Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cais i ddefnyddio arwyddlun ar y papur pleidleisio

Os ydych wedi eich awdurdodi gan blaid wleidyddol i ddefnyddio enw'r blaid neu ddisgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio, gallwch hefyd wneud cais am i un o arwyddluniau swyddogol y blaid gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl eich enw. 1

Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig am arwyddlun a'i gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Rhaid i'r cais ddod i law Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.  2

Gall plaid gofrestru hyd at dri arwyddlun. Efallai y byddwch am holi'ch plaid (e.e y Swyddog Enwebu neu rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran) ynghylch pa arwyddlun i'w ddefnyddio. Cofiwch wneud cais am arwyddlun cyfredol.

Caiff ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran dwy blaid gofrestredig neu fwy ac sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddefnyddio arwyddlun sydd wedi'i gofrestru gan un o'r pleidiau gwleidyddol. 3  Mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a'i gyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn i'r enwebiadau gau, h.y. 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.  Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn rhoi ffurflen i chi y gallwch ei defnyddio i wneud y cais hwn, neu, fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun a gynhyrchwyd gan y Comisiwn.

Dylai'r cais nodi enw'r blaid wleidyddol a'r disgrifiad o'r arwyddlun i'w ddefnyddio, fel y'u rhestrir ar gofrestr ar-lein o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn. Ni ellir newid arwyddluniau cofrestredig mewn unrhyw ffordd.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024