| Argraffu'r canllawiau llawn

Awdurdodi a thalu gwariant ymgyrchu

O dan y gyfraith dim ond unigolion penodol all awdurdodi a gwneud taliadau ar ran ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.

Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw’n blaid wedi’i gofrestru, dim ond y bobl ganlynol sy’n cael gwneud taliadau am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir:

  • y person cyfrifol sydd wedi cofrestru gyda ni
  • unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig gan y person cyfrifol1

Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi gan y person cyfrifol i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.

Ystyr ‘mynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian. Rydych chi’n ysgwyddo gwariant pan fyddwch chi’n ymrwymo i drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol i dalu am yr eitem, nwyddau neu wasanaeth y maent wedi’i ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych chi’n llogi cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych chi’n llofnodi contract i rentu swyddfa.

Mae’n rhaid cael anfoneb neu dderbynneb ar gyfer pob taliad dros £200.2

Pan fydd person awdurdodedig yn gwneud taliad o dros £200, rhaid iddo gyflwyno’r canlynol:

  • yr anfoneb neu’r dderbynneb atodol
  • hysbysiad eu bod wedi talu

i’r person cyfrifol cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud y taliad.3

Mae’r deddfau hyn yn sicrhau y gellir rheoli’r gwariant a’i gofnodi a rhoi gwybod amdano’n gywir. Dylech sicrhau bod eich staff, gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo costau.

Mae yna hefyd derfynau amser o ran erbyn pryd y mae’n rhaid i’r person cyfrifol dderbyn pob anfoneb ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025