Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cydsynio ag enwebiad

Rhaid i chi hefyd gydsynio'n ffurfiol â'ch enwebiad yn ysgrifenedig. 1

Rhagnodir cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad o dan y gyfraith a rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gyfan er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys. 

Ar y ffurflen, gofynnir i chi nodi eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll. Rhaid i chi hefyd roi eich dyddiad geni.

Ni chewch lofnodi'r ffurflen gydsynio yn gynt nag un ar ddeg ar hugain o ddiwrnodau calendr cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno eich papurau enwebu. 

Rhaid i rywun arall dystio eich llofnod, a rhaid i'r tyst lofnodi'r ffurflen a rhoi ei enw a'i gyfeiriad llawn. 

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023