| Argraffu'r canllawiau llawn

Pryd mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol?

Y cyfnod a reoleiddir

Bydd gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar weithgareddau sy’n cael eu rheoleiddio yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd yn ystod cyfnod penodol cyn yr etholiad. Gelwir y cyfnod hwn yn ‘gyfnod a reoleiddir’.

Mae’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd 2026 yn cychwyn ar 7 Ionawr 2026, ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio, sef 7 Mai 2026.1

Bydd unrhyw wariant rydych chi wedi’i ysgwyddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. Mae’n cynnwys: 

  • gwariant ar eitemau neu wasanaethau a brynir cyn bod y cyfnod a reoleiddir yn cychwyn, ond a ddefnyddir yn ystod y cyfnod hwnnw2
  • gwerth yr eitemau neu’r gwasanaethau a roddir i chi am ddim, neu ar ddisgownt anfasnachol o fwy na 10%, ac yna a ddefnyddir yn eich ymgyrch (gweler ‘Gwariant tybiannol’)3
  • gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd pan fyddwch chi’n ymgyrchu ynghyd ag eraill mewn trefniadau penodol (ymgyrchu ar y cyd)
  • gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir sy’n ymwneud ag etholiadau eraill yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir, megis gwariant mewn unrhyw etholiadau lleol neu isetholiadau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025