Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ffurflen cyfeiriad cartref

Er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys, rhaid i chi gyflwyno ffurflen cyfeiriad cartref 1  wedi'i chwblhau gyda'ch ffurflen enwebu, eich ffurflen cydsynio ag enwebiad a'ch ernes. 

Rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:

  • Eich enw llawn.
  • Eich cyfeiriad cartref llawn.

Eich cyfeiriad cartref:

  • rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
  • ni ddylai gynnwys talfyriadau
  • rhaid mai eich cyfeiriad cartref cyfredol ydyw 
  • ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fyddwch yn rhedeg busnes o'ch cartref)

Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref

Gallwch ddewis i'ch cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.  

Os felly, rhaid i chi lofnodi datganiad na ddylid cyhoeddi cyfeiriad eich cartref a'ch bod wedi'ch cofrestru ar y gofrestr etholwyr ar gyfer ardal etholiadol mewn perthynas â chyfeiriad o fewn ardal yr heddlu.

Dim ond os na fyddwch am i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi y bydd angen y datganiad hwn. Rhaid i chi roi eich cyfeiriad cartref llawn hyd yn oed os byddwch yn dewis peidio â'i gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.

Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi o hyd ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. 2   Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.

Ni chaiff y cyhoedd weld ffurflenni cyfeiriad cartref a chânt eu dinistrio ar ôl yr etholiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Chwefror 2024