Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Y ffurflen enwebu

Gallwch gael papurau enwebu gan Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Rhoddir manylion cyswllt ar ein gwefan. Fel arall, rydym wedi llunio dwy gyfres o bapurau enwebu sy'n cynnwys yr holl ffurflenni sydd eu hangen i enwebu ymgeisydd ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu.

 

 

Dylai eich enw a'ch disgrifiad (os byddwch yn dewis defnyddio un) gael eu nodi ar y ffurflen enwebu cyn i chi ofyn i lofnodwyr lofnodi'r ffurflen. 

Rhaid i'r ffurflen enwebu gael ei chwblhau yn Gymraeg neu'n Saesneg. 

Rhaid i'r ffurflen gynnwys: 

Eich enw llawn 1
  • Nodwch eich cyfenw ac enwau eraill yn llawn. 
  • Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu. 
  • Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Cyngh. fel rhan o'ch enw. 
  • Mae'r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ddefnyddio hwn fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai Joseph Smith yw eich enw gwirioneddol, ond mai eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallwch ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.
Llofnodion 100 o etholwyr cofrestredig 2
  • Fe'u gelwir hefyd yn llofnodwyr o ardal yr heddlu. 
  • Rhaid i'ch llofnodwyr ymddangos ar gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yn ardal yr heddlu sydd mewn grym 25 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar lofnodwyr.

Disgrifiad

Gallwch hefyd ddewis defnyddio disgrifiad ar eich papur enwebu.  Mae'r math o ddisgrifiad y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar b'un a ydych yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd plaid.  
 

Ymgeiswyr AnnibynnolDim ond “Annibynnol” y gallwch ei ddefnyddio fel eich disgrifiad
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol 

Gallwch ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid.

Os ydych am ddefnyddio enw neu ddisgrifiad plaid, mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno, ynghyd â'ch papurau enwebu eraill, dystysgrif sy'n dangos fod gennych awdurdodiad i ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid.  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y dystysgrif awdurdodi.
 

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio disgrifiad. Os byddwch yn dewis peidio â defnyddio disgrifiad, gallwch adael maes disgrifiad y ffurflen enwebu yn wag.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2024