| Argraffu'r canllawiau llawn

Trosolwg o'r gofynion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau

Os ydych chi’n ystyried ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r deddfau y mae’n rhaid i chi eu dilyn, sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn. Bydd eich gofynion a’ch cyfrifoldebau adrodd yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod hwn.

Mae eich gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn cynnwys:

  • gwariant a delir gennych chi, gan gynnwys gwariant ar eitemau neu wasanaethau a brynir cyn bod y cyfnod a reoleiddir yn cychwyn, ac a ddefnyddir yn ystod y cyfnod hwnnw1
  • gwerth rhywbeth a ddarperir i chi rydych chi’n ei ddefnyddio yn yr ymgyrch (gwariant tybiannol)
  • gwariant gan eich partneriaid ymgyrchu ar y cyd pan fyddwch chi’n ymgyrchu ynghyd ag eraill mewn trefniadau penodol (ymgyrchu ar y cyd)
  • gwariant ar weithgarwch a reoleiddir sy’n ymwneud ag etholiadau eraill yng Nghymru yn ystod y cyfnod a reoleiddir, megis gwariant mewn unrhyw etholiadau lleol neu isetholiadau.

Ni ddylech gynnwys gwariant sy’n dod o fewn rheolaethau gwariant yr ymgeisydd neu’r blaid wleidyddol, na gwariant ar weithgareddau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio. Mae’r gweithgarwch a fydd a’r gweithgarwch na fydd yn cael ei reoleiddio wedi’u manylu yn y canllawiau hyn.

Y terfyn gwariant isaf y mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ymgyrchu yn etholiadau’r Senedd yw £700. Gall unrhyw un wario hyd at £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, ond dim ond rhai unigolion a sefydliadau yn y DU all wario mwy na hyn.2  Dyma unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru gyda ni. Mae’r rhestr lawn o unigolion a sefydliadau cymwys i’w gweld yn Pwy all gofrestru?

Os ydych chi’n gymwys i gofrestru, gallwch chi wario hyd at £10,000 yng Nghymru.3  Gall ymgyrchwyr sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 gofrestru gyda ni i gael eu cynnwys ar y gofrestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Rydym yn galw’r rhain yn ‘ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau’.

Gall ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau wario uchafswm o £30,000 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yng Nghymru a rhaid iddynt adrodd ar eu gwariant a’u rhoddion i ni ar ôl yr etholiad.4

Ar gyfer pob ymgyrchydd nad yw’n blaid, mae’n rhaid i chi hefyd ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol. Mae’r rhain yn berthnasol pryd bynnag y cynhyrchir deunydd etholiadol penodol, waeth faint rydych chi’n ei wario neu a ydych chi wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol.

Mae’r tabl canlynol yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ôl y swm y maent yn bwriadu ei wario ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Faint ydych chi'n bwriadu ei wario ar ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir?Ydych chi'n gymwys i wario'r swm hwn?A oes rhaid i chi gofrestru cyn gwario’r swm hwn?Gofynion adrodd
Hyd at £700 yng NghymruGall unrhyw un wario hyd at £700 ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddirNac ydyDim. Rhaid i chi barhau i ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol
Rhwng £700 a £10,000 yng Nghymru

Dim ond os ydych chi’n gymwys i gofrestru

Gweler Pwy all gofrestru? am y rhestr o unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru

Nac ydyDim. Rhaid i chi barhau i ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol
Mwy na £10,000 yng Nghymru

Dim ond os ydych yn ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid

Gweler Pwy all gofrestru? am y rhestr o unigolion a sefydliadau sy’n gymwys i gofrestru

Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru os ydych chi’n bwriadu gwario mwy na £10,000 yn yr Alban. Gweler ein canllawiau i’r rhai nad ydynt yn bleidiau ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban

Ydy
Os ydych chi wedi’ch cofrestru gallwch wario hyd at £30,000 yng Nghymru

Mae’n rhaid i chi gyflwyno adroddiad gwariant a rhoddion ar ôl yr etholiad

Rhaid i chi hefyd ddilyn y deddfau ar gynnwys argraffnodau ar ddeunydd etholiadol

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025