Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio
Nid yw’r gweithgareddau canlynol yn cael eu rheoleiddio:
- costau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy’n ymddangos mewn papur newydd, mewn cyfnodolyn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig1
- costau sy’n gysylltiedig â chyfieithu unrhyw beth o’r Saesneg i’r Gymraeg neu o’r Gymraeg i’r Saesneg2
- costau y gellir eu priodoli’n rhesymol i anabledd unigolyn3
- amser gwirfoddolwyr4
- treuliau personol rhesymol a ysgwyddir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer llety neu anghenion personol eraill yr unigolyn5
- treuliau rhesymol a ysgwyddwyd y gellir eu priodoli’n rhesymol i ddiogelu unigolion neu eiddo6
- unrhyw beth sy’n cyfrif fel gwariant ymgyrchu gan blaid wleidyddol gofrestredig neu dreuliau etholiadol ymgeisydd7
Cyfieithu deunydd i neu o’r Gymraeg
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir gennych os caiff deunydd rydych chi’n ei gyhoeddi ei gyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac i’r gwrthwyneb yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Rhaid i chi wneud asesiad gonest o’r costau sylfaenol pe bai dim ond un iaith yn cael ei defnyddio a dylech ddefnyddio hyn i bennu’r costau ychwanegol.
Er enghraifft, rydych chi’n cynhyrchu taflen ddwyieithog sy’n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r un testun ac felly mae ychydig dudalennau’n hirach nag y byddai pe bai’r daflen wedi’i chynhyrchu mewn un iaith yn unig.
Nid yw ffi’r cyfieithydd na chost dylunio, argraffu a phostio’r tudalennau ychwanegol yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Bydd unrhyw gostau cyfieithu ieithoedd eraill yn cyfrif tuag at eich terfynau gwariant.
Treuliau a ysgwyddwyd mewn perthynas ag anabledd unigolyn
Nid yw unrhyw gostau cymorth ychwanegol i bobl anabl sy’n gweithio ar unrhyw weithgarwch a reoleiddir, neu i bobl anabl gael mynediad at neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch a reoleiddir rydych chi’n eu trefnu, yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant chwaith.
Er enghraifft, cynhyrchu cyflenwad o daflenni ymgyrch Braille i’w dosbarthu i aelodau dall o’r cyhoedd neu logi offer wedi’i addasu fel y gall aelodau anabl o’r cyhoedd gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus.
Amser gwirfoddolwyr
Nid oes angen i chi gynnwys yr amser y mae gwirfoddolwyr yn ei dreulio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir fel treuliau a reoleiddir. Fodd bynnag, bydd gwario arian ar unrhyw adnoddau a ddarparwch i’ch gwirfoddolwyr i gynnal gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir wedi’i gynnwys. Er enghraifft, os caiff minibws ei logi i gludo gwirfoddolwyr i gynnal canfasio, bydd cost y llogi yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Weithiau efallai na fyddwch chi’n siŵr a yw rhywun yn wirfoddolwr neu a ddylid trin eu hamser fel gwariant tybiannol. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i’r rhai y mae’n eu cyflawni i chi.
Mae’n debygol y byddan nhw’n wirfoddolwr os, er enghraifft, nad yw’r amser maen nhw’n ei dreulio ar eich ymgyrch yn cael ei dalu gan eu cyflogwr (oni bai mai eu gwyliau blynyddol arferol ydyw). Os ydyn nhw’n defnyddio offer neu ddeunyddiau arbenigol, dylech chi ystyried a yw eu defnydd yn wariant tybiannol.
Treuliau personol
Ni fydd treuliau rhesymol a ysgwyddwyd gan unigolyn ar deithio, llety neu anghenion personol eraill mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn cael eu rheoleiddio.
Er enghraifft, os yw unigolyn yn teithio i ddinas arall am y penwythnos i ymuno â’ch ymgyrch leol ac yn talu’r costau hyn eu hunain, ni fydd y costau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Fodd bynnag, os byddwch yn ad-dalu unigolyn am eu treuliau personol, bydd y treuliau hyn yn wariant ymgyrchu a reoleiddir a rhaid eu hadrodd.
Treuliau diogelwch
Ni fydd treuliau rhesymol y gellir eu priodoli i ddiogelu unigolion neu eiddo yn cael eu rheoleiddio.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 2(1)(a) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 8A, para. 2(1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 8A, para. 2(1)(d) PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 8A, para. 2(1)(e) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 8A, para. 2(1)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 8A, para. 2(1)(f) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 87 PPERA ↩ Back to content at footnote 7