Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Rhoi’r prawf diben ar waith
Rhaid cymhwyso’r prawf diben ar yr adeg y caiff y gwariant ar y gweithgarwch ei ysgwyddo. Os ysgwyddwyd y gwariant cyn y cyfnod a reoleiddir ond bod y gweithgarwch yn digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid cymhwyso’r prawf diben ar yr adeg mae’r gweithgarwch yn digwydd.
Er nad yw’r rhain wedi’u nodi yn y gyfraith, mae nifer o ffactorau a all helpu i benderfynu a ellir ystyried yn rhesymol bod gweithgarwch ymgyrchu wedi’i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod. Dyma restr ohonynt:
- Galwad i weithredu
- Tôn
- Cyd-destun ac amseru
- Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Ni fydd un ffactor unigol ar ei ben ei hun yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu penodol yn bodloni’r prawf diben ai peidio. Yn hytrach, yr holl ffactorau perthnasol gyda’i gilydd fydd yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
Mae’r Comisiwn yn defnyddio’r ffactorau hyn wrth ystyried a yw gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben.
1. Galwad i weithredu
Mae ymgyrch sy’n cynnwys galwad ar bleidleiswyr i weithredu drwy bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy’n hyrwyddo llwyddiant etholiadol ar gyfer plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni’r prawf diben. Gall yr alwad i weithredu fod yn alwad uniongyrchol, neu gall fod yn ymhlyg.
Mae ymgyrch sy’n hyrwyddo pleidiau neu ymgeiswyr penodol yn uniongyrchol, neu sy’n hyrwyddo rhai pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr dros rai eraill, yn debygol o fodloni’r prawf diben.
Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch gyhoeddus heb alwad uniongyrchol neu ymhlyg i bleidleiswyr weithredu yn bodloni’r prawf diben.
2. Tôn
Mae ymgyrch sy’n gadarnhaol neu’n negyddol tuag at blaid neu bleidiau gwleidyddol, categori o ymgeiswyr neu bolisi sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy’n gwneud i bleidleisiwr feddwl am blaid wleidyddol benodol neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried fel un y bwriedir iddi ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni’r prawf diben.
3. Cyd-destun ac amseru
Mae ymgyrch ar fater neu bolisi sy’n fater amlwg ar yr adeg y cynhelir y gweithgarwch ymgyrchu, sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy’n hyrwyddo llwyddiant etholiadol plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy’n dechrau’n agos at ddyddiad etholiad ac sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn fwy tebygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae’n annhebygol y bydd ymgyrch barhaus yn cael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.
4. Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Dim ond os bydd person rhesymol yn ystyried bod y gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd i ddod y bydd gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni’r prawf diben.
Mae’r tudalennau canlynol yn rhoi manylion am y ffactorau y dylech eu hystyried wrth asesu a yw eich ymgyrchu’n bodloni’r prawf diben.