Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Deisebau etholiadol

Gellir defnyddio deiseb etholiadol i herio canlyniad etholiadau. Gall deiseb ar gyfer etholiad Senedd y DU gael ei chyflwyno gan:1  

  • unigolyn sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
  • unigolyn sy'n honni bod ganddo hawl i gael ei ethol yn yr etholiad, neu
  • unigolyn a bleidleisiodd neu a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad

Ni chaiff etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw gyflwyno deiseb etholiadol.

Beth yw'r sail dros ddeiseb etholiadol?

Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb etholiadol mewn perthynas ag etholiad Senedd y DU yw bod y canlynol wedi digwydd:

  • etholiad amhriodol, neu
  • ganlyniad amhriodol2

Pwy fydd yr ymatebydd?

Yr unigolyn sydd wedi'i (h)iawn ethol y ceir amheuaeth ynghylch ei (h)ethol ei wneud fydd yr ymatebydd i'r ddeiseb. Os bydd y ddeiseb yn ymwneud â threfn cynnal yr etholiad, efallai y byddwch hefyd yn ymatebydd i'r ddeiseb fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). 

Dyddiadau cau a lleoliadau ar gyfer cyflwyno deisebau

Yng Nghymru a Lloegr, y llys priodol ar gyfer ymdrin â deisebau yw’r Uchel Lys. Yn yr Alban, Llys y Sesiwn yw’r llys priodol. 
 
Fel arfer rhaid i ddeiseb mewn etholiad Senedd y DU gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad dychwelyd y gwrit i Glerc y Goron (a fydd yn y rhan fwyaf o achosion y diwrnod ar ôl yr etholiad).3  

Dylid cynghori unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol a'r broses o gyflwyno deisebau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cadarnhad ynglŷn â'r dyddiadau cau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Deisebau Etholiadol:  

The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL

E-bost: [email protected]
Ffôn: 020 7947 6877
Ffacs: 0870 324 0024

Yn yr Alban, dylech gysylltu â'r Adran Ddeisebau:

The Petitions Department
Court of Session
Parliament Square
Edinburgh EH1 1RQ

E-bost: [email protected]
Ffôn: 0131 240 6747
Ffacs: 0131 240 6711

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ionawr 2024