Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Sut ydych chi’n gwybod a yw gwariant yn cael ei reoleiddio?
Mae’r deddfau ymgyrchu y rhai nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol i wariant ar beth a elwir gennym yn ‘weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Mae’r gyfraith etholiadol yn nodi’r gweithgarwch a fydd ac na fydd yn cael eu rheoleiddio ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Rhaid i bob ymgyrchydd nad yw’n blaid gadw cofnodion o’u gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’w terfyn gwariant. Os ydych chi’n cofrestru gyda ni, bydd angen i chi hefyd restru a rhoi gwybod i ni am eich gwariant ar y gweithgareddau hyn ar ôl yr etholiad.
Y gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio yw:1
- llunio neu gyhoeddi deunydd sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- cynadleddau i’r wasg a digwyddiadau i’r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
- trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch
- ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Gelwir y treuliau hyn yn ‘wariant a reoleiddir’ o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).
I asesu a yw’r gwariant ar un o’r gweithgareddau ymgyrchu hyn yn cael ei reoleiddio, rydym yn edrych ar ddau ffactor:
- Y ‘prawf diben’
- a yw’r gweithgaredd wedi’i anelu at y cyhoedd neu’n cynnwys y cyhoedd
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest a rhesymol, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Beth yw’r prawf diben?
Ni chaiff gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar un o’r gweithgarwch uchod ei reoleiddio oni bai y gellir yn rhesymol ystyried ei fod wedi’i fwriadu i hyrwyddo neu gaffael llwyddiant etholiadol:
- un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
- un neu fwy o ymgeiswyr rhestr pleidiau
- pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy’n cefnogi neu ddim yn cefnogi polisïau penodol neu
- categori arbennig arall o ymgeiswyr
drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad sydd ar ddod i bleidleisio mewn ffordd benodol2
Mae p’un a ellir yn rhesymol ystyried bod gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn cael ei adnabod yn gyffredin fel y ‘prawf diben’. Dim ond os yw’r gweithgaredd yn bodloni’r prawf diben y bydd gwariant ar unrhyw un o weithgareddau’r ymgyrch yn cael ei reoleiddio.
Ystyr ‘y cyhoedd’
Dim ond y prawf diben sydd angen i rai gweithgareddau eu bodloni er mwyn cael eu rheoleiddio, tra bydd gweithgareddau eraill ond yn cael eu rheoleiddio os ydynt hefyd wedi’u hanelu at y cyhoedd, neu’n cynnwys y cyhoedd. Dyma restr ohonynt:
- llunio neu gyhoeddi deunydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o’r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy’n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau’r cyhoedd
- ralïau cyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus eraill
Nid yw’r term ‘y cyhoedd’ yn cael ei ddiffinio yn y gyfraith etholiadol ac felly mae angen ei ystyried yn ei ystyr arferol. Bydd angen i chi ystyried cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer pob un o’r gweithgareddau hyn. Mae canllawiau ar ystyr ‘y cyhoedd’ wedi’u cynnwys yn y tudalennau gweithgarwch ymgyrchu.
- 1. Atodlen 8A, paragraff 1 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 85(2) PPERA ↩ Back to content at footnote 2