Gofynion ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth benodol ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran plaid wleidyddol am y wybodaeth ychwanegol y mae'n ofynnol ei chyflwyno fel rhan o'u papurau enwebu.
Er mwyn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig, rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk a bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru (os ydych yn sefyll etholiad mewn ardal yr heddlu yng Nghymru) neu Loegr (os ydych yn sefyll etholiad mewn ardal yr heddlu yn Lloegr). 1
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno tystysgrif awdurdodi i allu sefyll ar ran y blaid honno. Os ydych hefyd am ddefnyddio arwyddlun y blaid, bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen gais am arwyddlun fel rhan o'ch enwebiad.