymgeiswyr. Mae’n annhebygol y byddai ymgyrch ar ofal cymdeithasol wedi bodloni’r prawf diben oni bai ei bod yn sôn yn benodol am bleidiau neu ymgeiswyr.
Roedd ‘treth dementia’ yn slogan a oedd yn gysylltiedig â pholisi amlwg y Blaid Geidwadol yn yr etholiad, a gyhoeddwyd fel rhan o’u maniffesto yn ystod yr ymgyrch. Roedd yn gysylltiedig yn agos ac yn gyhoeddus â nhw. Byddai ymgyrch yn erbyn y ‘dreth dementia’ wedi bod yn llawer mwy tebygol o fodloni’r prawf diben ar sail cydbwysedd y ffactorau – yn enwedig oherwydd mai’r ymadrodd ‘treth dementia’ ei hun yw un a fathwyd a’i ddefnyddio gan wrthwynebwyr y Ceidwadwyr yn yr ymgyrch etholiadol honno.
Gweithgarwch ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad
Mae ymgyrch barhaus ar fater penodol a oedd yn cael ei chynnal cyn cyhoeddi etholiad yn annhebygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod os nad oes etholiad ar ddod.
Os bydd ymgyrch barhaus yn parhau heb ei newid unwaith y cyhoeddir yr etholiad, mae’n annhebygol o gael ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Os bydd gweithgarwch o amgylch ymgyrch barhaus yn cynyddu neu’n newid yn y cyfnod cyn etholiad mewn ffordd sy’n golygu bod y gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben, gellir ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. O’r adeg y caiff yr ymgyrch ei hystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, dim ond y costau sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch honno sy’n debygol o gael eu rheoleiddio.
Beth sy’n digwydd os caiff y polisi rydych chi wedi bod yn ymgyrchu drosto ei fabwysiadu gan blaid wleidyddol?
Gall plaid wleidyddol fabwysiadu’n gyhoeddus polisïau yr ydych eisoes yn ymgyrchu drostynt neu yn eu herbyn.
Os na wnaeth eich ymgyrch fodloni’r prawf diben cyn i’r blaid newid ei safbwynt, mae’n annhebygol y bydd eich ymgyrch arfaethedig yn bodloni’r prawf.
Fodd bynnag, o ganlyniad i’r blaid yn newid ei safbwynt, efallai y byddwch yn gwella neu’n cynyddu eich gwariant ar y mater o’i gymharu â’r hyn a gynlluniwyd gennych yn wreiddiol.
Yn yr achos hwn lle byddwch yn newid eich dull gweithredu, bydd y gwariant ymgyrchu pellach yn cael ei reoleiddio os gellir ei ystyried yn rhesymol fel un a fwriadwyd i hyrwyddo neu feirniadu’r blaid.
Fel arfer, dylech asesu eich ymgyrch gan ddefnyddio’r ffactorau rydyn ni wedi’u nodi.
Er enghraifft, os ydych chi’n croesawu ymrwymiad plaid wleidyddol i bolisi rydych chi wedi ymgyrchu drosto, ac mae’n amlwg y byddech chi’n croesawu ymrwymiad gan unrhyw blaid wleidyddol, ni fydd hyn fel arfer yn bodloni’r prawf diben.
Enghraifft A
Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn galw ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol i ymrwymo i rewi rhent i helpu rhentwyr yn ystod argyfwng costau byw. Mae’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg am nifer o flynyddoedd.
Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’r sefydliad yn cynyddu ei wariant fel y cynlluniwyd i ehangu cyrhaeddiad ei ymgyrch. Nid yw cwmpas yr ymgyrch yn newid yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae sawl plaid yn nodi bod costau rhentu cynyddol yn broblem i’r cyhoedd. Mae dwy blaid yn cynnwys addewid i rewi costau rhent i rai rhentwyr yn eu maniffestos, tra bod rhai eraill yn cynnig polisïau cyffredinol ynghylch cynyddu cefnogaeth i rentwyr os cânt eu hethol.
Mae’r sefydliad yn cyhoeddi datganiad yn croesawu cyhoeddiad polisi pob plaid ac yn annog pleidiau eraill i ddilyn eu hesiampl.
Er bod yr ymgyrch yn gadarnhaol ynglŷn â phleidiau sy’n cefnogi rhewi rhent drwy eu canmol am fabwysiadu polisïau, nid yw’r prawf diben yn cael ei fodloni. Mae amseriad yr ymgyrch a’r alwad i weithredu sydd wedi’i hanelu at bleidiau gwleidyddol i newid eu polisïau, yn hytrach na thargedu pleidleiswyr, yn awgrymu na ellir yn rhesymol ystyried bod y gweithgarwch wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr. Nid yw’r gwariant ar y gweithgarwch yn cael ei reoleiddio.
Enghraifft B
Mae ymgyrchydd wedi bod yn ymgyrchu ar faes polisi ers rhai blynyddoedd. Maen nhw’n cynnal ymgyrch hysbysebu ddigidol ar y mater, sy’n rhedeg yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd. Nid yw’r ymgyrch yn sôn am bleidiau nag ymgeiswyr ac nid yw’n bodloni’r prawf diben.
Yn ystod yr ymgyrch, mae’r blaid lywodraethol yn ymrwymo i ddiddymu ymrwymiad gwariant allweddol yn y maes polisi hwnnw. Mae’r tair wrthblaid fwyaf i gyd yn cadarnhau eu hymrwymiad i’r gwariant, ac mae’r mater yn dod yn un amlwg yn yr etholiad. Mae hyn yn creu cyd-destun gwleidyddol newydd.
Mae’r ymgyrch hysbysebu ddigidol yn parhau drwyddi draw. Gan nad yw’r ymgyrch wedi newid ers iddi gael ei lansio cyn i’r pleidiau fabwysiadu’r mater, nid oes angen cymhwyso’r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Nid yw’r ymgyrch yn bodloni’r prawf o hyd.
Gan ymateb i’r diddordeb cynyddol yn eu mater, mae’r ymgyrchydd yn cynyddu ei ymddangosiadau yn y cyfryngau a’i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn y rhain maent yn canolbwyntio ar fanteision y polisi ac yn annog pob plaid i ailddatgan eu hymrwymiad.
Gan fod hwn yn weithgaredd newydd, mae angen cymhwyso’r prawf diben yn y cyd-destun gwleidyddol newydd. Fodd bynnag, gan fod yr ymgyrch yn parhau i fod yn generig, heb alwad benodol i weithredu gan bleidleiswyr, hyd yn oed yn y cyd-destun newydd ni ellir ei hystyried yn rhesymol fel un sydd wedi’i bwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr, ac nid yw’r prawf diben yn cael ei fodloni.
Yn nes at yr etholiad, mae’r ymgyrchydd yn cynnal ymgyrch hysbysebu newydd gyda’r slogan ‘Pleidleisiwch i achub yr ymrwymiad’. Yn y cyd-destun gwleidyddol newydd, mae gan y slogan gysylltiad clir â’r etholiad a galwad i weithredu i bleidleiswyr gyda ‘Pleidleisiwch’.Gan fod y mater yn amlwg, byddai person rhesymol yn meddwl bod yr ymgyrchydd yn bwriadu dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio yn erbyn y blaid lywodraethol a thros unrhyw un o’r tair wrthblaid sydd wedi gwneud yr ymrwymiad. Mae gwariant ar yr ymgyrch newydd wedi’i reoleiddio.
Elusennau a sefydliadau sydd â chyfyngiadau ar eu gweithgarwch gwleidyddol
Mae gan rai sefydliadau gyfyngiadau ar eu gweithgarwch gwleidyddol, er enghraifft yn eu cyfansoddiad, neu elusennau sy’n rhwym wrth gyfraith elusennau.
Efallai y bydd y sefydliadau hyn o’r farn, drwy gydymffurfio â’r cyfyngiadau ar wahân hyn, eu bod yn llai tebygol o gynnal gweithgarwch sy’n bodloni’r prawf diben.
Mae hyn am fod y cyfyngiadau yn golygu bod llawer o’r mathau o ymgyrchoedd sy’n bodloni’r prawf diben wedi’u gwahardd ar gyfer y sefydliadau hynny.
Er enghraifft, rhaid i elusennau aros yn annibynnol ar wleidyddiaeth pleidiau ac mae’n rhaid iddynt beidio â chefnogi plaid wleidyddol nac ymgeisydd na chreu canfyddiad o gefnogaeth o ganlyniad i’w gweithredoedd neu eu cyfranogiad.
Os ydych yn elusen ac yn cydymffurfio â chyfraith elusennau a chanllawiau gan y rheoleiddiwr elusennau perthnasol, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau mae’n annhebygol y bydd eich gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben. Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yw’r rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o hyd o’r rheolau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau rhag ofn bod eich gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben. O dan rai amgylchiadau, gall elusennau gynnal gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir o dan gyfraith etholiadol, ac mae elusennau yn gwneud hynny.
Mae ein hastudiaethau achos o etholiadau diweddar yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchu sy’n seiliedig ar faterion a fydd yn ddefnyddiol wrth gymhwyso’r prawf diben at eich ymgyrchoedd eich hunan.
Os ydych yn cynllunio ymgyrch a’ch bod yn dal yn ansicr ynghylch sut y mae’n cyd-fynd â’r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, cysylltwch â ni a gallwn roi cyngor wedi’i deilwra i chi.
Astudiaethau achos
Mae ein hastudiaethau achos yn rhoi enghreifftiau o ymgyrchoedd sy’n seiliedig ar faterion ac yn egluro a oeddent yn bodloni’r prawf diben ai peidio:
Astudiaeth achos 1: 0.7% o Gynnyrch Domestig Gros ar gymorth tramor
Pa fathau o weithgarwch all gael eu rheoleiddio?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, bydd gwariant ar unrhyw un o’r gweithgareddau canlynol yn cael ei reoleiddio os yw’r gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben:1
- llunio neu gyhoeddi deunydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- cynadleddau i’r wasg a digwyddiadau i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
- trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch
- ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y gweithgareddau uchod.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 1 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Gorbenion, costau staff a TAW
Gorbenion
Rhaid adrodd ar orbenion y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Y swm y mae’n rhaid ei gynnwys yn y ffurflen gwariant yw’r gyfran sy’n adlewyrchiad rhesymol o ddefnydd yn ystod yr ymgyrch.
Pan nad oes cynnydd mewn gwariant ar orbenion y tu hwnt i’r gwariant arferol a ysgwyddir gan ymgyrchydd, ni fydd gwariant ar orbenion yn cael ei reoleiddio. Pan fo cynnydd yng nghost gorbenion a ysgwyddir gan ymgyrchydd o ganlyniad i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, rhaid adrodd ar y cynnydd hwnnw o ran gwariant.
Yn gyffredinol, y gyfran sy’n adlewyrchiad rhesymol o ddefnydd yw’r gost a ysgwyddir sy’n mynd y tu hwnt i’r costau arferol mewn cyfnod penodol. Pan fo angen dosrannu gorbenion, mae ffigwr cyfanredol ar gyfer pob gorben yn ddigon i fodloni’r rhwymedigaethau adrodd.
Gall gorbenion gynnwys eitemau fel:
- gwagle swyddfa
- biliau trydan
- darparu llinellau ffôn a mynediad i’r rhyngrwyd
- ffonau symudol
- darparu offer swyddfa o unrhyw fath
Nid oes angen rhoi gwybod am gostau dŵr, nwy a’r dreth gyngor gan nad ydynt wedi’u cysylltu’n ddigon agos â’r gweithgarwch a reoleiddir.
Er enghraifft, yn ystod y cyfnod a reoleiddir mae ymgyrchydd yn prynu cyfrifiaduron, offer swyddfa a ffonau ychwanegol i gefnogi eu tîm i gynhyrchu deunydd ymgyrchu a chanfasio. Gyda’r pryniannau hyn, mae biliau trydan a rhyngrwyd yr ymgyrchydd yn cynyddu y tu hwnt i’w gwariant arferol.
Gan fod y gwariant ar orbenion wedi cynyddu y tu hwnt i wariant arferol yr ymgyrchydd o ganlyniad i weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, bydd costau’r gorbenion hyn yn cael eu rheoleiddio.
Costau staff
Rhaid adrodd ar gostau staff y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgarwch a reoleiddir. Dim ond costau staff a ysgwyddir mewn cysylltiad â gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir sydd angen eu hadrodd.
Pan mai dim ond yn rhannol y gellir priodoli costau staff i weithgarwch a reoleiddir, rhaid dosrannu’r costau a dim ond y gyfran a briodolir i weithgarwch a reoleiddir y mae’n rhaid ei chynnwys yn y ffurflen gwariant. Er enghraifft, os oes gennych aelod o staff yn gweithio ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ogystal ag ar weithgareddau nas reoleiddir, dim ond y gyfran o gostau staff sy’n adlewyrchu’r amser a dreuliwyd ganddynt yn gweithio ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir y mae’n rhaid i chi ei hadrodd.
Pan fo angen dosrannu amser aelod o staff, bydd ffigur cyfanredol ar gyfer yr holl amser staff a briodolir i weithgarwch a reoleiddir yn bodloni’r rhwymedigaethau adrodd.
Bydd angen i chi gyfrif am yr holl gostau staff wrth gofnodi’r costau sy’n gysylltiedig â gweithgaredd a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflog gros yr aelod o staff
- unrhyw lwfansau ychwanegol a delir iddynt
- eich cyfraniadau yswiriant gwladol a phensiwn fel eu cyflogwr
Nid oes angen i chi gynnwys costau gofal plant unrhyw aelod o staff gan nad yw’r rhain yn gysylltiedig yn agos â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Yn eich ffurflen dreth, mae’n ofynnol i chi gynnwys anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliadau am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir sydd dros £200. Gan na fydd gennych anfoneb na derbynneb ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol, dylech yn lle hynny roi dadansoddiad o’ch costau staff i ni eu cyhoeddi yn lle hynny. Er enghraifft, gellir dadansoddi hyn fesul gweithgaredd, fesul aelod staff dienw neu fesul mis. Ni ddylech gyflwyno unrhyw slipiau cyflog.
Er enghraifft, mae aelod o staff yn gweithio ar ymgyrch etholiad eich sefydliad ar yr un pryd â’ch busnes dydd i ddydd.
Os oes gan eich sefydliad eisoes ffordd sefydledig o ddyrannu’r costau hyn ar gyfer gwaith arall, efallai y byddwch yn penderfynu cyfrifo costau staff a achosir mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn yr un modd.
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o gyfran y costau staff y gellir eu priodoli’n deg i’ch gwariant ymgyrchu a reoleiddir.
Er mwyn eich helpu i gynllunio eich gwariant, dylech chi a’r aelod o staff gytuno ar amcangyfrif rhesymol o’r amser y maent yn debygol o’i dreulio ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Dylech ofyn i’r aelod o staff gadw golwg ar yr amser a dreulir mewn gwirionedd ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi os ydynt yn treulio llawer mwy o amser nag a gytunwyd yn wreiddiol. Dylai hyn eich helpu i sicrhau nad ydych chi’n torri’r terfyn gwariant.
TAW
Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, mae’n rhaid i chi gynnwys hyn wrth roi gwybod am gostau’r eitem yn eich ffurflen dreth. Mae’n dal yn rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei hawlio’n ôl fel traul busnes.
Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wneir i gwmnïau sydd wedi’u lleoli dramor bob amser yn cynnwys TAW. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hyn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oed os nad yw TAW wedi’i chynnwys ar yr anfoneb.
Er enghraifft, rydych chi’n talu am ddeunydd digidol i gael ei gyhoeddi fel hysbysebion ar blatfform cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’i leoli dramor. Rydych chi wedi talu TAW ar yr hysbysebion, ond nid yw eich anfoneb yn cynnwys TAW. Mae’n dal yn rhaid i chi gynnwys y TAW a dalwyd gennych wrth roi gwybod am gostau’r hysbysebion yn eich ffurflen dreth.
Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd etholiadol
Bydd deunydd ymgyrchu yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os yw’n bodloni’r prawf diben ac ar gael i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd ei glywed neu ei weld. Mae p’un a yw’r deunydd ar gael i’r cyhoedd yn cael ei bennu gan bwy sydd â mynediad at y deunydd hwnnw.
Os ydych yn cynhyrchu deunydd sy’n ymwneud a digwyddiad etholiadol neu blaid, ymgeisydd neu ddaliwr swydd etholedig, efallai bydd angen i chi gynnwys argraffnod. Mae gofynion ar wahân sy’n berthnasol i ddeunyddiau argraffedig a digidol. Fel arfer da, rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar bob deunydd a gyhoeddwch.
Deunydd wedi’i gyfyngu i bobl benodol
Ni fydd deunydd rydych chi’n ei gyfyngu fel mai dim ond grŵp caeedig o aelodau neu bobl sydd wedi dewis ei dderbyn all ei weld yn cael ei ystyried wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd, nac i ran o’r cyhoedd.
Os na all y cyhoedd gael mynediad at ddeunydd, ni fydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r deunydd wedi’i argraffu neu’n ddigidol.
Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu cylchlythyr yr ydych ond yn ei anfon at bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn diweddariadau gennych chi, sydd wedi ymuno â’ch cynllun aelodaeth neu sydd wedi rhoi cyfraniadau at eich ymgyrch. Rydych chi’n sicrhau nad yw’r cylchlythyr hwn ar gael yn unman arall.
Gan fod y cylchlythyr ond wedi’i rannu â phobl benodol, nid yw ar gael i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd. Ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Gwefannau a blogiau
Ystyrir bod cynnwys gwefannau, gan gynnwys blogiau, wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd os nad oes cyfyngiadau ar bwy all gael mynediad at y cynnwys. Bydd yn cael ei reoleiddio os yw:
- yn cynnwys cynnwys y gellir ystyried yn rhesymol ei fod wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr
- yn cael ei hysbysebu (neu ei hyrwyddo fel arall) i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, mewn cysylltiad â’ch ymgyrch
Gall hysbysebu neu hyrwyddo gynnwys:
- rhoi cyfeiriad y wefan fel ffynhonnell ar gyfer rhagor o wybodaeth am ddeunydd ymgyrchu arall, neu mewn cyfathrebiadau eraill fel diweddariadau e-bost
- gwella safle’r wefan mewn rhestrau canlyniadau peiriannau chwilio
- rhoi dolenni ar wefannau eraill
- marchnata feirol wedi’i drefnu neu weithgareddau tebyg
Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu graffig yn ystod y cyfnod a reoleiddir rydych chi’n annog eich cefnogwyr i’w rannu ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eich sefydliad. Mae’r graffig yn cynnwys dolen i dudalen gyhoeddus ar eich gwefan lle gall pobl ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich ymgyrch. Rydych chi wedi asesu bod y graffig a’r wefan yn bodloni’r prawf diben.
Nid oes gan y wefan na’r graffig gyfyngiadau ar bwy all gael mynediad atynt ac felly fe’u hystyrir yn rhai sydd ar gael i’r cyhoedd. Gan fod y deunydd hefyd yn bodloni’r prawf diben, byddant yn cyfrif fel gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Mewn cyferbyniad, os byddwch chi’n rhoi deunydd ar eich gwefan sydd ar gael i bobl rydych chi’n anfon y ddolen atynt yn unig, er enghraifft i’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer eich rhestr postio drwy e-bost, ni fydd y deunydd hwn yn cael ei ystyried wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Yn y senario hwn ni fydd y deunydd yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae deunydd ymgyrchu a gyhoeddwyd ar gyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i unrhyw un ei weld wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys enwi deunydd ymgyrchu neu ddeunyddiau sydd wedi’u targedu at ran benodol o’r cyhoedd, er enghraifft ymgyrchoedd sydd wedi’u cyfeirio at drigolion ardal benodol, neu bobl sy’n aelodau o grwpiau neu rwydweithiau penodol.
Fodd bynnag, nid yw cynnwys cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’i gyfyngu i grŵp penodol o bobl ac na all unrhyw aelod o’r cyhoedd ei gyrchu, wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd. Er enghraifft, mae’n annhebygol y byddai deunydd ymgyrchu a rennir ar grŵp Facebook caeedig neu gyfrif X (Twitter gynt) preifat yn unig yn cael ei reoleiddio am y rheswm hwn.
Er mwyn asesu a fydd deunydd ymgyrchu rydych chi’n ei wneud ar gael i’r cyhoedd ar gyfryngau cymdeithasol yn cael ei reoleiddio, bydd angen i chi ystyried a yw hefyd yn bodloni’r prawf diben.
Os yw gwariant ar gyfryngau cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, ac yn bodloni’r prawf diben, mae’n rhaid i chi gyfrif am gost cynhyrchu, diweddaru a dosbarthu’r deunydd hwn. Mewn nifer o achosion, bydd y costau o roi deunydd ar safle cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft anfon trydariad neu ddiweddaru tudalen Facebook, yn ddibwys.
Papurau newydd a chyfnodolion
Nid yw cynhyrchu neu gyhoeddi unrhyw gynnwys – ac eithrio hysbyseb – mewn papur newydd neu gyfnodolyn (gan gynnwys fersiynau ar-lein o bapurau newydd a chyfnodolion) yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.1
Fodd bynnag, os byddwch yn hysbysebu mewn papur newydd neu gyfnodolyn, bydd yr hysbyseb yn cael ei rheoleiddio os yw’r hysbyseb ar gael i’r cyhoedd, neu ran o’r cyhoedd, ac yn bodloni’r prawf diben. Enghraifft o hyn fyddai hysbyseb rydych chi’n ei rhoi mewn cylchlythyr lleol yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros grŵp o ymgeiswyr.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 2(1)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Canfasio ac ymchwil y farchnad
Dim ond os yw’n ceisio barn neu wybodaeth gan y cyhoedd yn gyffredinol y bydd canfasio ac ymchwil marchnad sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Gall canfasio ac ymchwil marchnad gynnwys gweithgareddau fel:
- curo ar ddrysau neu ffyrdd eraill o gasglu gwybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd
- defnyddio banciau ffôn i ffonio aelodau o’r cyhoedd i hyrwyddo plaid benodol neu gategorïau o ymgeiswyr, neu i ddarganfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
- arolygon neu holiaduron a anfonir at aelodau o’r cyhoedd i ddarganfod sut mae unigolyn yn bwriadu pleidleisio
Os yw eich gweithgarwch canfasio neu ymchwil marchnad yn bodloni’r prawf diben ond dim ond gydag aelodau neu gefnogwyr eich sefydliad y caiff ei gynnal, ni fydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gan nad yw’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol.1
Dyma enghreifftiau o gostau a fydd yn cael eu cynnwys mewn cysylltiad â chanfasio ac ymchwil marchnad.
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir mewn cysylltiad â chanfasio neu ymchwil marchnad. Mae hyn yn cynnwys cofnodi, dadansoddi neu wneud defnydd o ganlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgarwch canfasio.
Er enghraifft, rydych chi’n llogi asiantaeth ymchwil marchnad i gael cipolwg ar fwriad pleidleisio aelodau’r cyhoedd ledled Cymru ac yn dadansoddi’r data hwn ar eich rhan. Nod yr ymchwil marchnad yw ei ddefnyddio i dargedu eich ymgyrch at bleidleiswyr yn etholiad y Senedd.
Gan ddefnyddio’r data hwn, rydych chi wedyn yn llogi banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr yn yr wythnosau cyn etholiad, gyda’r bwriad o ddylanwadu arnyn nhw i bleidleisio dros bleidiau sy’n cefnogi polisi penodol.
Gan fod yr ymchwil marchnad a bancio dros y ffôn yn bodloni’r prawf diben ac yn ceisio barn aelodau o’r cyhoedd, mae’r costau hyn yn weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Costau casglu neu gynnal data
Mae enghreifftiau’n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- setiau data, gan gynnwys defnydd o ddadansoddeg data i hwyluso neu i gynnal ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, costau gan gynnwys gwrando ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r data i ddeall bwriad pleidleiswyr.
Costau eraill
Mae enghreifftiau’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw offer sydd ei angen i:
- paratoi, llunio neu hwyluso gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cynnal neu gydlynu gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi, neu ddefnyddio mewn ffordd arall, ganlyniadau unrhyw weithgarwch ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio a ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gwaith canfasio os bydd yr offer hwnnw a/neu gostau cysylltiedig yn cael eu talu neu eu had-dalu gan drydydd parti cofrestredig.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 1(5) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Cynadleddau’r wasg a digwyddiadau’r cyfryngau
Ystyrir bod cynhadledd i’r wasg neu ddigwyddiad cyfryngau yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os caiff ei drefnu gennych chi neu ar eich rhan, a’i fod yn bodloni’r prawf diben.
Os nad ydych chi’n gwahodd y cyfryngau’n benodol i ddigwyddiad agored rydych chi’n ei gynnal, ond bod y cyfryngau’n mynychu beth bynnag, ni fydd yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad cyfryngau fel arfer. Fodd bynnag, gellir ei ystyried yn rali neu ddigwyddiad cyhoeddus, lle mae’r deddfau’n berthnasol.
Os byddwch chi’n cynnal digwyddiad i aelodau yn unig rydych chi’n gwahodd y cyfryngau iddo, bydd hwn fel arfer yn ddigwyddiad cyfryngau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- offer
- safle neu gyfleusterau
- hawliau neu ffioedd trwyddedu ar gyfer delweddau
a ddefnyddir mewn cysylltiad â chynadleddau’r wasg neu ddigwyddiadau’r cyfryngau eraill.
Datganiadau i’r wasg
Bydd y cyfryngau yn aml yn gofyn i sefydliadau roi sylwadau ar faterion neu ddigwyddiadau penodol. Os ydych chi’n ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau, ni fydd unrhyw sylw neu ddatganiad a wneir gennych chi yn cael ei ystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Ni fydd datganiadau i’r wasg yn cael eu hystyried yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir yn gyffredinol os cânt eu hanfon at y cyfryngau yn unig.
Mae eithriad ar gyfer cynnwys sydd wedi’i gynnwys mewn papur newydd neu gyfnodolyn heblaw hysbysebion. Gweler Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd am ragor o wybodaeth.
Er enghraifft, mae sefydliad yn rhedeg ymgyrch sy’n canolbwyntio ar les anifeiliaid. Ar ddechrau’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd, maent yn cymharu polisïau presennol ac arfaethedig y prif bleidiau gwleidyddol ar les anifeiliaid yng Nghymru mewn datganiad i’r wasg. Yn eu datganiad, maen nhw’n mynegi cefnogaeth ar gyfer dau o bolisïau’r blaid ac yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros y pleidiau hyn yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae’r ymgyrchydd yn anfon y datganiad i’r wasg at y cyfryngau yn gyntaf, ac nid yw ar gael yn unman arall. Gan mai dim ond gyda’r cyfryngau y caiff y datganiad i’r wasg ei rannu, nid yw hwn yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Wythnos yn ddiweddarach, mae’r ymgyrchydd yn rhannu’r datganiad i’r wasg ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gan fod cynnwys y datganiad i’r wasg yn bodloni’r prawf diben, mae hwn yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.
Trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch
Ystyrir bod costau trafnidiaeth yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir os byddwch yn cludo pobl er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i ymgyrch sy’n bodloni’r prawf diben. Er enghraifft, efallai bod gennych fws ymgyrchu rydych chi’n ei ddefnyddio fel rhan o’ch ymgyrch.
Weithiau gall gwariant ar drafnidiaeth ddod o fewn categori arall o weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Er enghraifft, os ydych chi’n llogi fan ac yn gosod hysbysebion ar y fan, gallai hyn fod yn ddeunydd etholiadol, neu os ydych chi’n llogi minibws i fynd â’ch cefnogwyr i rali gyhoeddus, efallai y bydd angen cyfrif y costau trafnidiaeth fel rhan o gostau cynnal y rali gyhoeddus.
Nid yw gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys treuliau personol rhesymol a ysgwyddir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer anghenion personol yr unigolyn.
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau trafnidiaeth:
- gwirfoddolwyr
- aelodau, gan gynnwys aelodau o staff
- pobl eraill sy’n ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
i, o neu o amgylch ardal etholiadol pan fyddant yn ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid. Gall y costau trafnidiaeth hyn gynnwys:
- prynu neu ad-dalu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus
- llogi cerbydau
- prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
- costau parcio
Mae hefyd yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o drafnidiaeth sy’n arddangos deunydd sy’n hyrwyddo canlyniad yr etholiad, gan gynnwys:
- dylunio cynllun a’i osod ar y cerbyd neu’r math o drafnidiaeth
- teithio rhwng ardaloedd etholiadol
- teithio o amgylch ardal etholiadol
- ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Mae costau adroddadwy yn cynnwys yr holl gostau trafnidiaeth sy’n gysylltiedig ag unrhyw weithgarwch arall a restrir. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.
Ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Dim ond os ydynt ar agor i unrhyw un eu clywed, eu gweld neu fynd iddynt y bydd ralïau a digwyddiadau sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n cael eu cynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Pan fydd mynediad i’r rali neu’r digwyddiad cyhoeddus wedi’i gyfyngu gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid fel nad yw’r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, ni fydd hyn yn weithgarwch a reoleiddir.
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar
Mae enghreifftiau’n cynnwys costau:
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir mewn cysylltiad â ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill. Mae hyn yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â ralïau a digwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithwir, fel llogi lleoliad neu ffrydio digwyddiad rhithwir yn fyw i’r cyhoedd.
Costau eraill
Gall costau eraill gynnwys:
- cost hyrwyddo neu hysbysebu’r rali neu ddigwyddiad drwy unrhyw ddull
- darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, fel seddi neu fwyd
Costau sydd wedi’u heithrio
Ni fydd cost darparu diogelwch cyffredinol yn y digwyddiad neu ddiogelwch i unrhyw berson sy’n bresennol yn y digwyddiad yn adroddadwy.
Hefyd nid yw ralïau a digwyddiadau cyhoeddus yn cael eu rheoleiddio os ydynt yn:
- cynhadledd flynyddol eich sefydliad
- hustyngau annetholus, sef hustyngau na fyddai’n rhesymol yn cael eu hystyried fel rhai a fwriadwyd i hyrwyddo neu wrthwynebu pleidiau neu gategorïau penodol o ymgeiswyr
Er enghraifft, os yw eich sefydliad yn cynnal rali i aelodau yn unig mewn sgwâr tref, neu orymdaith drwy ganol tref brysur, mae’r digwyddiad ar agor i unrhyw aelod o’r cyhoedd ei weld neu ymuno ag ef (hyd yn oed os mai dim ond aelodau o’ch sefydliad sy’n cymryd rhan yn y rali). Bydd y rali yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os yw hefyd yn bodloni’r prawf diben.
Yn yr un modd, os byddwch chi’n cynnal rali neu ddigwyddiad dan do, bydd hyn hefyd yn cael ei reoleiddio os ydych chi wedi hyrwyddo’r rali neu’r digwyddiad i unrhyw aelodau o’r cyhoedd, er enghraifft, trwy ei hyrwyddo trwy hysbysebion yn y papur newydd a thaflenni, ac mae’n bodloni’r prawf diben.
Fodd bynnag, os byddwch chi’n cynnal digwyddiad caeedig i bobl sydd wedi cofrestru i wirfoddoli ar gyfer eich ymgyrch, lle na all aelodau’r cyhoedd gymryd rhan nac ymuno, ni fydd hyn yn cael ei reoleiddio.
Os ydych chi’n darparu diogelwch i bobl sy’n bresennol neu eiddo mewn digwyddiad, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Gwariant yn ystod a thu allan i’r cyfnod a reoleiddir
Efallai y bydd angen i chi rannu eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yr ydych yn eu gwneud yn ystod a thu allan i’r cyfnod a reoleiddir. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth y gwnaethoch chi ddechrau ei ddefnyddio cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac y gwnaethoch barhau i’w ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yn y senarios hyn, dim ond y gwariant rydych chi wedi’i ysgwyddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy’n adroddadwy ac yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Enghraifft A: Canfasio cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Rydych ch’n cynnal canfasio ddau fis cyn y cyfnod a reoleiddir ac am ddau fis yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Dim ond y costau sy’n gysylltiedig â’r canfasio a wnewch yn ystod y cyfnod a reoleiddir fydd yn cyfrif fel gwariant ymgyrchu a reoleiddir.
Gan eich bod wedi treulio’r un faint o amser yn canfasio, er mwyn darganfod y gost y mae angen i chi ei hadrodd dylech rannu cyfanswm y gwariant ar ganfasio dros y cyfnod hwn yn ei hanner. Rhaid i chi gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â chanfasio yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn eich ffurflen gwariant.
Enghraifft B: Costau gwefan cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau, rydych chi’n creu rhan o wefan eich sefydliad y gellir yn rhesymol ei hystyried fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau nad ydynt yn cefnogi datblygiad lleol arfaethedig. Rydych chi’n parhau i’w ddefnyddio a’i ddiweddaru yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Gan mai dim ond y gwariant a ysgwyddwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy’n rhaid ei adrodd, bydd angen i chi rannu’r costau dylunio, y costau cynnal gwefan a chostau perthnasol eraill rhwng y ddau gyfnod.
Os yw’r costau dylunio a chostau eraill yn £9,000, ac rydych chi’n ei ddefnyddio dros gyfnod o chwe mis, y gost y mis yw £9,000 ÷ 6 = £1,500 y mis.
Os yw’r cyfnod a reoleiddir yn cwmpasu’r 4 mis olaf, yna’r cyfanswm costau yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw 4 × £1,500 = £6,000.
Defnyddio eitemau
Pan fyddwch yn defnyddio eitem am y tro cyntaf, rhaid i chi gynnwys y gost yn eich gwariant.
Mae hyn yn cynnwys eitemau a brynwyd a thalwyd amdanynt cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau, ond a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Eitemau na chânt eu defnyddio
Nid oes rhaid i chi adrodd am wariant ar eitemau nas defnyddir (er enghraifft, os na chaiff taflenni eu dosbarthu), ac nid yw hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwario. Dylech gadw’r deunydd nas defnyddiwyd, neu dystiolaeth y cafodd ei ddileu.
Os byddwch yn defnyddio eitemau dros ben mewn etholiad diweddarach, rhaid i chi adrodd am y gwariant ar yr eitemau hynny yn yr etholiad diweddarach hwnnw.
Ail-ddefnyddio eitemau
Lle’r ydych wedi talu am eitem, rhaid i chi adrodd y gost lawn ar yr adeg y cafodd ei defnyddio gyntaf, hyd yn oed os ydych yn bwriadu ei hail-ddefnyddio mewn etholiad yn y dyfodol.
Os byddwch yn ei hail-ddefnyddio mewn etholiad dilynol, nid oes rhaid i chi adrodd y taliad cyntaf eto. Efallai y bydd rhai costau cysylltiedig y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanynt yn yr etholiad hwnnw, er enghraifft storio neu lanhau.
Gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio
Nid yw’r gweithgareddau canlynol yn cael eu rheoleiddio:
- costau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy’n ymddangos mewn papur newydd, mewn cyfnodolyn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig1
- costau sy’n gysylltiedig â chyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg2
- costau y gellir eu priodoli’n rhesymol i anabledd unigolyn3
- amser gwirfoddolwyr4
- treuliau personol rhesymol a ysgwyddir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer llety neu anghenion personol eraill yr unigolyn5
- treuliau rhesymol a ysgwyddwyd y gellir eu priodoli’n rhesymol i ddiogelu unigolion neu eiddo6
- unrhyw beth sy’n cyfrif fel gwariant ymgyrchu gan blaid wleidyddol gofrestredig neu dreuliau etholiadol ymgeisydd7
Cyfieithu deunydd i neu o’r Gymraeg
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir gennych os caiff deunydd rydych chi’n ei gyhoeddi ei gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac i’r gwrthwyneb yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Rhaid i chi wneud asesiad gonest o’r costau sylfaenol pe bai dim ond un iaith yn cael ei defnyddio a dylech ddefnyddio hyn i bennu’r costau ychwanegol.
Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu taflen ddwyieithog sy’n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r un testun ac felly mae ychydig dudalennau’n hirach nag y byddai pe bai’r daflen wedi’i chynhyrchu mewn un iaith yn unig.
Nid yw ffi’r cyfieithydd na chost dylunio, argraffu a phostio’r tudalennau ychwanegol yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Bydd unrhyw gostau cyfieithu ieithoedd eraill yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant.
Treuliau a ysgwyddwyd mewn perthynas ag anabledd unigolyn
Nid yw unrhyw gostau cymorth ychwanegol i bobl anabl sy’n gweithio ar unrhyw weithgarwch a reoleiddir, neu i bobl anabl gael mynediad at neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch a reoleiddir rydych chi’n eu trefnu, yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant chwaith.
Er enghraifft, cynhyrchu cyflenwad o daflenni ymgyrch Braille i’w dosbarthu i aelodau dall o’r cyhoedd neu logi offer wedi’i addasu fel y gall aelodau anabl o’r cyhoedd gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus.
Amser gwirfoddolwyr
Nid oes angen i chi gynnwys yr amser y mae gwirfoddolwyr yn ei dreulio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir fel treuliau a reoleiddir. Fodd bynnag, bydd gwario arian ar unrhyw adnoddau a ddarparwch i’ch gwirfoddolwyr i gynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir wedi’i gynnwys. Er enghraifft, os caiff minibws ei logi i gludo gwirfoddolwyr i gynnal canfasio, bydd cost y llogi yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Weithiau efallai na fyddwch chi’n siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylid trin eu hamser fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i’r rhai y mae’n eu cyflawni i chi.
Mae’n debygol y byddan nhw’n wirfoddolwr os, er enghraifft, nad yw’r amser maen nhw’n ei dreulio ar eich ymgyrch yn cael ei dalu gan eu cyflogwr (oni bai mai eu gwyliau blynyddol arferol ydyw). Os ydyn nhw’n defnyddio offer neu ddeunyddiau arbenigol, dylech chi ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol.
Treuliau personol
Ni fydd treuliau rhesymol a ysgwyddwyd gan unigolyn ar deithio, llety neu anghenion personol eraill mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn cael eu rheoleiddio.
Er enghraifft, os yw unigolyn yn teithio i ddinas arall am y penwythnos i ymuno â’ch ymgyrch leol ac yn talu’r costau hyn eu hunain, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Fodd bynnag, os byddwch yn ad-dalu unigolyn am eu treuliau personol, bydd y treuliau hyn yn wariant ymgyrchu a reoleiddir a rhaid eu hadrodd.
Treuliau diogelwch
Ni fydd treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu unigolion neu eiddo yn cael eu rheoleiddio.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 2(1)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 8A, para. 2(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 8A, para. 2(1)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 8A, para. 2(1)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 8A, para. 2(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 8A, para. 2(1)(f) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 87 PPERA ↩ Back to content at footnote 7
Cofrestru
Mae’r adran ganlynol yn mynd i’r afael â chofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid.
Mae hyn yn cynnwys:
- pan fydd angen i chi gofrestru gyda ni
- pa unigolion a sefydliadau all gofrestru
- pa fanylion sydd angen i chi eu darparu yn eich cais
- cyfrifoldebau’r person cyfrifol
- yr hyn sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gofrestru
- am ba hyd rydych chi’n aros ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Efallai yr hoffech ddarllen yr adran hon ochr yn ochr â’r tabl cynharach sy’n nodi’r gofynion ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ôl y symiau a wariwyd ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Gellir dod o hyd iddo o dan Trosolwg o’r gofynion ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol?
Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch gofrestru unrhyw bryd cyn neu yn ystod y cyfnod a reoleiddir mewn etholiad y Senedd.
Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru cyn i chi wario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Rydym yn galw’r terfyn hwn yn ‘drothwy cofrestru’. Mae gwario mwy na’r swm hwn heb fod ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn drosedd.1
Mae’r Comisiwn yn cynnal y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod y cyfnod cyn etholiadau. Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw’n blaid wedi’i gofrestru, byddwn yn cyhoeddi ei fanylion ar ein cofrestr gyhoeddus.2 Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn.
- 1. Adran 94(3)(a)(i) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.89(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Who can register?
You should check carefully whether you are eligible to register.
Only the following individuals or organisations can register with the Electoral Commission:
- an individual registered on a UK electoral register or resident in the UK
- a UK registered company which is incorporated in the UK and carries on business in the UK
- a UK registered trade union
- a UK registered building society
- a UK registered limited liability partnership which carries on business in the UK
- a UK registered friendly, industrial or provident society
- a UK based unincorporated association that carries on the majority of its business or other activities in the UK
- a body incorporated by Royal Charter
- a UK charitable incorporated organisation
- a Scottish partnership which carries on business in the UK1
If you do not fall into one of these categories, you cannot spend more than £700 in Wales on regulated campaign activities during the regulated period.2 If you do spend more than £700 when you are not eligible, you will be guilty of an offence.3
You should ensure you register as the type of entity that is carrying out the campaigning. For example, if you are an individual registered on a UK electoral register and you have a registered company, you should register as the entity that is doing the campaigning.
Who cannot register?
You cannot register as an individual non-party campaigner if you are already the responsible person for a registered non-party campaigner.4
Registered political parties are not eligible to register as a non-party campaigner and cannot spend more than £700 on regulated non-party campaigning activities. If you are a registered non-party campaigner, you will not be able to register as a political party until you are no longer registered as a non-party campaigner.5
- 1. Section 88(2) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. S.89B(1) & (2) (Wales) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. S.89B(4) & (5) (Wales) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. S.88(2)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. S.88 & s.28(7A) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Sut ydych chi’n cofrestru?
Gallwch gofrestru ar-lein gan ddefnyddio CPE Ar-lein. Fel arall, gallwch lenwi Ffurflen TP1 ac anfon copi o’r ffurflen wedi’i lofnodi atom drwy e-bost neu’r post.
Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn gwirio eich bod yn gymwys i gofrestru, bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i darparu ac yn cadarnhau yn ysgrifenedig pryd y byddwch wedi cofrestru. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth cyn y gallwn brosesu eich cofrestriad.
Dylech ganiatáu amser i’ch cais gael ei brosesu ac aros nes i ni gadarnhau eich bod wedi cofrestru cyn gwario dros £10,000. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych chi’n mynd y tu hwnt i’r trothwy cofrestru cyn i chi gael eich cofrestru, sy’n drosedd.1
Pa wybodaeth sy’n rhaid i chi ei darparu?
Os ydych chi’n cofrestru fel unigolyn, rhaid i chi ddarparu eich enw a’ch cyfeiriad cartref.2
Os ydych chi’n cofrestru fel corff sydd wedi’i ymgorffori gan Siarter Frenhinol, sefydliad elusennol ymgorfforedig yn y DU neu bartneriaeth Albanaidd sy’n cynnal busnes yn y DU, mae’n rhaid i chi ddarparu:
- enw’r sefydliad a chyfeiriad ei brif swyddfa3
- enw’r ‘person cyfrifol’4
- ‘manylion perthnasol’ y sefydliad5
- awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neu unigolyn sy’n gweithredu mewn swydd debyg)6
Ar gyfer sefydliadau eraill sy’n gymwys i gofrestru, mae’n rhaid i chi ddarparu:
- enw’r sefydliad a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa7
- enw’r ‘person cyfrifol’8
- manylion ‘cyfranogwyr perthnasol’ y sefydliad9
- awdurdodiad ysgrifennydd y sefydliad (neuunigolyn sy’n gweithredu mewn swydd debyg)10
Bydd gan berson sy’n gweithredu mewn swyddogaeth debyg i ysgrifennydd sefydliad gyfrifoldeb cyffredinol am faterion gweinyddol y sefydliad.
Gweler y tudalennau nesaf am wybodaeth am y person cyfrifol, eu cyfrifoldebau, a’r manylion a’r cyfranogwyr perthnasol.
Bydd y manylion hyn, ac eithrio cyfeiriad cartref unigolyn, yn cael eu cynnwys ar eich cofnod ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol, megis cyfeiriadau cartref, cyfeiriadau e-bost neu rifau ffôn a ddarperir yn eich cofrestriad.
Fel rhan o’ch cofrestriad, gofynnir i chi hefyd ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth eich bod yn bodloni’r gofynion i gael eich ychwanegu at y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau o dan eich categori dewisol. Er enghraifft, os ydych chi’n cofrestru fel cwmni, gofynnir i chi ddarparu rhif cofrestru eich cwmni a thystiolaeth eich bod chi’n cynnal busnes yn y DU.
- 1. Adran 94(3)(a)(i) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.88(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.88(3)(d)(i) a (3C) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.88(3)(d)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.88(3)(d)(i) a (3C) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.88(3)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. A.88(3)(c)(i) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. A.88(3)(c)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. A.88(3)(c)(ia) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. A.88(3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 10
Y person cyfrifol
Rhaid i chi benodi person cyfrifol pan fyddwch chi’n cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid. Y person hwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid yn dilyn y deddfau ar wariant, rhoddion ac adrodd a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
Os ydych chi’n cofrestru fel unigolyn, chi fydd y person cyfrifol yn awtomatig.1 Mae’n rhaid i bob categori arall o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau enwebu rhywun i fod yn berson cyfrifol wrth gofrestru.2
Os ydych wedi cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid unigol neu eich bod eisoes yn berson cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw’n blaid, ni allwch gael eich penodi fel person cyfrifol ar gyfer ymgyrchydd cofrestredig arall nad yw’n blaid.3
Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod systemau addas ar waith i sicrhau bod gwariant a rhoddion yn cael eu trin yn gywir. Rhaid iddynt hefyd wneud datganiad mewn perthynas â phob adroddiad i ddweud bod yr adroddiadau’n gyflawn ac yn gywir. Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll.4
- 1. Adran 85(7)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.88(3)(c)(ii), (3)(d)(ii) ac a.85(7)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.88(3A) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.86(8), a.99(4)(a) ac a.99A(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i rai sefydliadau roi enwau’r bobl sydd ar eu cyrff neu bwyllgorau llywodraethu pan fyddant yn cofrestru gyda’r Comisiwn. Yn ôl y gyfraith, gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad.
Mae’r cyfranogwyr perthnasol a’r manylion perthnasol ar gyfer pob math o sefydliad wedi’u nodi yn y tablau canlynol:
Cyfranogwyr perthnasol
| Sefydliad | Cyfranogwyr perthnasol1 |
|---|---|
| Cwmni cofrestredig | Cyfarwyddwyr y cwmni |
| Undeb llafur | Swyddogion yr undeb llafur |
| Cymdeithas adeiladu | Cyfarwyddwyr y gymdeithas |
| Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig | Aelodau'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig |
| Cymdeithasau cyfeillgar | Aelodau pwyllgor rheoli'r gymdeithas |
| Cymdeithasau diwydiannol a darbodus | Aelodau pwyllgor rheoli neu gorff cyfarwyddo arall y gymdeithas |
| Cymdeithasau anghorfforedig | Lle mae gan y gymdeithas anghorfforedig fwy na 15 aelod ynghyd â swyddogion neu gorff llywodraethu, y swyddogion hynny neu aelodau’r corff llywodraethu. Fel arall, aelodau’r corff. |
Manylion perthnasol
| Sefydliad | Manylion perthnasol2 |
|---|---|
| Cyrff sydd wedi’u corffori gan Siarter Frenhinol | Swyddogion y corff neu aelodau ei gorff llywodraethu |
| Partneriaethau yn yr Alban | Y partneriaid |
| Sefydliad elusennol anghorfforedig yn y DU | Ymddiriedolwyr yr elusen |
- 1. Adran 88(3B) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.88(3C) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gofrestru?
Fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi gydymffurfio gyda deddfau gwariant a rhoddion a gofynion adrodd.
Fel trosolwg, mae’n rhaid i bob ymgyrchydd nad yw’n blaid wneud y canlynol:
- gael system yn ei lle i awdurdodi gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
- gadw anfonebau a derbynebau ar gyfer taliadau dros £200 a wnaed fel rhan o’ch gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
- gwirio eich bod yn gallu derbyn unrhyw roddion dros £500 a’u cofnodi
- ar ôl yr etholiad, rhoi gwybod i ni am roddion penodol rydych yn eu derbyn i’w gwario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
- ar ôl yr etholiad, rhoi gwybod i ni am eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
Ar ôl i chi gofrestru mae hawl gennych gael copi am ddim o’r gofrestr etholiadol llawn.1 Gallwch ei ddefnyddio at ddibenion etholiadol, megis ymgyrchu a gwirio a yw rhoddion gan unigolion wedi’u caniatáu ai peidio.
Ni ddylech ei drosglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw’n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion nad ydynt yn etholiadol.2
Gwneud newidiadau
Os ydych chi am newid eich manylion gallwch ddiwygio’ch cofrestriad ar unrhyw adeg gan ddefnyddio Ffurflen TP2.3
- 1. Rheoliad 102(1) a 106(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 106(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 88(8) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
Am ba hyd ydych chi’n parhau i fod wedi’ch cofrestru?
Byddwch yn aros ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am 15 mis o’r dyddiad y gwnaethoch gais i gofrestru.1 Os yw eich cofrestriad fod dod i ben yn ystod cyfnod a reoleiddir, bydd yn cael ei estyn yn awtomatig hyd nes ddiwedd y cyfnod a reoleiddir hwnnw.2
Os ydych chi am adnewyddu eich cofrestriad, mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen TP3 atom o leiaf fis cyn pen-blwydd 12 mis eich cofrestriad gwreiddiol a dim hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad hwnnw.3 Gallwch hefyd adnewyddu gan ddefnyddio CPE Ar-lein.
Os yw eich manylion cofrestru wedi newid, mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r rhain wrth gyflwyno’ch adnewyddiad.4
Er y byddwn yn anelu at anfon nodyn atgoffa atoch cyn i’ch cofrestriad ddod i ben, eich cyfrifoldeb chi yw adnewyddu’ch cofrestriad o fewn y dyddiad cau os ydych chi am barhau i fod wedi’ch cofrestru.
Bydd eich cofrestriad yn dod i ben os nad ydych yn cyflwyno eich adnewyddiad i ni yn ystod yr adeg hon.5 Os bydd eich cofrestriad yn dod i ben ac yr hoffech gael eich ychwanegu at y gofrestr eto, bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.
- 1. Adran 88(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.88(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.88(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.88(6) a (6A) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.88(4)(b) a (7) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Faint gallwch ei wario?
Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod a reoleiddir, gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wario hyd at £30,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.1
Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch chi wario hyd at £10,000 yng Nghymru yn y cyfnod a reoleiddir cyn cofrestru.2
Os nad ydych chi’n gymwys i gofrestru, dim ond hyd at £700 yng Nghymru y gallwch chi ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir.3
- 1. Atodlen 10, paragraff 6 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.89B(1) (Cymru) ac a.94(3)(a)(i) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.89B(1) a (2) (Cymru) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Awdurdodi a thalu gwariant ymgyrchu
O dan y gyfraith dim ond unigolion penodol all awdurdodi a gwneud taliadau ar ran ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw’n blaid wedi’i gofrestru, dim ond y bobl ganlynol sy’n cael gwneud taliadau am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir:
- y person cyfrifol sydd wedi cofrestru gyda ni
- unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan y person cyfrifol1
Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi gan y person cyfrifol i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.
Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Rydych chi’n ysgwyddo gwariant pan fyddwch chi’n ymrwymo i drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol i dalu am yr eitem, nwyddau neu wasanaeth y maent wedi’i ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych chi’n llogi cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych chi’n llofnodi contract i rentu swyddfa.
Mae’n rhaid cael anfoneb neu dderbynneb ar gyfer pob taliad dros £200.2
Pan fydd person awdurdodedig yn gwneud taliad o dros £200, rhaid iddo gyflwyno’r canlynol:
- yr anfoneb neu’r dderbynneb atodol
- hysbysiad eu bod wedi talu
i’r person cyfrifol cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud y taliad.3
Mae’r deddfau hyn yn sicrhau y gellir rheoli’r gwariant a’i gofnodi a rhoi gwybod amdano’n gywir. Dylech sicrhau bod eich staff, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo costau.
Mae yna hefyd derfynau amser o ran erbyn pryd y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn pob anfoneb ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir.
- 1. Adran 90(1) ac adran 91(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.91(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.91(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Gwariant tybiannol
Mae'r adran hon yn trafod gwariant tybiannol, lle byddwch yn defnyddio unrhyw eitemau, nwyddau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim, neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Mae'n rhoi manylion am y senarios lle caiff y gwariant hwn ei reoleiddio a chanllawiau ar brisio'r gwariant hwn ac adrodd arno yn eich ffurflen.
Beth yw gwariant tybiannol?
Weithiau gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau yn eu hymgyrch nad oedd yn rhaid iddynt wario arian arnynt, oherwydd bod yr eitem neu’r gwasanaethau wedi’u darparu fel budd mewn nwyddau, am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol.
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Gallwch ysgwyddo gwariant tybiannol pan fyddwch yn defnyddio eitemau, nwyddau neu wasanaethau a roddir i chi am ddim, neu ar ddisgownt anfasnachol o fwy na 10%. Os defnyddir unrhyw un o’r rhain ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, gall gwerth yr hyn a ddefnyddiwch gyfrif tuag at eich terfyn gwariant a gall fod yn adroddadwy yn eich ffurflen gwariant.
Mae gwariant tybiannol dim ond yn berthnasol i ostyngiadau anfasnachol sy’n ostyngiadau arbennig a roddir i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid. Mae’r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, fel gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni fydd eitemau, nwyddau a gwasanaethau a brynir gyda gostyngiadau masnachol yn cael eu trin fel gwariant tybiannol.
Pa wariant sy’n cael ei drin fel gwariant tybiannol?
Mae pum prawf y mae’n rhaid eu bodloni i gyd er mwyn i eitem (nwyddau, cyfleuster neu wasanaeth) gyfrif fel gwariant tybiannol:
- mae’n cael ei drosglwyddo i chi, neu ei ddarparu ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
- mae’r eitem yn cael ei throsglwyddo neu ei darparu yn rhad ac am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%1
- os yw’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol a’r hyn a delir gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid dros £2002
- os yw’n cael ei ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
- byddai wedi bod yn weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir pe byddech wedi ysgwyddo’r gwariant3
Dim ond os caiff y defnydd hwnnw ei gyfeirio, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid neu’r person cyfrifol y defnyddir yr eitemau neu’r gwasanaethau ar ran yr ymgyrchydd nad yw’n blaid.4
Rhaid i chi gofnodi:
- gwerth y gwariant tybiannol
- cyfanswm a dalwyd.
Ni chaiff eitemau neu wasanaethau eu trin fel gwariant tybiannol:
- cafwyd am ostyngiad o 10% neu lai
- os yw gwerth y gostyngiad yn £200 neu lai.
Rhoddion
Rhaid i’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau gael eu darparu neu eu trosglwyddo i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid er mwyn eu trin fel gwariant tybiannol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid.
Rhaid ymdrin â’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gwerth marchnadol neu’r gyfradd fasnachol, a’r pris a dalwyd, os o gwbl, yn unol â’r deddfau ar roddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac efallai y bydd angen adrodd arnynt i’r Comisiwn.
Bydd gwariant tybiannol sydd â gwerth dros £500 hefyd yn rhodd i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid. Gweler Sut ydych yn prisio rhodd? am ragor o wybodaeth am roddion anariannol.
Staff ar secondiad
Os bydd cyflogwr yn secondio aelod o staff ar gyfer eich ymgyrch, rhaid i chi gofnodi ei gyflog gros ac unrhyw lwfansau ychwanegol fel gwariant tybiannol.
Nid oes angen i chi gynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol na phensiwn y cyflogwr.5
- 1. Adran 86(1)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.86(6) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.86(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.86(1A) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.86(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Prisio ac adrodd ar wariant tybiannol
Sut ydych chi’n prisio gwariant tybiannol?
I gyfrifo gwerth gwariant tybiannol, ac i asesu a yw rhywbeth yn wariant tybiannol, rhaid i chi yn gyntaf gyfrifo’r gyfradd fasnachol neu werth marchnad yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gawsoch. Mae’r gyfradd fasnachol neu werth y farchnad yn golygu’r pris y byddai disgwyl rhesymol iddo gael ei dalu am yr eitem, nwyddau neu wasanaeth, pe bai ar werth yn y farchnad agored.1
Yr egwyddor arweiniol yw, ym mhob achos, y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth yr eitemau, y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych wedi’u derbyn. Dylech gadw cofnod o’r modd y daethoch i’ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a gewch.
Os yw’r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio’r cyfraddau y mae’n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Fel arall, os yw’r union opsiynau neu opsiynau tebyg o’r eitem neu’r gwasanaethau ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio’r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill i’ch tywys wrth wneud prisiad.
Os nad oes union opsiynau nac opsiynau tebyg o’r nwyddau neu’r gwasanaeth ar gael ar y farchnad, dylech seilio’ch asesiad ar gyfraddau’r farchnad am gyfwerth rhesymol.
Beth sydd angen ei gofnodi fel gwariant tybiannol?
Gwerth y gwariant tybiannol fydd y gwahaniaeth rhwng y gyfradd fasnachol neu werth marchnad yr hyn rydych chi wedi’i dderbyn a’r swm (os o gwbl) rydych chi’n ei dalu amdano.
Er enghraifft, lle rhoddir eitem i chi yn rhad ac am ddim, gwerth y gwariant tybiannol yw gwerth marchnad yr eitem. Os darperir gwasanaethau i chi am ostyngiad anfasnachol (o fwy na 10%), y gwariant tybiannol fydd y gwahaniaeth rhwng cyfradd fasnachol y gwasanaeth a’r pris a dalwyd gennych.
Mae’n arfer da cynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych o werth gwariant tybiannol pan fyddwch yn cyflwyno’ch ffurflen dreth.
- 1. Adran 160 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Eitemau a gafwyd yn rhad ac am ddim
Darperir swyddfa i chi er mwyn cynnal eich ymgyrch yn rhad ac am ddim, a byddwch yn ei defnyddio am dri allan o bedwar mis o’r cyfnod a reoleiddir.
Rhaid i chi roi gwybod am swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd a wneir o’r swyddfa:
- Cost rhent arferol y mis ar gyfer y swyddfa: £1,200
- Swm a godwyd arnoch: £0
- Gwariant tybiannol i’w adrodd: £3,600 (3 × £1,200)
Eitemau a gafwyd am ostyngiad
Os ydych chi wedi derbyn eitem, nwyddau neu wasanaeth am ostyngiad anfasnachol, rhaid adrodd gwerth y gostyngiad fel gwariant tybiannol a’r swm rydych chi’n ei dalu fel taliad a wnaed gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid. Cyfanswm y ddau werth fydd cyfanswm gwerth yr eitem.
Er enghraifft, darperir gwasanaethau ymgynghori ymgyrchoedd i chi am bris gostyngol anfasnachol. Mae’r darparwr yn cynnig gostyngiad o 15% i chi oddi ar y gyfradd maen nhw’n ei chodi ar gleientiaid eraill, ac rydych chi’n defnyddio eu gwasanaethau yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Rhaid i chi roi gwybod am swm priodol o wariant tybiannol yn seiliedig ar y defnydd o’r gwasanaethau ymgynghori:
- Cyfradd fasnachol ar gyfer y gwasanaethau ymgynghori: £8,000
- Swm a godwyd arnoch ac i’w adrodd fel taliad a wnaed gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid: £6,800 (£8,000 - £1,200)
- Gwariant tybiannol i’w adrodd: £1,200 (£8,000 × 0.15)
Ymgyrchu ar y cyd
Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau benderfynu cydweithio ar ymgyrch. Pan fydd ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cydweithio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gall y rheolau ar ymgyrchu ar y cyd fod yn berthnasol.
Mae’r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd yn berthnasol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n gofrestredig ac sydd heb eu cofrestru.1
Mae yna ddeddfau arbennig sy’n berthnasol pan fyddwch chi am weithio gydag ymgyrchydd arall nad yw’n blaid fel rhan o ymgyrch ar y cyd. Pan fyddwch chi’n gwario arian fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gall y gwariant hwnnw gyfrif tuag at y terfynau ar gyfer pob ymgyrchydd sy’n rhan ohono. Mae hyn i stopio pobl rhag mynd o gwmpas y terfynau gwariant trwy gydlynu nifer o ymgyrchoedd ar yr un pryd.
Efallai y byddwch yn dewis gweithio gydag un neu fwy o ymgyrchwyr ar ymgyrch ar y cyd, efallai er mwyn gwneud yr ymgyrch gyffredinol yn fwy effeithiol.
Mae’r gyfraith yn nodi terfynau gwariant a threfniadau adrodd sy’n berthnasol os ydych chi neu ymgyrchydd rydych chi’n gweithio gydag ef yn gwario arian ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o gynllun neu drefniant cydlynol. Rydym yn galw’r rhain y ‘rheolau ymgyrchu ar y cyd’.
Mae’r adran hon yn nodi egwyddorion ymgyrchu ar y cyd, sut y gellir strwythuro’r ymgyrchoedd hyn a sut y dylid cyfrif am wariant ar ymgyrchoedd ar y cyd a’i adrodd.
- 1. Adran 94(7) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Beth yw ymgyrchu ar y cyd?
Mae ymgyrchydd nad yw’n blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd pan fo’r egwyddorion allweddol canlynol yn berthnasol:
- yn ymrwymo i gynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau
- mae’r holl ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn bwriadu gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn unol â’r cynllun neu’r trefniant hwnnw
- mae un neu fwy o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dan sylw yn ysgwyddo gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant, a
- yn rhesymol ystyried bod y cynllun neu’r trefniant hwnnw yn un sydd â’r bwriad o gyflawni diben cyffredin.1
Rydym yn cydnabod y gall ymgyrchwyr ddod ynghyd i ymgyrchu mewn nifer o ffyrdd, yn ffurfiol ac anffurfiol, a bod y modd y mae ymgyrchwyr yn rhyngweithio gydag ymgyrchwyr eraill yn gallu newid yn ystod ymgyrch.
Os ydych chi’n ystyried cychwyn ymgyrch ar y cyd ac eisiau cyngor, neu os ydych chi’n ansicr a ydych chi ac ymgyrchydd arall yn gweithio gyda’ch gilydd fel rhan o ymgyrch ar y cyd, gallwch anfon e-bost atom neu ein ffonio am gyngor.
Rhaid cael mwy nag un ymgyrchydd nad yw’n blaid
Er mwyn i’r rheolaethau ymgyrchu ar y cyd fod yn berthnasol, rhaid bod mwy nag un ymgyrchydd nad yw’n blaid yn gysylltiedig.
Nid yw bod yn rhan o grŵp neu sefydliad ymbarél lle mae’r sefydliadau’n gwneud penderfyniadau am eu gweithgarwch ymgyrchu’n annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd gan nad oes cynllun na threfniant rhwng ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Ni fydd sefydlu sefydliad neu grŵp newydd o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i wario arian ar ymgyrchu yn ymgyrchu ar y cyd oni bai bod yr egwyddorion allweddol a amlinellir uchod yn berthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Sefydlu sefydliad newydd.
Rhaid bod bwriad cytunedig i wario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r trefniant
Os nad oes bwriad i wario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes ymgyrchu ar y cyd. Er enghraifft, os ydych yn cytuno y bydd pob gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr, fydd dim gwariant a fydd dim ymgyrchu ar y cyd.
Rhaid bod cyd-ddealltwriaeth o ran cwmpas a diben yr ymgyrch
Nid yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n digwydd ymgyrchu am faterion tebyg neu gysylltiedig yn ymgyrchwyr ar y cyd.
Mae’n rhaid i un neu fwy o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ysgwyddo gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant, sy’n cael ei drin fel gwariant ar ran yr holl ymgyrchwyr
Bydd yr holl wariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a wneir fel rhan o’r cynllun neu’r trefniant yn dod o fewn y rheolau ymgyrchu ar y cyd. Hyd yn oed os bydd un o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n ymwneud â’r cynllun neu’r trefniant yn peidio ysgwyddo’i siâr o’r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a ysgwyddir yn dal i fod yn ymgyrchu ar y cyd a gall fod yn adroddadwy gan bob ymgyrchydd nad yw’n blaid.
Dim ond gwariant y cytunwyd arno fel rhan o’r ymgyrch ar y cyd sy’n cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau sy’n rhan o’r cynllun ar y cyd. Ni fydd unrhyw wariant sy’n mynd y tu hwnt i’r cynllun neu’r trefniant y cytunwyd arno, neu sy’n cael ei wneud y tu allan iddo, yn cael ei gyfrif fel ymgyrchu ar y cyd.
- 1. Adran 94(6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
Enghreifftiau o ymgyrchoedd ar y cyd
Gweithgarwch sy’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n cymryd rhan yn y rhestr ganlynol o weithgarwch yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- cynnal ymgyrch hysbysebu ar y cyd, sy’n cynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd
- rhedeg ymgyrch gydlynol. Er enghraifft, pan gytunir pa feysydd sydd i’w cwmpasu, pa faterion sydd i’w codi neu ba bleidleiswyr sydd i’w targedu
- gweithio ar y cyd lle gall un parti wrthod neu gymeradwyo deunydd yr ymgyrchydd arall
Er enghraifft, mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw am system bleidleisio Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn etholiadau’r Senedd. Mae ymgyrch y sefydliad cyntaf yn canolbwyntio ar addysgu pleidleiswyr ar y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ac mae’r ail ymgyrch yn anelu at annog y cyhoedd i gefnogi dim ond ymgeiswyr a phleidiau sydd o blaid cynnal a mabwysiadu diwygiadau cynrychiolaeth gyfrannol pellach yn etholiadau’r Senedd.
Yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’r ddau ymgyrchydd yn penderfynu lansio ymgyrch gyda’i gilydd gyda’r bwriad o hyrwyddo pleidiau sydd o blaid Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. At ddibenion yr enghraifft hon, mae’r ymgyrch gynlluniedig hon yn cynnwys gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Maen nhw’n codi £1,000 yr un gyda’r bwriad o wario’r arian hwn gyda’i gilydd ar yr ymgyrch.
Maen nhw’n cynllunio’r ymgyrch drwy gytuno ar bum nod allweddol ac amserlen ar gyfer yr ymgyrch, sy’n cynnwys ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar eu dau blatfform a digwyddiadau wyneb yn wyneb maen nhw’n eu cynnal gyda’i gilydd. Mae’r timau y tu ôl i’r ymgyrchoedd ill dau yn cytuno ar gynnwys y deunydd cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Gweithgarwch nad yw’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n cymryd rhan yn y rhestr ganlynol o weithgarwch yn annhebygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i’ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb ddim ymrwymiad ariannol na chyfranogiad pellach.
- ychwanegu’ch llofnod at lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau heb ddim ymrwymiad ariannol
- siarad yn rhydd mewn digwyddiad a drefnwyd gan ymgyrchydd arall nad yw’n blaid heb ddim ymrwymiad ariannol
- cynnal trafodaethau am feysydd o ddiddordeb cyffredin heb gydgysylltu gweithgarwch ymgyrchu
- benthyca eitemau i neu roi rhoddion i ymgyrchydd arall nad yw’n blaid (Gweler yr adrannau ar wariant tybiannol a rhoddion).
Enghraifft A
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw am system bleidleisio pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau’r Senedd. Nod y ddau sefydliad yw annog pleidiau gwleidyddol i hyrwyddo system bleidlais drosglwyddadwy sengl.
Mae’r sefydliad cyntaf yn sefydlu deiseb lle maen nhw’n gofyn i bobl ychwanegu eu henw i alw ar y Senedd i ymrwymo i system bleidlais sengl drosglwyddadwy. Maen nhw’n gofyn i’r ail sefydliad lofnodi’r ddeiseb a’i rhannu gyda’u cefnogwyr. Ar ôl i’r ddeiseb gau, maen nhw hefyd yn gofyn i’r ail sefydliad ychwanegu eu henw at lythyr agored maen nhw’n ei roi mewn papurau newydd sy’n galw ar bleidleiswyr i gefnogi pleidiau o blaid Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy yn etholiad y Senedd sydd i ddod.
Yn y senario hwn, er bod y llythyr agored yn weithgarwch a reoleiddir, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant gyda’i gilydd ac nid oes unrhyw fwriad i’r ddau ymgyrchydd wario arian. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Enghraifft B
Mae dau sefydliad yn cynnal ymgyrchoedd tebyg yn galw ar y llywodraeth i fabwysiadu polisïau penodol ar newid hinsawdd. Mae’r sefydliad cyntaf yn galw ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi ymrwymo i’r materion y maent wedi’u nodi, ac mae’r sefydliad yn gofyn i’r ail sefydliad rannu eu deunydd a hyrwyddo eu hymgyrch ar X/Twitter a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae’r ail sefydliad yn cytuno i roi cyhoeddusrwydd i waith y sefydliad cyntaf ond nid yw’n cynnal unrhyw wariant cydlynol nac unrhyw ymgyrchu a reoleiddir eu hunain.
Yn y senario hwn, mae’r sefydliad cyntaf yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Rhaid i’r ail sefydliad asesu a ydynt wedi gwario unrhyw arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Er bod yr ail sefydliad wedi rhannu deunydd etholiad y sefydliad cyntaf â’u dilynwyr, nid yw’r sefydliadau wedi ymrwymo i gynllun na threfniant i ysgwyddo gwariant ar ymgyrchu a reoleiddir gyda’i gilydd. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Enghraifft C
Mae sefydliad yn cynnal ymgyrch yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau sydd wedi addo cyflwyno deddfau i amddiffyn tenantiaid. Maent yn nodi ymgyrchwyr ac elusen sydd â nodau cyffredin ac yn hyrwyddo’r sefydliadau hyn i’w cefnogwyr ac yn gyhoeddus ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw hefyd yn rhoi rhodd i un o’r ymgyrchwyr eraill sy’n cefnogi tenantiaid.
Yn y senario hwn, mae’r sefydliad yn cynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad. Hyd yn oed os yw’r sefydliadau eraill y maent wedi’u hyrwyddo hefyd yn gwario arian ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, nid oes unrhyw ymrwymiad ariannol na gwariant cydlynol rhwng unrhyw un o’r ymgyrchwyr.
Yn ogystal, nid yw rhodd yn golygu bod ymgyrchwyr yn gweithio (neu’n gwario arian) gyda’i gilydd. Mae’n ofynnol i bob sefydliad asesu’n unigol a ydynt yn gwario arian ar unrhyw weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Felly, nid ymgyrchu ar y cyd yw hwn.
Sefydlu sefydliad newydd
Os ydych chi’n gweithio gyda nifer o ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau, efallai y byddwch chi’n penderfynu sefydlu corff neu sefydliad newydd i gynnal ymgyrch. Gallai’r corff newydd fod, er enghraifft, yn gwmni, yn elusen neu’n gymdeithas anghorfforedig.
Cyn belled â bod y corff newydd ar wahân ac yn wahanol i’r sefydliadau a’i creodd, yna caiff y corff ei drin fel sefydliad gwahanol i’r ymgyrchwyr a greodd y corff newydd. Fel sefydliad, rhaid i’r corff newydd allu gwneud penderfyniadau’n annibynnol. Bydd hyn yn wir hyd yn oed os yw aelodau o sefydliadau a greodd y corff newydd yn rhan o’i strwythur rheoli.
Ni fydd gweithgarwch ymgyrchu a wneir gan y corff newydd yn rhan o gynllun ar y cyd oni bai bod y sefydliad newydd yn cydweithio ag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau. Nid yw rhoi rhodd i’r corff newydd yn ymgyrchu ar y cyd.
Os yw’r sefydliad newydd yn gwario neu’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid iddo gofrestru gyda ni a dilyn y deddfau ynghylch rhoddion, gwariant ac adrodd. Gweler Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol? am ragor o wybodaeth.
Gwariant ac adrodd
Sut y gellir strwythuro ymgyrchoedd ar y cyd
Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi strwythuro eich ymgyrch ar y cyd:
- gallwch fod yn gweithio gydag ymgyrchwyr eraill fel ‘ymgyrchydd ar y cyd cyffredin’
- gallwch fod yn rhan o ymgyrch ar y cyd fel ‘prif ymgyrchydd’ neu ‘ymgyrchydd llai’. Rydym yn galw ymgyrch sydd â phrif ymgyrchydd yn ‘brif ymgyrch’
- gallai eich ymgyrch ar y cyd fod yn gyfuniad o’r ddau
Gall y ffordd rydych chi’n strwythuro’ch ymgyrch ar y cyd effeithio ar ba wariant sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant, a’r hyn y mae’n rhaid i chi ei adrodd.
Ymgyrchoedd ar y cyd cyffredin
Os yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd heb brif ymgyrchydd, rydym yn galw hynny’n ‘ymgyrch ar y cyd gyffredin’.
Os ydych chi’n ymgyrchydd nad yw’n blaid mewn ymgyrch ar y cyd gyffredin, mae’n rhaid i chi gofnodi’r gwariant a reoleiddir cyfunol ar yr ymgyrch ar y cyd gan y bydd yn cyfrif tuag at y terfynau gwariant ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw’n blaid dan sylw, gan gynnwys chi’ch hun.
Os ydych chi eisiau gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ledled y DU, gan gynnwys ymgyrchu ar y cyd, rhaid i chi gofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.
Os na fyddwch yn cofrestru, ni allwch wario mwy na £10,000 yn ystod cyfnod a reoleiddir ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gan gynnwys gwariant ymgyrchu ar y cyd gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd.
Os ydych chi’n ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd, mae’n rhaid i chi adrodd eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes rhaid i chi roi gwybod am y gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd, ond mae’r gwariant hwnnw’n cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir. Dylech chi roi gwybod am gyfanswm yr hyn a wariodd eich partneriaid ar yr ymgyrch ar y cyd.
Er enghraifft, rydych chi ac ymgyrchydd arall nad yw’n blaid yn cytuno i wario £8,000 yr un ar ymgyrch ar y cyd gyffredin yng Nghymru. Felly, cyfanswm y gwariant ar gyfer yr ymgyrch ar y cyd yw £16,000.
Rhaid i’r ddau ohonoch gyfrif £16,000 tuag at gyfanswm eich gwariant a reoleiddir.
Gan fod y cyfanswm hwn dros £10,000, rhaid i chi a’r ymgyrchydd arall gofrestru gyda’r Comisiwn cyn gwario mwy na’r swm hwn.
Rhaid i bob ymgyrchydd roi gwybod am ei wariant ei hun yn ei ffurflen gwariant. Dylent hefyd adrodd cyfanswm gwariant eu partner ymgyrchu ar y cyd.
Ymgyrchwyr arweiniol a mân
Pan fydd ymgyrch ar y cyd, gall un o’r ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau gytuno i adrodd ar yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd gan bob un o’r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd.
Bydd ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid sy’n cytuno i adrodd am yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei alw’n brif ymgyrchydd.1 Bydd ymgyrchydd nad yw’n blaid y mae ymgyrchydd arweiniol yn adrodd ar ei wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei alw’n ymgyrchydd llai.2
Er enghraifft, mae tri ymgyrchydd yn gweithio gyda’i gilydd fel rhan o ymgyrch ar y cyd. Mae’r ymgyrchwyr yn bwriadu gwario £5,000 yr un ar yr ymgyrch ar y cyd, £15,000 i gyd.
Pe bai hon yn ymgyrch ar y cyd gyffredin, byddai’r gwariant ymgyrch ar y cyd cyfunol yn cyfrif tuag at derfynau gwariant pob un o’r ymgyrchwyr. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r tri ymgyrchydd gofrestru gyda’r Comisiwn, gan na all ymgyrchydd wario mwy na £10,000 heb fod wedi cofrestru.
Yn lle hynny, gall un ymgyrchydd gofrestru, rhoi gwybod i ni mai nhw yw’r prif ymgyrchydd, ac adrodd ar yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Dim ond tuag at derfyn gwariant y prif ymgyrchydd y bydd y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn cyfrif a gall yr ymgyrchwyr eraill (yr ymgyrchwyr llai) parhau i fod heb eu cofrestru.
Gwariant gan brif ymgyrchwyr ac ymgyrchwyr llai
Prif ymgyrchwyr
Os ydych yn brif ymgyrchydd, bydd eich gwariant ac unrhyw wariant a ysgwyddir gan eich ymgyrchwyr llai fel rhan o ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwario yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yr enw a roddwn ar ymgyrchwyr llai sydd wedi cytuno i chi adrodd ar eu rhan yw ‘eich ymgyrchwyr llai’.
Rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi’u cofrestru, tra bod rhaid i ymgyrchwyr llai fod heb eu cofrestru.
Ymgyrchwyr llai
Os ydych chi’n ymgyrchydd llai, yna nid yw dim o’r gwariant ar y brif ymgyrch/yr ymgyrch llai ar y cyd yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant. Mae hyn yn berthnasol i:
- eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd
- gwariant y prif ymgyrchydd ar yr ymgyrch ar y cyd
- gwariant unrhyw ymgyrchydd llai ar yr ymgyrch ar y cyd
Felly, ar gyfer cyfanswm eich gwariant eich hun, bydd dim ond angen i chi gyfrif:
- eich gwariant eich hun y tu allan i unrhyw ymgyrch ar y cyd
- unrhyw wariant gan eich partneriaid mewn ymgyrch ar y cyd cyffredin
Mae hyn yn caniatáu i ymgyrchwyr llai parhau i fod heb eu cofrestru, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle mae cyfanswm y gwariant ymgyrchu ar y cyd dros £10,000.
Adrodd gan brif ymgyrchwyr ac ymgyrchwyr llai
Prif ymgyrchwyr
Os ydych yn brif ymgyrchydd, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:
- eich gwariant eich hun ar yr ymgyrch ar y cyd
- unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd gan eich ymgyrchwyr llai
- unrhyw wariant arall a reoleiddir a ysgwyddwyd gennych ar wahân i’r ymgyrch ar y cyd.
Rhaid i’ch ffurflen wariant hefyd gynnwys derbynebau neu anfonebau ar gyfer unrhyw wariant dros £200 a ysgwyddwyd gennych chi a’ch ymgyrchwyr llai.3
Mae hyn yn golygu y dylech ofyn i’ch holl ymgyrchwyr llai:
- i roi gwybod i chi faint maen nhw wedi’i wario ar yr ymgyrch ar y cyd ym mhob rhan o’r DU
- i roi derbynebau ac anfonebau i chi am unrhyw wariant dros £200 ar yr ymgyrch ar y cyd
Ymgyrchwyr llai
Os ydych chi’n ymgyrchydd llai, ac yn gwario hyd at £10,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad yw’n gysylltiedig â’r ymgyrch ar y cyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, nid oes rhaid i chi gofrestru gyda ni na rhoi gwybod am eich gwariant.
Mae’r brif ymgyrchydd yn gyfrifol am roi gwybod i ni am eich gwariant ar ymgyrchu ar y cyd. Er mwyn galluogi’r prif ymgyrchydd i adrodd yn llawn ar yr ymgyrchu ar y cyd, dylech:
cytuno â phob ymgyrchydd arall nad yw’n blaid sy’n rhan o’r ymgyrch ar y cyd faint y gallwch ei wario
- dywedwch wrth eich prif ymgyrchydd faint rydych chi wedi’i wario
- darparu derbynebau ac anfonebau ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir dros £200 i’ch prif ymgyrchydd
Er enghraifft, mae Save the Rivers a thri ymgyrchydd arall yn penderfynu cydweithio fel rhan o ymgyrch ar y cyd yng Nghymru. Maen nhw i gyd wedi cytuno y byddan nhw’n gwario £9,000 yr un ar yr ymgyrch ar y cyd. Mae Save the Rivers hefyd yn bwriadu gwario £5,000 ychwanegol ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir nad ydynt yn gysylltiedig â’r ymgyrch ar y cyd. Nid yw’r tri ymgyrchydd arall yn gwario unrhyw arian arall ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Y trothwy cofrestru ar gyfer gwariant yng Nghymru yw £10,000. Gan y bydd cyfanswm y gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn £36,000, os cynhelir yr ymgyrch hon fel ymgyrch ar y cyd gyffredin (sef ymgyrch heb brif ymgyrchydd) yna bydd yn rhaid i’r pedwar ymgyrchydd gofrestru ac adrodd ar y gwariant yn unigol.
Gan fod Save the Rivers yn bwriadu gwario’r swm mwyaf o arian ar ymgyrchu, ac i leihau’r baich rheoleiddio ar y tri ymgyrchydd arall, maen nhw’n penderfynu dod yn brif ymgyrchydd. Cyn ysgwyddir unrhyw wariant, mae’n rhaid iddynt gofrestru gyda’r Comisiwn. Mae Save the Rivers hefyd yn ein hysbysu mai nhw yw’r prif ymgyrchydd, a bod y tri ymgyrchydd arall yn ymgyrchwyr llai yn yr ymgyrch ar y cyd.
Gan fod y tri ymgyrchydd arall wedi cael eu hysbysu fel ymgyrchwyr llai, a thu allan i’r ymgyrch ar y cyd nid ydynt wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy cofrestru (£10,000), nid oes angen iddynt gofrestru na rhoi gwybod am eu gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd.
Fel y prif ymgyrchydd, mae’n rhaid i Save the Rivers adrodd gwariant o £36,000, sef cyfanswm eu gwariant a gwariant y tri ymgyrchydd llai ar yr ymgyrch ar y cyd ar ôl yr etholiad. Rhaid iddyn nhw hefyd roi gwybod am y £5,000 ychwanegol maen nhw’n ei wario y tu allan i’r ymgyrch ar y cyd.
Mae’r tri ymgyrchydd llai yn darparu manylion y gwariant ochr yn ochr â derbynebau ac anfonebau ar gyfer unrhyw wariant dros £200 a wnaethant i Save the Rivers fel y gallant gynnwys hyn yn y ffurflen dreth.
- 1. Adran 94A(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.94A(3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.91(2), a.94(2) ac a.96(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Sut i ddod yn brif ymgyrchydd neu ymgyrchydd llai
Nid oes terfyn ar nifer y prif ymgyrchwyr mewn ymgyrch ar y cyd. Nid oes terfyn chwaith ar nifer yr ymgyrchwyr llai a all weithio gydag unrhyw brif ymgyrchydd mewn ymgyrch ar y cyd. Fodd bynnag, ni all ymgyrchydd llai fod yn brif ymgyrchydd yn yr un ymgyrch hefyd.
Rhaid i brif ymgyrchwyr fod wedi’u cofrestru, tra bod rhaid i ymgyrchwyr llai fod heb eu cofrestru.
Os bydd ymgyrchydd llai yn cofrestru gyda ni (er enghraifft oherwydd eu bod wedi ysgwyddo £10,000 o’u gwariant a reoleiddir y tu allan i’r ymgyrch ar y cyd) yna maent yn peidio â bod yn ymgyrchydd llai. Bydd unrhyw ymgyrch ar y cyd y maent ynddi, gyda phrif ymgyrchydd neu gydag unrhyw ymgyrchwyr llai eraill, yn dychwelyd i fod yn ymgyrch ar y cyd gyffredin.
Dylech ddefnyddio Ffurflen TP7: Hysbysiad o Brif Ymgyrchydd, i’n hysbysu am benodiad prif ymgyrchydd ac unrhyw ymgyrchwyr llai.
Rhoddion
Mae’r adran hon o’r canllawiau’n ymdrin â’r deddfau ynghylch y gofynion rhoi ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Mae hyn yn cynnwys:
- beth sy’n cyfrif fel cyfraniad i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau
- pa roddion y gellir eu derbyn
- sut i wirio bod ffynhonnell yn un a ganiateir
- sut i brisio rhodd anariannol
- sut i ddychwelyd rhoddion nas caniateir neu roddion anhysbys
- arferion da ar gyfer cyllido torfol
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar ba roddion sy’n adroddadwy ar ôl yr etholiad yn Cwblhau eich ffurflen dreth.
Beth yw rhodd?
Dim ond ynghylch rhoddion a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a dderbynnir at ddibenion cyffredinol y sefydliad.
At ddibenion rhoddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, rhodd yw:
- arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau1
- a roddir at ddiben gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir2 ac
- yn ddi-dâl neu ar delerau anfasnachol gyda gwerth o fwy na £500.3
Nid yw unrhyw beth sydd â gwerth o £500 neu lai yn rhodd at ddibenion PPERA.
Pa roddion sy’n dod o dan y gyfraith?
O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae cyfyngiadau ar y rhoddion y gall ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid eu derbyn. Mae’r gyfraith yn cwmpasu pob rhodd a roddir tuag at wariant ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir a dderbynnir y tu allan i’r cyfnod a reoleiddir.4
Rhai enghreifftiau o roddion:
- rhodd o arian neu eiddo
- nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
- tanysgrifiad neu daliad ymlyniad
- defnydd o swyddfa am ddim neu am gost ostyngedig
Rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid gadw cofnodion o’r rhoddion maen nhw’n eu derbyn a gwirio y gallant dderbyn y rhoddion hyn.
Y person cyfrifol sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich sefydliad yn dilyn y deddfau ar roddion.
- 1. Atodlen 11, paragraff 2(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 1(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 4(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 1(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Pa roddion sydd ddim yn dod o dan y gyfraith?
Nid yw’r gyfraith yn cwmpasu arian a gewch tuag at wariant nad yw wedi’i reoleiddio o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.1 Er enghraifft:
- rhoddion a roddir tuag at weithgareddau a gynhaliwyd cyn y cyfnod a reoleiddir, megis taflenni rydych chi’n eu cynhyrchu a’u defnyddio cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau
- rhoddion tuag at weithgareddau ymgyrchu nas reoleiddir
Nid yw arian a roddir i chi neu’ch sefydliad at ddibenion cyffredinol, yn hytrach nag yn benodol i ariannu gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, wedi’i gwmpasu gan gyfraith etholiadol.
Er enghraifft, os ydych chi’n cynnal digwyddiad codi arian i godi arian i gefnogi gweithgarwch cyffredinol eich sefydliad neu os oes gennych chi roddwyr rheolaidd sy’n rhoi arian ar y sail hon, ni fydd y cyfraniadau hyn yn dod o dan y deddfau ar roddion i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Rhoddion o £500 neu lai
Mae rhoddion o £500 neu lai y tu allan i gwmpas Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac nid oes angen i chi eu cofnodi nac adrodd arnynt.2
Fodd bynnag, rhaid i chi fod yn effro i sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gofynion caniatâd o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae’n drosedd ceisio osgoi’r cyfyngiadau ar dderbyn rhoddion.3 Er enghraifft, os gwneir nifer o roddion o £400 o’r un ffynhonnell mewn amgylchiadau tebyg mewn ymgais i osgoi’r gofynion caniatâd.
Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, dylech gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 11, paragraff 1(4) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 4(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 8 ac adran 61 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch chi’n derbyn rhodd?
Gallwch dim ond derbyn rhoddion gan rhai ffynonellau, sydd gan amlaf o fewn y DU.1 Gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am fanylion ynghylch pa ffynonellau a ganiateir.
Cyn i chi dderbyn unrhyw rodd o fwy na £500, mae’n rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i:
- gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw gwir hunaniaeth y rhoddwr
- gwiriwch fod y rhodd o ffynhonnell a ganiateir2
Pan fyddwch chi’n derbyn rhodd ar ran rhywun arall, rydym yn galw’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n rhoi’r rhodd i’r ymgyrchydd yn asiant. Rhaid i’r asiant roi’r manylion angenrheidiol i chi am y rhoddwr gwirioneddol er mwyn i chi allu gwirio a yw’n ganiataol ac adrodd ar y manylion.3
Os nad yw hi’n gwbl glir pwy ddylech drin fel rhoddwr, dylech wirio’r ffeithiau i wneud yn siŵr.
Pa mor hir sydd gennych chi i wirio caniatâd?
Ar ôl i chi gael rhodd, mae gennych 30 diwrnod i wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir a dychwelyd y rhodd os nad yw’n un a ganiateir.
Hyd yn oed os ydych wedi gwneud gwiriad caniatâd mewn cysylltiad â rhodd flaenorol gan yr un ffynhonnell, dylech hefyd wneud gwiriad newydd ar gyfer pob rhodd ddilynol. Mae hyn oherwydd y gall statws rhoddwyr newid, yn enwedig os oedd rhodd flaenorol cryn dipyn o amser yn ôl.
Dylech gadw cofnod o’ch holl wiriadau caniatâd i ddangos eich bod wedi dilyn y gyfraith.
Os nad yw’r rhodd gan roddwr a ganiateir, neu os na allwch fod yn siŵr pwy yw’r ffynhonnell mewn gwirionedd am unrhyw reswm, darllenwch Beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir neu roddwyr anhysbys? i gael canllawiau pellach ar y camau gweithredu y mae’n rhaid i chi eu cymryd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 7 ac adran 56(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 6(4), (6) a (7) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Rhoddion ar ran eraill a rhoddion o ffynonellau anhysbys
Rhoddion ar ran eraill
Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i’r person sy’n rhoi’r rhodd i chi (yr asiant) ddweud wrthych:
- bod y rhodd ar ran rhywun arall
- manylion y rhoddwr gwirioneddol1
Os oes gennych reswm dros gredu bod rhywun yn gweithredu fel asiant o bosib, dylech ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol. Os nad ydych chi’n siŵr pwy ddylech chi ei drin fel y rhoddwr, cysylltwch â ni am gyngor.
Mae’n drosedd os yw’r asiant yn methu â rhoi manylion y rhoddwr gwirioneddol i chi heb esgus rhesymol.2
Os na allwch gadarnhau gan bwy y daw rhodd o fwy na £500, neu ei bod o ffynhonnell a ganiateir, dylech ei chofnodi a’i dychwelyd.3
Rhoddion o ffynonellau anhysbys
Os oes unrhyw log wedi’i ennill ar y rhodd, gall eich sefydliad ei chadw, gan nad yw’n cael ei thrin fel rhodd.4
Gweler Beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir neu roddwyr anhysbys? am ganllawiau ynghylch sut i ddychwelyd rhodd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(5) a (6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 6(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 6(1), para. 7, adran 56(1) ac adran 56(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 4(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Pryd ydych chi’n cael ac yn derbyn rhodd?
Pryd ydych chi’n cael rhodd?
Rydych fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod rydych yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
- os rhoddir taflenni am ddim i chi, rydych yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
- os rhoddir siec i chi, rydych yn cael y rhodd ar y diwrnod y mae’r siec yn cael ei chlirio
- os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, rydych yn cael y rhodd ar y dyddiad y mae’n cyrraedd eich cyfrif1
Pryd ydych chi’n derbyn rhodd?
Rydych chi’n derbyn rhodd ar y diwrnod rydych chi’n cytuno i gadw’r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn arian, os ydych chi’n defnyddio’r rhodd, rydych chi felly wedi’i derbyn.
Os yw eich sefydliad yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod hefyd wedi’i derbyn.2
- 1. Atodlen 11, paragraff 7 ac adran 56(6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 7 ac a.56(5) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Gan bwy y gallwch chi dderbyn rhoddion?
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Ffynhonnell a ganiateir:
- unigolyn sydd wedi’i gofrestru ar un o gofrestrau etholwyr y DU, gan gynnwys etholwyr tramor a’r rhai sy’n gadael cymynroddion
- cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU ac sy’n gwmni corfforedig yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU
- undeb llafur sydd wedi’i gofrestru yn y DU
- cymdeithas adeiladu sydd wedi’i chofrestru yn y DU
- partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sydd wedi’i chofrestru yn y DU ac sy’n cynnal busnes yn y DU
- cymdeithas gyfeillgar, diwydiannol neu ddarbodus sydd wedi’i chofrestru yn y DU
- cymdeithas anghorfforedig yn y DU sydd wedi’i lleoli yn y DU ac sy’n cynnal busnes neu weithgarwch arall yn y DU
Gallwch hefyd dderbyn rhoddion gan fathau penodol o ymddiriedolaethau.1 Cysylltwch â ni am gyngor o ran sut mae cadarnhau caniatâd ymddiriedolaethau.
Ni ddylech dderbyn rhoddion gan blaid wleidyddol.2
Er y gallwch yn gyfreithiol dderbyn rhoddion gan elusennau os ydynt yn rhoddwyr a ganiateir o dan gyfraith elusennol, ni chaniateir i elusennau fel arfer rhoi rhoddion gwleidyddol o dan gyfraith etholiadol. Os ydych yn gwybod bod rhoddwr dichonadwy yn elusen, dylech wneud yn siŵr eu bod yn cael cyngor gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban, neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon cyn iddynt roi’r rhodd.
Beth sy’n rhaid i chi ei gofnodi?
Os byddwch yn derbyn rhodd sydd dros £500, mae’n rhaid i chi gofnodi’r manylion hyn:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr3 (mae’r rhain wedi’u nodi ar y tudalennau canlynol)
- swm y rhodd (os yw’n ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (os yw’n anariannol)4
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbynioch y rhodd5
Rhaid i chi gofnodi cyfeiriad y rhoddwr fel y mae’n cael ei ddangos ar y gofrestr statudol berthnasol.
Bydd angen y manylion hyn arnoch pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am rodd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(3) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 1(6) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 10(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 10(1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 10(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
Unigolion
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Beth sy’n gwneud unigolyn yn un a ganiateir?
Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi’r rhodd.1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Os ydych yn cael cymynrodd, a bod yr unigolyn ar y gofrestr etholiadol unrhyw bryd yn y pum mlynedd cyn eu marwolaeth, gallwch dderbyn y rhodd.2
Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?
Dylech ddefnyddio’r gofrestr etholiadol i wirio a yw unigolyn yn cael caniatâd, gan mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg y rhodd. Efallai na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigon i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar yr adeg y derbyniwyd y rhodd.
Mae hawl gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gael copi am ddim o’r gofrestr etholiadol llawn.3
Fel arfer caiff fersiwn newydd o’r gofrestr ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Dylech gysylltu â’r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol perthnasol yn ysgrifenedig wrth ofyn am eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn amdano fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid.4 Yn eich cais, dylech hefyd ofyn iddynt anfon yr holl ddiweddariadau i’r gofrestr atoch ar gyfer y flwyddyn honno, hyd at y dyddiad y derbyniwyd y rhodd. Byddwch yn derbyn y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn brintiedig o’r gofrestr.5
Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a’r diweddariadau’n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt awdurdodau lleol trwy ein chwiliwr cod post.
O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw’r unigolyn wedi’i gofrestru’n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad eich bod wedi gweld tystiolaeth bod ganddo gofnod dienw ar y gofrestr.6 Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif cofrestriad dienw. Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif gyda’ch adroddiad.7
Dim ond er mwyn cadarnhau a yw unigolyn yn un a ganiateir, neu at ddibenion etholiadol, y cewch ddefnyddio’r gofrestr. Ni ddylech ei drosglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw’n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion nad ydynt yn etholiadol.8
Beth sydd angen i chi ei gofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn yr unigolyn
- y cyfeiriad fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, neu os mai etholwr tramor yw’r person, ei gyfeiriad cartref9
Efallai y bydd o ddefnydd i chi nodi rhif etholiadol y person, fel cofnod o’ch gwiriad.
Os ydych chi wedi derbyn cymynrodd, cysylltwch â ni i gael cyngor ar wirio a yw’n ganiataol a’r gofynion adrodd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(1)(a) ac adran 54(2)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.54(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 102(1) a 106(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 101(1) a 105(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 102(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 102(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 101(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 10(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 10(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 106(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, a Rheoliad 105(4)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
Cwmnïau
Beth sy’n gwneud cwmni yn un a ganiateir?
Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir:
- wedi cofrestru fel cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau
- os yw wedi’i gorffori yn y DU, ac
- cynnal busnes yn y DU1
Mae’n rhaid i chi sicrhau fod y cwmni’n bodloni’r meini prawf hyn i gyd.
Sut ydych chi’n gwirio cofrestriad cwmni?
Dylech wirio’r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.
Sut ydych chi’n gwirio os yw cwmni yn cyflawni busnes yn y DU?
Mae’n rhaid i chi fod yn hapus fod y cwmni yn cyflawni busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y cwmni, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld os:
- a yw’r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei ddileu o’r gofrestr
- a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr
Gall cwmni barhau â busnes os yw mewn datodiad, yn segur neu’n hwyr yn ffeilio dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fod yn fodlon fod hyn yn digwydd.
ar gyfer unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar:
gwefan y cwmni
- masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
- cyfrifon diweddaraf wedi’u ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr os yw’r cwmni yn cyflawni busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’i weithgarwch busnes gan gyfarwyddwyr y cwmni.
Beth sydd angen i chi ei gofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel mae’n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
- rhif y cwmni cofrestredig2
- 1. Atodlen11, paragraff 6(1)(a) ac adran 4(2)(b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig
Beth sy’n gwneud partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn un a ganiateir?
Mae partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) yn roddwr a ganiateir os:
- wedi cofrestru fel PAC gyda Thŷ’r Cwmnïau
- cynnal busnes yn y DU1
Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?
Dylech wirio’r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.
Sut ydych chi’n gwirio os yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Mae’n rhaid i chi fod yn fodlon fod y PAC yn cyflawni busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y PAC, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld os:
- a yw’r PAC yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o’r gofrestr
- a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y PAC yn hwyr
Gall PAC barhau â busnes os yw mewn datodiad, yn segur neu’n hwyr yn ffeilio dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fod yn fodlon fod hyn yn digwydd.
Ar gyfer unrhyw PAC, dylech ystyried edrych ar:
- gwefan y PAC
- masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
- cyfrifon diweddaraf wedi’u ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr os yw’r PAC yn cyflawni busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’i weithgarwch busnes gan gyfarwyddwyr y PAC.
Beth sydd angen i chi ei gofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- yr enw fel mae’n ymddangos ar y gofrestr
- cyfeiriad swyddfa gofrestredig y PAC2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru’r PAC.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(1)(a) ac adran 54(2)(f) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2(10) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
Cymdeithasau anghorfforedig
Beth sy’n gwneud cymdeithas anghorfforedig yn un a ganiateir?
Mae cymdeithas anghorfforedig yn rhoddwr neu’n fenthyciwr a ganiateir os:
- os oes mwy nag un aelod
- os yw’r brif swyddfa yn y DU
- os yw’n cynnal busnes neu weithgarwch arall yn y DU1
Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?
Nid oes cofrestr sy’n cynnwys pob cymdeithas anghorfforedig. Bydd angen i chi wirio manylion y gymdeithas anghorfforedig ym mhob achos.
Yn gyffredinol, cymdeithas anghorfforedig yw cymdeithas â dau neu fwy o unigolion sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir.
Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodau adnabyddadwy sydd wedi’u rhwymo gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae’r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli’r gymdeithas anghorfforedig.
Weithiau gellir ffurfioli’r rheolau, er enghraifft mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes angen iddynt gael eu ffurfioli.
Er enghraifft, mae clybiau aelodau weithiau yn gymdeithasau anghorfforedig.
Os nad ydych yn siŵr a yw cymdeithas yn bodloni’r meini prawf, dylech ystyried a yw’r rhodd gan yr unigolion ynddi mewn gwirionedd (yn hytrach na’r gymdeithas) neu a oes rhywun yn y gymdeithas yn gweithredu fel asiant dros eraill.
Os ydych yn credu mai dyma sydd wedi digwydd, dylech wirio caniatâd pob unigolyn sydd wedi cyfrannu mwy na £500 a’u trin fel y ffynhonnell.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gynnal busnes yn yr adran flaenorol Sut ydw i’n gwirio os yw cwmni’n cynnal busnes yn y DU?
Os yw cymdeithas anghorfforedig yn rhoi rhoddion gwleidyddol o fwy na £37,270 mewn blwyddyn galendr, dylech roi gwybod iddynt fod angen iddynt adrodd am hyn i ni.2 Cewch weld ein gwefan am ragor o gwybodaeth ar gymdeithasau anghorfforedig.
Beth sydd angen i chi ei gofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
- enw’r gymdeithas anghorfforedig
- cyfeiriad prif swyddfa’r gymdeithas3
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(1)(a) ac adran 54(2)(h) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 19A PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2(8) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Ffynonellau eraill
Undebau llafur
I fod yn undeb llafur a ganiateir mae’n rhaid iddo fod wedi’i restru’n undeb llafur gan y Swyddog Ardystio.1 Dylech wirio’r rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio.
Cymdeithasau adeiladu
I fod yn gymdeithas adeiladu a ganiateir, mae’n rhaid iddi fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986.2 Dylech wirio’r rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi’u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gydfuddiannol Gyhoeddus.
Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Mae’n rhaid i gymdeithasau cyfeillgar, a chymdeithasau diwydiannol a darbodus gael eu cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymunedol 2014, neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn cael caniatâd.3 Dylech wirio’r Gofrestr Gydfuddiannol Gyhoeddus a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Beth sydd angen i chi ei gofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
- enw’r rhoddwr
- y cyfeiriad fel y’i dangosir yn y gofrestr berthnasol4
- 1. Atodlen 11, paragraff 6(1)(a) ac adran 54(2)(d) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 6(1)(a) ac A.54(2)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 6(1)(a) ac A.54(2)(g) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 10(1)(c), Atodlen 6, para. 2(6), (7) a (9) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
Sut rydych yn prisio rhodd?
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau roi gwerth ar unrhyw rodd anariannol. Gwerth rhodd yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a dderbynnir, a’r swm, os o gwbl, y mae’r ymgyrchydd nad yw’n blaid yn ei dalu amdano.1
Mae eitemau a dderbynnir am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol, pan fod y gwahaniaeth rhwng y gwerth masnachol a’r hyn a dalwyd amdano mewn gwirionedd yn fwy na £500, yn rhodd.
Sut ydych chi’n cyfrifo gwerth rhodd?
Os yw eich sefydliad yn derbyn neu’n darparu eitem, nwyddau neu wasanaeth, rhaid i chi gyfrifo ei werth marchnad. Mae gwerth y farchnad yn golygu’r pris y byddai disgwyl rhesymol iddo gael ei dalu am yr eitem, nwyddau neu wasanaeth, pe bai ar werth yn y farchnad agored.2
Mae angen cyfrifo’r gwerth marchnad i benderfynu a yw rhodd wedi’i gwneud a beth yw’r gwerth.
Nid yw unrhyw incwm masnachol a gewch o’r trafodion hyn yn rhodd.3
Mae’r adran ganlynol yn rhoi canllawiau ar sut i asesu gwerth marchnad nwyddau a gwasanaethau, penderfynu a oes rhodd wedi’i gwneud, a chyfrifo gwerth y rhodd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 5 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 160(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 2(1)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Nwyddau a gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu cael neu a ddarperir ganddo
Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cael nwyddau neu wasanaethau
Yn ogystal â rhoddion ariannol, efallai y byddwch hefyd yn cael rhoddion ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad.
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i'ch sefydliad, yn benodol, gan gyflenwyr. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae'r rheoliadau ynglŷn â rhoddion yn gymwys.
Os byddwch yn cael nwyddau neu wasanaethau, caiff y rhain eu hystyried fel rhodd os:
- bydd gwerth marchnadol y nwyddau neu'r gwasanaethau, os cawsant eu rhoi am ddim, yn fwy na £500, neu1
- bydd swm y gostyngiad anfasnachol yn fwy na £5002
Y rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol yr hyn a gewch a'r swm (os o gwbl) a dalwch amdano.3
Fel gyda phob math o rodd, rhaid i chi hefyd sicrhau bod unrhyw rodd rydych yn ei derbyn sydd dros £500 gan roddwr a ganiateir.4
Prisio rhodd lle mae'ch sefydliad yn cynnal digwyddiad neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau
Os bydd eich sefydliad yn cynnal digwyddiad, neu'n darparu nwyddau neu wasanaethau, rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu prisio ar gyfradd gymharol y farchnad hefyd. Ystyrir bod unrhyw arian y bydd eich sefydliad yn ei gael sydd dros y gwerth marchnadol ar gyfer costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) yn rhodd.5
Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o werth marchnadol y nwyddau a'r gwasanaethau rydych yn eu gwerthu oherwydd os bydd rhywun yn talu mwy na'r gwerth marchnadol, ystyrir bod y gwahaniaeth rhwng y swm y mae'n ei dalu i chi a'r gwerth marchnadol yn rhodd os bydd y swm hwn yn fwy na £500.6
Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael unrhyw daliad ychwanegol ar delerau anfasnachol, a bydd y cyfreithiau ynglŷn â rhoddion yn gymwys. Nid yw'r gwerth marchnadol, neu incwm masnachol, yn rhodd.7
Bydd gwerth unrhyw rodd yn gyfystyr â'r swm o arian dros werth marchnadol costau'r digwyddiad (neu'r nwyddau neu wasanaethau) a gaiff eich sefydliad gan bob rhoddwr.
Dylech gyfrifo faint mae'n ei gostio i'r sefydliad am bob unigolyn sy'n mynychu'r digwyddiad, neu am bob unigolyn sy'n cael nwyddau neu wasanaethau. Yna, didynnwch y swm hwn o'r hyn y gwnaeth pob unigolyn ei dalu i chi er mwyn canfod gwerth y rhodd. Bydd hyn yn rhodd os yw'r swm hwn yn fwy na £500.8
Yr egwyddor arweiniol
Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth marchnadol neu fasnachol y nwyddau neu'r gwasanaethau rydych wedi'u cael neu eu darparu.
Os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio. Er enghraifft, os mai darparwr masnachol yw'r rhoddwr, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid tebyg eraill.
Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaethau, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau nwyddau/gwasanaethau cyfatebol rhesymol ar y farchnad. Os byddwch yn dal yn ansicr ynghylch sut y dylech brisio rhodd benodol, cysylltwch â ni am gyngor.
Dylech gadw cofnod o'r modd y lluniwyd eich prisiad.
Gwerthu gwasanaethau unigryw
Wrth geisio pennu'r gwerth marchnadol, efallai y byddwch hefyd am ystyried y lefel briodol ar y farchnad ar gyfer yr hyn rydych yn ei werthu.
Er enghraifft, mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhesymol defnyddio prisiad yn seiliedig ar y gwerthoedd uchaf ar y farchnad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn achosion lle mae'r gwasanaethau yn unigryw a/neu lle mae gennych rywfaint o fonopoli ar y farchnad.
- 1. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 4(2) a phara. 5(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 2(1)(e), para. 3(b), para. 4(2) a para. 5(4) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 5 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 6(1) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 4(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 2(1)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 2(1)(a), para. 2(2) a phara. 4(2) a phara. 5(2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
Cyllido torfol
Cyllido torfol yw’r defnydd o blatfform ar y we i gasglu rhoddion. Yn gyffredinol, mae’r platfform yn cael ei reoli gan ddarparwr trydydd parti ac mae gan bob ymgyrch codi arian unigol dudalen ar y wefan.
Mae ymgyrchoedd fel arfer yn cael eu cynnal am gyfnod penodol o amser. Bydd y rhai sy’n codi arian yn aml yn dewis dyddiad cau ar gyfer cyrraedd nod codi arian. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, mae’r arian a godir, ac eithrio ffi a dalwyd i’r darparwr, yn cael ei drosglwyddo i’r rhai sy’n codi arian.
Mae yna wahanol ffyrdd y gall platfformau cyllido torfol drosglwyddo arian i’r rhai sy’n codi arian. Efallai y bydd rhai platfformau yn caniatáu i chi dynnu arian o’r cyfrif tra bod eich ymgyrch yn dal i gael ei chynnal. Dim ond pan fydd eich ymgyrch wedi dod i ben y bydd platfformau eraill yn trosglwyddo arian i chi.
Os ydych yn casglu rhoddion drwy gyllido torfol, rhaid i chi gydymffurfio â’r gyfraith ar roddion. Mae’r un gofynion yn berthnasol i’r rhain ag i roddion eraill a gewch. Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am arferion da y dylech eu dilyn os ydych chi’n ystyried rhoi arian torfol.
Dewis platfform cyllido torfol
Cyn i chi greu tudalen cyllido torfol, dylech wirio nodweddion y platfform cyllido torfol. Dylech wneud yn siŵr y bydd gennych yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddilyn y gyfraith ar roddion.
Dylech gasglu digon o wybodaeth gan roddwyr i sicrhau eich bod yn gallu:
- Gwirio’n iawn fod pob rhodd a reoleiddir sydd dros £500 yn dod o ffynhonnell a ganiateir
- Nodi a yw rhoddion lluosog wedi dod o’r un ffynhonnell
- Cofnodi’n gywir y rhoddion a dderbyniwyd gennych
Dylech ddewis platfform cyllido torfol sy’n eich galluogi i ddychwelyd rhoddion nas caniateir.
Rhoddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw
Yn y canllawiau hyn, byddwn yn cyfeirio at roddion cyllido torfol preifat a rhoddion dienw. Diffinnir y termau hyn yn y tabl isod:
| Term | Ystyr |
|---|---|
Rhodd cyllido torfol preifat | Nid yw manylion y rhoddwr i’w gweld ar dudalen cyllido torfol cyhoeddus, ond darperir rhywfaint o wybodaeth i’r person a greodd y dudalen. Er enghraifft, ni fyddai rhywun sy’n edrych ar dudalen cyllido torfol yn gallu dweud pwy wnaeth gyfraniad preifat o £575, ond efallai y bydd yr unigolyn sy’n codi arian yn derbyn enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr. |
Rhodd ddienw | Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am y rhoddwr i’r person neu’r sefydliad sydd wedi derbyn y rhodd. |
Dylech wirio y byddwch, fel yr un sy’n codi arian, yn cael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am eich rhoddwyr.
Rhaid i chi beidio â derbyn rhoddion a wneir yn ddienw, neu os na allwch nodi pwy yw’r rhoddwr.
Gallwch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych y manylion angenrheidiol i wirio eu bod y math a ganiateir. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried a ydych am ganiatáu rhoddion cyllido torfol preifat ar gyfer eich ymgyrch.
Cael mynediad at yr arian a godwyd
Mae yna wahanol ffyrdd y gall platfformau cyllido torfol drosglwyddo arian i’r rhai sy’n codi arian. Mae’n bosibl y bydd rhai platfformau’n caniatáu i chi dynnu arian o’r cyfrif tra bod eich ymgyrch yn dal i gael ei chynnal, tra bydd eraill ond yn trosglwyddo arian i chi ar ôl i’ch ymgyrch ddod i ben.
Gall yr amser y mae’n ei gymryd i dderbyn arian ar ôl y dyddiad cau amrywio hefyd yn dibynnu ar ba blatfform cyllido torfol rydych chi’n ei ddefnyddio.
Mae’n bwysig eich bod yn deall pryd y gallwch gael mynediad at arian. Unwaith y bydd arian wedi’i dderbyn, rhaid i chi gynnal gwiriadau caniatâd ar y rhoddion perthnasol a chadw cofnodion i fodloni gofynion adrodd. Rydym yn argymell cynllunio eich ymgyrch cyllido torfol fel y byddwch yn derbyn eich rhoddion gyda digon o amser i gwblhau’r gwiriadau gofynnol cyn unrhyw ddyddiadau cau perthnasol ar gyfer adrodd.
Creu tudalen cyllido torfol
Dylech wneud yn siŵr bod eich tudalen cyllido torfol yn nodi ar gyfer beth y mae’r arian yn cael ei gyfrannu. Dim ond ynghylch rhoddion a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Dylech egluro a yw’r arian yn cael ei godi i’w wario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.Mae hyn yn bwysig oherwydd nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a dderbynnir at ddibenion cyffredinol y sefydliad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gweithgareddau sy’n cyfrif a sut i asesu a yw gweithgaredd wedi’i reoleiddio yn Gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth yn egluro y bydd gwiriadau caniatâd yn cael eu cynnal yn unol â’r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam yr ydych yn casglu unrhyw wybodaeth.
Dylai eich tudalen cyllido torfol hefyd esbonio y gall gwybodaeth am roddion a gwybodaeth am roddwyr, gan gynnwys rhoddion preifat, gael eu hadrodd i’r Comisiwn Etholiadol a’u cyhoeddi. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad y term ‘rhodd cyllido torfol preifat’, yn Dewis platfform cyllido torfol.
Rydym yn argymell eich bod yn glir ac yn egluro os na ellir adnabod rhoddwr, neu os yw’n rhoddwr nas caniateir, yna bydd yn rhaid dychwelyd y rhodd. Os na chewch ddigon o wybodaeth am roddwr, efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.
Os ydych chi’n bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol ac rydych chi’n ansicr ynghylch pa ofynion sy’n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni gofynion, gallwch chi gysylltu â ni am gyngor.
Rheoli rhoddion cyllido torfol
Mae cyfyngiadau ar y rhoddion y gall ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid eu derbyn. Dim ond ynghylch rhoddion dros £500 a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a geir at ddibenion cyffredinol y sefydliad.
Dim ond o ffynhonnell a ganiateir y gallwch chi dderbyn rhoddion dros £500.1 Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffynonellau a ganiateir a sut i wirio a yw gwahanol fathau o roddwyr yn rhai a ganiateir yn Gan bwy y gallwch chi dderbyn rhodd?.
Nid yw arian a roddir trwy dudalen we cyllido torfol sy’n £500 neu lai yn rhodd yn ôl cyfraith etholiadol ac nid yw’n adroddadwy.2
Rhaid i chi beidio â derbyn rhodd sy’n werth dros £500 os na allwch nodi pwy yw’r rhoddwr gwirioneddol, neu os yw’r rhodd yn ddienw.3 Rhodd ddienw yw pan na ddarperir unrhyw wybodaeth am y rhoddwr i’r person neu’r sefydliad sydd wedi derbyn y rhodd.
Ni ddylech dderbyn rhoddion gan blaid wleidyddol.4
Wrth dderbyn rhoddion, rhaid i chi fod yn ymwybodol o sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod rhoddwr yn ceisio osgoi’r gyfraith ar yr hyn a ganiateir, er enghraifft, os bydd rhywun yn gwneud rhoddion lluosog o £500 neu lai. Mae’n drosedd ceisio osgoi’r rheolaethau ar roddion.5 Os ydych o’r farn y gallai hyn fod yn digwydd, cysylltwch â ni am gyngor.
Gwirio’r hyn a ganiateir
Unwaith y derbynnir rhodd, mae gennych 30 diwrnod i gynnal gwiriadau caniatâd a phenderfynu a ddylid ei derbyn neu ei dychwelyd.6 Y dyddiad derbyn yw’r dyddiad yr ydych yn derbyn yr arian o’r wefan cyllido torfol. Gall hyn fod yn wahanol i’r dyddiad y gwnaed y rhodd. Bydd pryd yr ydych yn derbyn yr arian yn dibynnu a yw’r platfform cyllido torfol yn caniatáu i chi godi arian yn ystod eich ymgyrch, neu unwaith y bydd wedi dod i ben.
Rhaid i chi gydymffurfio â deddfau rhoddion ar gyfer unrhyw rodd a roddir tuag at eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, p’un a dderbyniwyd hyn cyn neu yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Dylech gofnodi gwybodaeth ar gyfer yr holl roddion y byddwch yn eu gwirio, gan efallai y bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen.
Gwirio rhoddion preifat
Rhodd cyllido torfol preifat yw pan nad yw manylion y rhoddwr i’w gweld ar dudalen cyllido torfol gyhoeddus, ond mae’r wybodaeth hon yn cael ei darparu i’r person a greodd y dudalen.
Gallwch dderbyn rhoddion cyllido torfol preifat, ar yr amod bod gennych y manylion sydd eu hangen i wirio caniatâd y rhoddwr.
Pan fyddwch yn derbyn rhodd cyllido torfol preifat dros £500 tuag at eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, dylech wneud yn siŵr bod gennych ddigon o wybodaeth am y rhoddwr i gynnal gwiriadau caniatâd.
Er enghraifft, rydych chi’n derbyn rhodd o £600 gan unigolyn tuag at gost rali gyhoeddus, ond dim ond enw a chyfeiriad e-bost mae’r rhoddwr wedi’u darparu. Dylech gysylltu â’r rhoddwr i ofyn am eu cyfeiriad cartref, a bydd angen i chi wirio a yw’r unigolyn ar gofrestr etholiadol y DU, ac felly yn rhoddwr a ganiateir.
Os na allwch wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir o’r wybodaeth sydd gennych, rhaid i chi ddychwelyd y rhodd.
Dychwelyd rhoddion nas caniateir
Os na allwch nodi pwy yw’r rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn un nas caniateir, yna mae’n rhaid i chi ddychwelyd y rhodd o fewn 30 diwrnod i’w derbyn.7 Efallai y bydd y platfform cyllido torfol rydych chi’n ei ddefnyddio yn caniatáu i chi ddychwelyd y rhodd yn uniongyrchol i’r rhoddwr.
Os na allwch ddychwelyd y rhodd i’r rhoddwr, dylech ei dychwelyd i’r sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd. Gallai hwn fod y platfform cyllido torfol rydych yn ei ddefnyddio, neu’r banc sydd wedi trosglwyddo’r rhodd ar ran y platfform.
Os nad yw’n bosibl dychwelyd y rhodd i’r rhoddwr neu’r sefydliad ariannol, cysylltwch â ni gan fod yn rhaid i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol. Byddwn yn talu’r rhodd i’r Gronfa Gyfunol a reolir gan Drysorlys EF.8 Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddo’r arian hwn.
- 1. Atodlen 11, paragraff 6 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 4(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 6(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 1(6) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 8 ac adran 61 PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 7 PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 7 PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 7 ac a.57(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
Rhoi gwybod am roddion cyllido torfol
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau roi manylion eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a manylion unrhyw roddion adroddadwy a dderbyniasant tuag at y gwariant hwn i ni ar ôl yr etholiad. Rydym yn galw’r adroddiad hwn yn ffurflen gwariant a rhoddion.
Cyn i chi gwblhau a chyflwyno eich ffurflen gwariant a’ch ffurflen rhoddion, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd a reoleiddir sydd dros £500.
Nid oes cyfnod adrodd penodol ar gyfer rhoddion yn eich ffurflen gwariant a rhoddion. O dan y gyfraith mae’n rhaid i chi gynnwys rhoddion a gawsoch fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid tuag at eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ar unrhyw adeg, lle bodlonir y meini prawf adrodd canlynol. Mae hyn yn cynnwys rhoddion ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir a gawsoch y tu allan i’r cyfnod a reoleiddir.
Rhoddion a ganiateir
Rhaid i chi roi gwybod am roddion pryd bynnag y bydd y cyfanswm a dderbynnir gan y rhoddwr tuag at fodloni’ch gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn fwy na £7,500. Gall hyn fod yn rhodd unigol o dros £7,500, neu roddion lluosog (dros £500) sy’n dod i gyfanswm o fwy na £7,500.1 Wrth adio rhoddion lluosog gan yr un rhoddwr dylech dim ond cynnwys rhoddion sydd dros £500.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am gyfanswm gwerth unrhyw roddion eraill a dderbynioch rhwng £500 a £7,500 a dderbyniwyd at ddiben bodloni’r gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.2 Rhoddion yw’r rhain nad ydynt yn adroddadwy’n unigol gan nad yw’r cyfanswm yn fwy na £7,500. Does dim angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth arall i ni am y rhoddion hyn.
Rhoddion na chaniateir
Rhaid i chi roi gwybod am bob rhodd dros £500 gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys a dderbynnir at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid oes angen i chi adio rhoddion nas caniateir.
Pa fanylion y mae’n rhaid i chi eu hadrodd?
Ar gyfer rhoddion rydych wedi’u derbyn sydd (neu sy’n adio i fyny i) dros £7,500, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr3 (gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am ganllawiau ar y manylion y mae’n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol4
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbynioch y rhodd5
Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:
- enw’r rhoddwr, os yw’n hysbys, neu’r ffordd y gwnaed y rhodd6
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol7
- y dyddiad y cawsoch y rhodd8
- y dyddiad y dychweloch y rhodd9
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)10
Ffioedd platfform cyllido torfol
Gall platfformau cyllido torfol godi ffioedd am drafodion rhoddion, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu platfform. Mae’r ffioedd hyn yn cyfrif fel traul etholiad, ac mae’n rhaid i chi eu hadrodd yn eich ffurflen o dan y categori costau gweinyddol a llety.
Gall y ffioedd hyn fod yn ganran o’r rhoddion a gewch. Rhaid i chi adrodd am werth llawn y rhoddion a dderbyniwyd11 a rhoi gwybod am y ffioedd ar wahân fel gwariant etholiad. Mae’n dderbyniol i’r ffioedd hyn gael eu cydgrynhoi a’u hadrodd fel un llinell o wariant yn eich ffurflen.
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei chyflwyno, yn Cwblhau eich ffurflen.
Os nad ydych yn siŵr pa ofynion adrodd sy’n berthnasol, gallwch gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 11, paragraff 10(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 10(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 10 (1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 10 (1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 11 (2)(a) a (3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 11 (2)(b) a (3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 11, para. 10 (1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 11
Astudiaeth achos
Mae ymgyrchydd nad yw’n blaid yn penderfynu codi arian ar wefan cyllido torfol i’w wario ar ymgyrch y bydd yn ei redeg cyn etholiad y Senedd sydd i ddod. Nod yr ymgyrch yw annog pleidleiswyr i gefnogi pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr sy’n cytuno â safbwynt yr ymgyrchydd nad yw’n blaid ar fater penodol.
Mae’r ymgyrchydd nad yw’n blaid yn bwriadu gwario’r arian y mae’n ei godi ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Yn seiliedig ar ymgyrchoedd blaenorol y mae wedi’u cynnal yn y gorffennol, mae’r sefydliad yn disgwyl gwario dros £10,000 yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir ac felly mae’n cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.
Cynhelir yr etholiad ar 7 Mai. I ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, mae’r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar 7 Ionawr ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio.
Mae’r ymgyrchydd nad yw’n blaid yn creu tudalen cyllido torfol gyda dyddiad cau o 24 Mawrth.
Maent yn dewis platfform cyllido torfol sy’n casglu digon o wybodaeth am roddwyr i sicrhau y gallant gwblhau eu rhwymedigaethau cofnodi ac adrodd, ac sy’n caniatáu i roddion gael eu dychwelyd os nas caniateir.
Mae’r ymgyrchydd nad yw’n blaid yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar ei dudalen cyllido torfol:
- ar gyfer beth fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio – “Rydym yn codi arian i’w wario ar [xxxxxx] ar gyfer ein hymgyrch sydd i ddod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai”
- cyngor y bydd gwiriadau caniatâd yn cael eu cynnal ar gyfer rhoddion dros £500
- cyngor os na ellir dilysu rhoddwr, neu os yw’n ffynhonnell nas caniateir, y bydd ei rodd yn cael ei dychwelyd
- cyngor y gellir adrodd manylion rhoddion i’r Comisiwn Etholiadol, a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd
- argraffnod dilys
Erbyn y dyddiad cau, mae’r ymgyrchydd wedi codi £24,750. Mae’r arian, heb gyfrif ffioedd y platfform, yn cael ei drosglwyddo i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid bum diwrnod gwaith yn ddiweddarach. Mae’r rhoddion yn cynnwys:
- Rhodd A: rhoddwyd £8,000 ar 2 Chwefror, derbyniwyd enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr
- Rhodd B: rhoddwyd £1,000 ar 12 Ebrill, rhoddwyd enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr
- Rhodd C: rhoddwyd rhodd breifat o £6,500 ar 14 Ebrill, cafwyd enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr
- Rhoddwyd sawl cyfraniad rhwng £500 a £7,500 dros y cyfnod cyllido torfol
- Rhoddwyd sawl cyfraniad o dan £500 dros y cyfnod cyllido torfol
Mae’r ymgyrchydd yn derbyn yr arian ar 31 Mawrth ac yn lawrlwytho gwybodaeth am y rhoddwyr o’r platfform cyllido torfol. Mae ei ffenestr 30 diwrnod ar gyfer gwneud gwiriadau caniatâd yn dechrau ar 31 Mawrth, oherwydd dyma’r dyddiad derbyn.
Derbynnir rhodd A ar ôl i wiriadau caniatâd gael eu gwneud.
Mae’r ymgyrchydd yn cynnal gwiriadau caniatâd ar Rhodd B ac yn darganfod bod y rhodd wedi dod o ffynhonnell nas caniateir. Mae’r ymgeisydd yn dychwelyd y rhodd i’r rhoddwr trwy’r platfform cyllido torfol.
Dim ond enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr ar gyfer Rhodd C y mae’r ymgyrchydd yn ei dderbyn. Nid yw’r wybodaeth hon yn ddigon i wirio caniatâd. Mae’r ymgyrchydd yn cysylltu â’r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref, ond nid yw’n cael ymateb. Rhaid i’r ymgyrchydd wrthod y rhodd a’i dychwelyd i’r rhoddwr.
Pan fydd yr ymgyrchydd nad yw’n blaid yn cwblhau ei ffurflen gwariant a rhoddion, mae’n cofnodi:
- Rhodd A, gan ei fod dros y trothwy adrodd o £7,500
- Dychweliad Rhoddion B a C
- Cyfanswm gwerth yr holl roddion eraill a dderbynnir rhwng £500 a £7,500. Caiff y rhoddion hyn eu gwirio i sicrhau eu bod yn ganiataol ond dim ond y cyfanswm a adroddir yn y ffurflen dreth.
Ni chaiff cyfraniadau o dan £500 eu cofnodi na’u gwirio i sicrhau eu bod yn ganiataol.
Prisio rhodd drwy nawdd
Beth yw nawdd?
Pan roddir cefnogaeth i ymgyrchydd nad yw’n blaid i’w helpu i dalu costau penodol, diffinnir hyn fel nawdd. O dan y gyfraith, mae rheolau gwahanol yn berthnasol i’r rhoddion hyn.
Nawdd yw cefnogaeth a roddir i ymgyrchydd nad yw’n blaid sy’n eu helpu i dalu costau:
- unrhyw gynhadledd, cyfarfod neu ddigwyddiad arall (gan gynnwys cynadleddau neu ddigwyddiadau digidol)
- paratoi, cynhyrchu, neu ddosbarthu cyhoeddiad (print neu ddigidol), neu
- unrhyw astudiaeth neu ymchwil1
A oes unrhyw eithriadau i’r rheolau o ran nawdd?
Nid yw’r costau canlynol yn cyfrif fel nawdd:2
- ffioedd mynediad ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau eraill
- pris prynu unrhyw gyhoeddiad
- taliadau cyfradd fasnachol ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau
Mae’r eithriad ond yn gymwys at werth masnachol hysbysebion sy’n ymddangos mewn cyhoeddiadau. Enghraifft o’r eithriad hwn yw cyhoeddiad sy’n nodi amcanion ymgyrchydd nad yw’n blaid, fel maniffesto cyn etholiad.
Dylai taliadau ar gyfer unrhyw fath arall o hysbysebu, megis baneri mewn digwyddiad neu hysbysebu digidol mewn digwyddiad rhithwir. gael eu trin fel nawdd os ydynt yn helpu i fodloni cost y digwyddiad.
Nid yw taliadau hysbysebu nad ydynt yn bodloni cost digwyddiad neu gyhoeddiad mewn unrhyw ffordd yn cael eu hystyried yn nawdd. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu gofod hysbysebu ar gyfer eich digwyddiad ar-lein heb fynd i unrhyw gostau uniongyrchol ar gyfer y digwyddiad.
Fodd bynnag, os yw rhywun yn talu mwy na gwerth masnachol hysbyseb, bydd y gwahaniaeth rhwng yr hyn a delir ganddynt a’r gwerth masnachol yn rhodd. Ni fydd unrhyw symiau a delir ar gyfer hysbysebion mewn cyhoeddiadau sydd dros y gyfradd fasnachol yn cael eu heithrio a chânt eu hystyried yn rhodd os ydynt yn werth mwy na £500.3
Lle nad yw taliad yn gyfystyr â nawdd, gallai fod yn rhodd o hyd os yw’n bodloni’r diffiniad o rodd.
- 1. Atodlen 11, para. 3(1) a (2) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 3(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 3(3)(b) a 4(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
Faint o'r hyn rydych yn ei gael sy'n rhodd?
Wrth gyfrifo gwerth nawdd, dylid ystyried swm llawn y taliad a geir a rhoi gwybod amdano os yw'n fwy na'r trothwyon uchod.
Ni ddylid gwneud unrhyw ddidyniad ar gyfer unrhyw werth masnachol, neu fudd i'r noddwr, ac ati.
Digwyddiadau a chiniawau i godi arian
Os caiff digwyddiad ei gynnal gan neu ar ran plaid (neu uned gyfrifyddu plaid), neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, rhaid trin cymorth i helpu i dalu am gostau'r digwyddiad fel nawdd.
Ar gyfer taliadau am le neu fwrdd mewn cinio a drefnir gan y blaid neu sefydliad a reoleiddir neu unigolyn arall, bydd y gwahaniaeth rhwng gwerth y cinio a'r swm a delir yn rhodd.
Ymdrin â TAW
Lle mae taliad nawdd yn cynnwys TAW, bydd p'un a ddylid rhoi gwybod am yr elfen TAW fel rhan o'r nawdd yn dibynnu ar y ffeithiau. Er enghraifft, pe byddai'r blaid wedi bod yn atebol am y TAW pe na bai wedi'i thalu, yna mae ei thalu o fudd i'r blaid a dylid rhoi gwybod amdani fel nawdd.
Nawdd gan gwmnïau
Lle mae cwmni yn gwneud taliad a gaiff ei drin fel nawdd, ystyrir bod y swm cyfan yn rhodd o dan gyfraith etholiadol.
Felly bydd angen i gwmnïau sicrhau eu bod wedi cydymffurfio ag unrhyw reolaethau cymwys ynghylch gwneud rhodd wleidyddol o dan gyfraith cwmnïau.
Beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhodd o ffynhonnell nas caniateir neu roddwyr anhysbys?
Os byddwch yn derbyn rhodd ac nad yw’n un a ganiateir, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 30 diwrnod. Os bydd eich sefydliad yn cadw’r rhodd nas caniateir ar ôl y 30 diwrnod, ystyrir eich bod wedi’i derbyn.
Os yw eich sefydliad yn derbyn rhoddion nas caniateir, gallech fod yn destun cosbau sifil. Efallai bod yr ymgyrchydd a’r person cyfrifol hefyd wedi cyflawni troseddau. Bydd unrhyw doriad posibl yn cael ei drin yn unol â’n Polisi Gorfodi.
Os ydych wedi derbyn rhodd nas caniateir, dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosibl.
Sut ydych chi’n dychwelyd rhodd nas caniateir?
Os ydych yn gwybod pwy yw’r rhoddwr, mae’n rhaid i chi ei dychwelyd iddo/iddi o fewn 30 diwrnod o dderbyn y rhodd.1
Os daw’r rhodd o ffynhonnell anhysbys (er enghraifft, rhodd arian o £600 yn ddienw), mae’n rhaid i chi, o fewn 30 diwrnod o’i derbyn, ei dychwelyd i:
- y sawl a drosglwyddodd y rhodd i chi; neu
- y sefydliad ariannol a ddefnyddiwyd i drosglwyddo’r rhodd2
Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r naill na’r llall, rhaid i chi anfon y rhodd i’r Comisiwn Etholiadol.3 Byddwn yn talu’r rhodd i’r Gronfa Gyfunol a reolir gan Drysorlys EF.4 Cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddo’r arian hwn fel y gallwn roi manylion ein banc i chi.
Os byddwch wedi ennill llog ar y rhodd cyn i chi ei dychwelyd, gallwch ei gadw. Ni chaiff y llog hwn ei drin fel rhodd ac nid oes angen rhoi gwybod amdano.5
Beth sy’n rhaid i chi ei gofnodi?
Os ydych yn cael rhodd gan ffynhonnell nas caniateir, mae’n rhaid i chi ei ddychwelyd a chofnodi’r manylion hyn:6
- y swm (ar gyfer rhodd ariannol) neu natur a gwerth y rhodd (ar gyfer rhodd anariannol)
- os nad oeddech yn gallu nodi hunaniaeth y rhoddwr, manylion o sut gwnaed y rhodd
- os ydych wedi nodi hunaniaeth y rhoddwr, ond nad oedd wedi’i ganiatau ar yr adeg perthnasol, enw a chyfeiriad y rhoddwr
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y dychweloch y rhodd
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)
Bydd angen y manylion hyn arnoch pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am y rhodd a ddychwelwyd.
- 1. Atodlen 11, paragraff 7 ac adran 56(2)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 7 ac adran 57(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 7 ac a.57(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 7 ac a.57(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 4(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 11(2) a (3) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
Mae yna hefyd derfynau amser o ran erbyn pryd y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ymgyrchu.
Derbyn anfonebau gan gyflenwyr
Mae’n rhaid i chi gael eich holl anfonebau ar gyfer eich gwariant ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod o’r etholiad.1
Os na chewch anfoneb o fewn 30 diwrnod, ni ddylech ei thalu ar ôl yr amser hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech roi gwybod i’ch cyflenwyr am hyn.
Rhaid i chi gofnodi manylion anfonebau nad ydynt wedi dod i law erbyn y dyddiad cau hwn yn eich ffurflen dreth.2
Talu anfonebau gan gyflenwyr
Mae’n rhaid i chi dalu’ch holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod o’r etholiad.3
Yn yr un modd, os na fyddwch yn talu anfoneb a dderbyniwyd ar amser o fewn 60 diwrnod, rhaid i chi beidio â’i thalu ar ôl yr amser hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech roi gwybod i’ch cyflenwyr am hyn.
Rhaid i chi gofnodi manylion eitemau nad ydynt wedi’u talu erbyn y dyddiad cau hwn yn eich ffurflen wariant.4
Sylwer, os yw’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o’r uchod yn disgyn ar benwythnos neu wyliau cyhoeddus, bydd y dyddiad cau yn symud i’r diwrnod gwaith nesaf.5 Mae hyn wedi’i gynnwys yn y cyfrifiadau dyddiad cau canlynol.
| Dyddiad diweddaraf i | |
|---|---|
| Derbyn eich anfonebau | Talu eich anfonebau |
| 6 Mehefin 2026 | 6 Gorffennaf 2026 |
Caniatâd i dalu
Gelwir cael gorchymyn llys i dalu anfonebau a dderbynnir yn hwyr neu sy’n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau yn ganiatâd i dalu. Mae’n drosedd gwneud taliad am yr hawliadau hyn heb gael caniatâd i dalu.6
Gallwch chi neu’r cyflenwr cael caniatâd i dalu drwy wneud cais i’r llys perthnasol i gael dyfarniad llys neu orchymyn talu.
- 1. Adran 92(1) a (7) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.96(2)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.92(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.96(2)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.92(7) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.92(3) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
Cwblhau eich ffurflen
Os ydych wedi cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi, ar ôl yr etholiad, roi gwybod i ni am eich rhoddion a’ch gwariant os gwnaethoch wario mwy na £10,0000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ffurflen gwariant a rhoddion yw dydd Iau 7 Awst 2026.
Rydym yn darparu ffurflen dempled i chi ei defnyddio i’ch helpu i gadw cofnodion a chwblhau eich ffurflen dreth. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ein templed i sicrhau eich bod yn darparu’r manylion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod a’i chyflwyno i ni wedi’i chwblhau trwy e-bostio [email protected] Fel arall gallwch anfon y ffurflen atom drwy’r post.
Fel arall, gallwch gyflwyno’ch ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.
Os ydych chi’n postio’ch ffurflen dreth, rydym yn argymell eich bod chi’n ei phostio mewn pryd i gyrraedd dim hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau.
Gwariant
Yn eich ffurflen mae’n rhaid i chi gynnwys:
- manylion unrhyw wariant a ysgwyddir gennych ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £2002
- manylion unrhyw wariant tybiannol (nid oes angen anfonebau na derbynebau)
- manylion unrhyw anfonebau na dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau neu eitemau na thalwyd erbyn y dyddiad cau3
- manylion unrhyw ymgyrchu ar y cyd, lle bo angen
Ar gyfer pob eitem o wariant, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:
- ar gyfer beth oedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
- enw a chyfeiriad y cyflenwr
- swm neu werth y gwariant a ysgwyddwyd
- y dyddiad y gwnaethpwyd y gwariant
- y dyddiad y gwnaed yr hawliad am daliad (os yw’n berthnasol)
- y dyddiad y gwnaed y taliad (os yw’n berthnasol)
Rhoddion
Yn eich ffurflen dreth rhaid i chi roi gwybod am roddion a gawsoch ar ôl i chi gofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid. Dim ond rhoddion o werth penodol a gawsoch sydd angen i chi eu cynnwys tuag at eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleidir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion tuag at eich gwariant ymgyrchu a reoleiddir a gawsoch cyn cychwyn y cyfnod a reoleiddir, os oeddech eisoes wedi’ch cofrestru.
Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn ar ein cofrestr gyhoeddus. Nid yw’r manylion hyn yn cynnwys cyfeiriadau unigolion sy’n rhoi rhoddion.
Rhoddion a ganiateir
Rhaid i chi roi gwybod am roddion pryd bynnag y bydd y cyfanswm a dderbynnir gan y rhoddwr tuag at fodloni’ch gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn fwy na £7,500. Gall hyn fod yn rhodd unigol o dros £7,500, neu roddion lluosog (dros £500) sy’n dod i gyfanswm o fwy na £7,500.4 Wrth adio rhoddion lluosog gan yr un rhoddwr dylech dim ond cynnwys rhoddion sydd dros £500.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am gyfanswm gwerth unrhyw roddion eraill a dderbynioch rhwng £500 a £7,500 a dderbyniwyd at ddiben bodloni’r gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.5 Rhoddion yw’r rhain nad ydynt yn adroddadwy’n unigol gan nad yw’r cyfanswm yn fwy na £7,500. Does dim angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth arall i ni am y rhoddion hyn.
Rhoddion na chaniateir
Rhaid i chi roi gwybod am bob rhodd dros £500 gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys a dderbynnir at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.6 Nid oes angen i chi adio rhoddion nas caniateir.
Pa fanylion y mae’n rhaid i chi eu hadrodd?
Ar gyfer rhoddion rydych wedi’u derbyn sydd (neu sy’n adio i fyny i) dros £7,500, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr7 (gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am ganllawiau ar y manylion y mae’n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol8
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbynioch y rhodd9
Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:
- enw’r rhoddwr, os yw’n hysbys, neu’r ffordd y gwnaed y rhodd10
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol11
- y dyddiad y cawsoch y rhodd12
- y dyddiad y dychweloch y rhodd13
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)14
Datganiad
Ochr yn ochr â’r ffurflen dreth, rhaid i’r person cyfrifol ddatgan:
- mae’r ffurflen yn gyflawn ac yn gywir15
- talwyd yr holl daliadau ganddynt hwy, neu gan berson a awdurdodwyd ganddynt16
- derbyniwyd yr holl roddion a dderbyniwyd gan roddwyr a ganiateir17
- ni dderbyniwyd unrhyw roddion adroddadwy eraill gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid18
Mae’n drosedd i’r person cyfrifol wneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll.19
- 1. Adran 96(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.96(2)(a) a (3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.96(2)(b) a (c) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.96(2)(d), ac Atodlen 11, para. 10(2)(a) a (b) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 10(3) a para. 1(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 9 PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 10(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 10(1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 11, para. 10(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 11, para. 11(2)(a) a (3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 11, para. 11(2)(b) a (3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 11
- 12. Atodlen 11, para. 11(2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 12
- 13. Atodlen 11, para. 11(2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 13
- 14. Atodlen 11, para. 11(2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 14
- 15. A.99(2)(b)(i) PPERA ↩ Back to content at footnote 15
- 16. A.99(2)(b)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 16
- 17. A.99(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 17
- 18. A.99(3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 18
- 19. A.99(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 19
Termau allweddol a ddefnyddiwn yn y canllawiau hyn
Rhodd
O dan Ddeddf Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000, rhodd yw arian, nwyddau neu wasanaethau a roddir i ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid.
- heb godi tâl neu ar delerau anfasnachol
- at ddiben bodloni gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir
- gyda gwerth o dros £500.1
Rhai enghreifftiau o roddion:
- rhodd o arian neu eiddo
- nawdd i ddigwyddiad neu gyhoeddiad
- tanysgrifiad neu daliadau tadogaeth
- defnydd o swyddfa am ddim neu am gost ostyngedig
Gweler Beth yw rhodd? am ragor o wybodaeth.
Caniatâd talu
Rhaid i chi dderbyn a thalu anfonebau am wariant ymgyrchu a reoleiddir o fewn terfynau amser penodol. Os bydd anfonebau’n parhau i fod heb eu talu ar ôl y dyddiad cau, rhaid i chi, neu’r cyflenwr, gael gorchymyn llys neu farn sy’n eich galluogi i’w talu.2 Caniatâd i dalu yw’r enw ar yr awdurdodiad hwn.
Gweler Terfynau amser ar gyfer cael a thalu anfonebau am ragor o wybodaeth.
Gwerth marchnadol
Y pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am eitem, nwyddau neu wasanaeth pe bai’r eitem ar werth yn y farchnad agored.3
Trothwy cofrestru
Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gofrestru gyda’r Comisiwn.4 Ar ôl cofrestru, byddant yn ymddangos ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Caniataol
Rydym yn defnyddio’r term caniataol i gyfeirio at roddion y caniateir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau eu derbyn o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Cyfranogwyr/manylion perthnasol
O dan y gyfraith, mae’n rhaid i rai sefydliadau roi enwau’r bobl sydd ar eu cyrff neu bwyllgorau llywodraethu pan fyddant yn cofrestru gyda’r Comisiwn. Yn ôl y gyfraith, gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr perthnasol’ neu ‘fanylion perthnasol’ y sefydliad.5
Gweler Cyfranogwyr perthnasol a manylion perthnasol am ragor o wybodaeth.
Y person cyfrifol
Yr unigolyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid yn dilyn y gyfraith ar wariant, rhoddion ac adrodd sydd wedi’i nodi yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.6
Gweler Person cyfrifol am ragor o wybodaeth.
- 1. Atodlen 11, paragraff 2(1), para. 1(4) a para. 4(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.92(4) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A.160(1) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A.94(3) a (5)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A.88(3B) a (3C) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A.85(7), a.88(3)(c)(ii) ac a.88(3)(d)(ii) PPERA ↩ Back to content at footnote 6