| Argraffu'r canllawiau llawn

Sut i ddefnyddio’r canllawiau hyn

Mae ein canllawiau wedi’u rhannu’n adrannau, gyda phob un yn ymdrin â phwnc gwahanol o fewn y rheolaethau ar ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.

Pan fyddwch yn clicio ar ddolen yn y rhestr llywio ar y dde, bydd yn datgelu’r dolenni i’r gwahanol feysydd canllaw ar gyfer pob adran. Pan fyddwch yn cyrraedd diwedd tudalen, gallwch ddefnyddio’r ddolen ar waelod yr ochr dde i symud i’r dudalen nesaf o ganllawiau.

Os hoffech ddarllen trosolwg o sut mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol yn etholiadau’r Senedd, dylech ddarllen:

Os ydych chi’n gwario arian yn etholiad y Senedd, dylech ddarllen yr adrannau canlynol i ddeall sut y bydd y deddfau’n berthnasol i chi:
 

AdranBeth mae’n ei gynnwys:
Pryd mae’r deddfau o ran ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn berthnasol?
  • Y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad y Senedd 2026
  • Pa wariant a ddefnyddir yn ystod y cyfnod hwn sy’n cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
Sut ydych chi’n gwybod a yw gwariant yn cael ei reoleiddio?
  • Y gweithgarwch sy’n cael ei reoleiddio o dan y gyfraith
  • Sut i asesu a yw eich gwariant ar un o’r gweithgareddau hyn wedi’i reoleiddio (y prawf diben ac wedi’i wneud ar gael i’r cyhoedd)
Rhoi’r prawf diben ar waith
  • Y ffactorau y dylech eu hystyried wrth asesu a yw eich gweithgareddau’n bodloni’r prawf diben
  • Enghreifftiau ac astudiaethau achos o ymgyrchoedd
     
Pa fathau o weithgarwch all gael eu rheoleiddio?
  • Enghreifftiau o gostau y dylid eu cynnwys fel rhan o’ch gwariant ar bob gweithgaredd
  • Gorbenion, costau staff, TAW
  • Cyfrifyddu am wariant a ysgwyddwyd yn ystod a thu allan i’r cyfnod a reoleiddir
  • Eitemau nas defnyddiwyd ac eitemau a ailddefnyddiwyd
Gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio
  • Y gweithgareddau nad ydynt wedi’u rheoleiddio ac na fyddant yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant
Faint gallwch ei wario?
  • Faint allwch chi ei wario yn etholiad y Senedd ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir
Gwariant tybiannol
  • Pa wariant sy’n cael ei drin fel gwariant tybiannol
  • Prisio ac adrodd ar wariant tybiannol
Ymgyrchu ar y cyd
  • Egwyddorion ymgyrchu ar y cyd

Os ydych chi’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn etholiad y Senedd, dylech hefyd ddarllen yr adrannau canlynol sy’n berthnasol i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau:

AdranBeth mae’n ei gynnwys:
Cofrestru
  • Pan fydd angen i chi gofrestru fel ymgyrchydd nad yw’n blaid
  • Gofynion cofrestru
  • Cyfrifoldebau’r person cyfrifol
  • Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru
  • Am ba hyd y byddwch chi’n parhau i fod wedi’ch cofrestru
Awdurdodi a thalu gwariant ymgyrchu
  • Y rheolaethau ynghylch pwy all dalu am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir
Rhoddion
  • Derbyn rhoddion fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid
  • Gan bwy y gallwch chi dderbyn rhoddion
  • Arferion da ar gyfer rhoddion cyllido torfol
     
Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu anfonebau
  • Terfynau amser ar gyfer derbyn a thalu eich anfonebau
  • Cael gorchymyn llys i wneud taliadau hwyr
     
Cwblhau eich ffurflen
  • Pa fanylion sydd eu hangen yn eich ffurflen gwariant a rhoddion
  • Dolenni i’r ffurflen adrodd
  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ffurflen
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025