| Argraffu'r canllawiau llawn

Cwblhau eich ffurflen

Os ydych wedi cofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi, ar ôl yr etholiad, roi gwybod i ni am eich rhoddion a’ch gwariant os gwnaethoch wario mwy na £10,0000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ffurflen gwariant a rhoddion yw dydd Iau 7 Awst 2026.

Rydym yn darparu ffurflen dempled i chi ei defnyddio i’ch helpu i gadw cofnodion a chwblhau eich ffurflen dreth. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ein templed i sicrhau eich bod yn darparu’r manylion sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod a’i chyflwyno i ni wedi’i chwblhau trwy e-bostio [email protected] Fel arall gallwch anfon y ffurflen atom drwy’r post.

Fel arall, gallwch gyflwyno’ch ffurflen ar CPE Ar-lein. Os ydych yn cyflwyno’ch gwariant a’ch rhoddion ar CPE Ar-lein, nodwch fod y ffurflen gwariant a’r adroddiad rhoddion yn ddogfennau ar wahân.

Os ydych chi’n postio’ch ffurflen dreth, rydym yn argymell eich bod chi’n ei phostio mewn pryd i gyrraedd dim hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau.

Gwariant

Yn eich ffurflen mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • manylion unrhyw wariant a ysgwyddir gennych ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad dros £2002
  • manylion unrhyw wariant tybiannol (nid oes angen anfonebau na derbynebau)
  • manylion unrhyw anfonebau na dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau neu eitemau na thalwyd erbyn y dyddiad cau3
  • manylion unrhyw ymgyrchu ar y cyd, lle bo angen

Ar gyfer pob eitem o wariant, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:

  • ar gyfer beth oedd y gwariant, er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • swm neu werth y gwariant a ysgwyddwyd
  • y dyddiad y gwnaethpwyd y gwariant
  • y dyddiad y gwnaed yr hawliad am daliad (os yw’n berthnasol)
  • y dyddiad y gwnaed y taliad (os yw’n berthnasol)

Rhoddion

Yn eich ffurflen dreth rhaid i chi roi gwybod am roddion a gawsoch ar ôl i chi gofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid. Dim ond rhoddion o werth penodol a gawsoch sydd angen i chi eu cynnwys tuag at eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleidir. Mae hyn yn cynnwys rhoddion tuag at eich gwariant ymgyrchu a reoleiddir a gawsoch cyn cychwyn y cyfnod a reoleiddir, os oeddech eisoes wedi’ch cofrestru.

Rydym yn cyhoeddi manylion y rhoddion hyn ar ein cofrestr gyhoeddus. Nid yw’r manylion hyn yn cynnwys cyfeiriadau unigolion sy’n rhoi rhoddion.

Rhoddion a ganiateir

Rhaid i chi roi gwybod am roddion pryd bynnag y bydd y cyfanswm a dderbynnir gan y rhoddwr tuag at fodloni’ch gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn fwy na £7,500. Gall hyn fod yn rhodd unigol o dros £7,500, neu roddion lluosog (dros £500) sy’n dod i gyfanswm o fwy na £7,500.4  Wrth adio rhoddion lluosog gan yr un rhoddwr dylech dim ond cynnwys rhoddion sydd dros £500.

Rhaid i chi hefyd roi gwybod am gyfanswm gwerth unrhyw roddion eraill a dderbynioch rhwng £500 a £7,500 a dderbyniwyd at ddiben bodloni’r gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.5  Rhoddion yw’r rhain nad ydynt yn adroddadwy’n unigol gan nad yw’r cyfanswm yn fwy na £7,500. Does dim angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth arall i ni am y rhoddion hyn.

Rhoddion na chaniateir

Rhaid i chi roi gwybod am bob rhodd dros £500 gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys a dderbynnir at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.6   Nid oes angen i chi adio rhoddion nas caniateir.

Pa fanylion y mae’n rhaid i chi eu hadrodd?

Ar gyfer rhoddion rydych wedi’u derbyn sydd (neu sy’n adio i fyny i) dros £7,500, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:

  • y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr7  (gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am ganllawiau ar y manylion y mae’n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
  • swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol8
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd
  • y dyddiad y derbynioch y rhodd9

Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:

  • enw’r rhoddwr, os yw’n hysbys, neu’r ffordd y gwnaed y rhodd10
  • swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol11
  • y dyddiad y cawsoch y rhodd12
  • y dyddiad y dychweloch y rhodd13
  • y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)14

Datganiad

Ochr yn ochr â’r ffurflen dreth, rhaid i’r person cyfrifol ddatgan:

  • mae’r ffurflen yn gyflawn ac yn gywir15
  • talwyd yr holl daliadau ganddynt hwy, neu gan berson a awdurdodwyd ganddynt16
  • derbyniwyd yr holl roddion a dderbyniwyd gan roddwyr a ganiateir17
  • ni dderbyniwyd unrhyw roddion adroddadwy eraill gan yr ymgyrchydd nad yw’n blaid18  

Mae’n drosedd i’r person cyfrifol wneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n fyrbwyll.19

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2025